Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Nid yw'r gwasanaeth Corneli Clip ar gael ar hyn o bryd oherwydd problemau technegol. Rydym yn gweithio i ddatrys y rhain mor fuan â phosib. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Yn bresennol:
Aelodau'r Bwrdd:
Tîm Gweithredol:
Hefyd yn bresennol:
Cofnodion:
Ymddiheuriadau:
1.1 Croeso gan y Cadeirydd a sylwadau agoriadol
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod, gan ymddiheuro am yr angen i newid dyddiad y cyfarfod.
1.2 Datganiadau o fuddiannau sy'n berthnasol i'r agenda
Datganodd y staff oedd yn bresennol fudd yn y trafodaethau ar y cylch gorchwyl cyflog fel cyflogeion y Llyfrgell.
Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod arbennig 3 Hydref 2024 fel cofnod cywir o’r materion a drafodwyd.
2.1 Adroddiad y Prif Weithredwr
Cyflwynodd y Prif Weithredwr ei adroddiad, gan dynnu sylw at y materion penodol canlynol;
Mae Rhaglen Newid ac Adnewyddu wedi ei llunio, sydd wedi ei rhannu gyda staff ar y fewnrwyd. Mae tasglu mewnol o staff a chynrychiolwyr undebau wedi ei ffurfio i yrru a goruchwylio’r rhaglen. Cytunodd y Prif Weithredwr i rannu’r Rhaglen gydag aelodau’r Bwrdd.
Mae bron pob un o’r 24 aelod staff wedi gadael o dan y Cynllun Diswyddo Gwirfoddol, ac mae effaith yr ymadawiadau i’w gweld ar waith craidd y Llyfrgell mewn ambell adran.
Bu arddangosfa Delfryd a Diwylliant, ddaeth i ben ddechrau mis Medi, yn un llwyddiannus dros ben. Roedd ffigyrau ymwelwyr 25% yn uwch na’r cyfnod cyfatebol yn 2019. Dyma hefyd y cyfnod prysuraf o ran ymwelwyr ers 2011.
Cynhaliwyd diwrnod llawn gweithgareddau ar 19 Medi i ddathlu Gŵyl Ganol Hydref Tsieineaidd, gan weithio mewn partneriaeth gyda’r Gymdeithas Tsieneaid yng Nghymru.
Lansiwyd cyfres deledu Cyfrinachau’r Llyfrgell ar 12 Medi mewn noson arbennig yn y Llyfrgell. Mae S4C wedi cyhoeddi ei bod am gomisiynu ail gyfres, ac mae’r gwaith ffilmio’n digwydd ar hyn o bryd.
Lansiwyd arddangosfa Dim Celf Gymreig ar 15 Tachwedd, arddangosfa sydd wedi ei churadu yn arbennig dan ofal yr hanesydd celf a churadur nodedig, Peter Lord.
Cyfarfu’r Prif Weithredwr a’r Llywydd gyda Jack Sargeant AS, Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol ar 17 Hydref, a chafwyd cyfle i gyfarfod Arlywydd Llydaw a’r Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies mewn derbyniad ar 12 Tachwedd.
Mynychodd y Prif Weithredwr gyfarfod o’r llyfrgelloedd adnau cyfreithiol. Yn dilyn yr ymosodiad seiber ar y Llyfrgell Brydeinig, nid ydynt wedi adfer y gwasanaeth adnau cyfreithiol di-brint, ac yn annhebygol o’i adfer tan y flwyddyn newydd. Mae system newydd yn cael ei phrofi, a bydd cyfarfod brys gyda Phrif Weithredwr newydd y Llyfrgell Brydeinig ym mis Ionawr i gymeradwyo ail gychwyn y gwasanaeth adnau cyfreithiol di-brint.
Oriel Gelf Gyfoes - mae’r Llyfrgell wedi cwblhau’r gwaith o ddigido ei chasgliad celf gyfoes, ac wedi cyflogi Swyddog Benthyciadau Cymunedol. Bydd model gwasgaredig yn cael ei ddefnyddio i ymgysylltu á’r orielau partner.
3.1 Cynllun Strategol
Diolchwyd i aelodau’r Bwrdd am eu mewnbwn i’r Cynllun Strategol.
Os yw’r Bwrdd yn cymeradwyo’r cynllun, yna bydd yn cael ei rannu gyda staff yn dilyn y cyfarfod, a thrafodaeth bellach yn digwydd gyda swyddogion Llywodraeth Cymru. Bydd y ddogfen yn cael ei dylunio, ac yna mynd allan i ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Ionawr.
Nododd y Prif Weithredwr mai’r datblygiadau blaenoriaeth yn Adran 8 yw prif brosiectau’r Llyfrgell am y blynyddoedd nesaf, sydd eisoes wedi eu cymeradwyo, ac mae’n awyddus i gadw’r ymrwymiadau yma fel y maent yn ymddangos yn y ddogfen.
Bydd amserlen ar gyfer cyflawni’r datblygiadau blaenoriaeth yn cael ei drafftio ynghyd á chynlluniau gweithredu, prif ddangosyddion cyflawni a chyllidebau.
Roedd y Bwrdd yn hapus i gymeradwyo’r Cynllun Strategol.
3.2 Cynllun Gweithredu Argymhellion Beaufort
Yn dilyn cyflwyniad cwmni Beaufort i’r Bwrdd ym mis Medi, cyflwynodd Rhian Gibson gynllun gweithredu ar gyfer cyflawni’r argymhellion. Mae bwriad creu sesiynau ymwybyddiaeth a fideos i hyrwyddo’r Llyfrgell, a bydd cais yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd am arian penodol i wneud y gwaith yma, fydd tua £50k. Bydd y cynllun gweithredu yma ynghyd á’r Cynllun Strategol newydd yn cael eu defnyddio i ail lansio hyrwyddo’r Llyfrgell.
Mae cwmni Slam wedi creu 3 ffilm i’r Llyfrgell, a bydd y rhain yn cael eu defnyddio flwyddyn nesaf, o bosib adeg lansio’r Cynllun Strategol.
Gofynnwyd i Rhian greu cynllun syml ar gyfer y gwaith hyrwyddo yma i’w drafod a’i gymeradwyo gan y Bwrdd yn ei gyfarfod ar 10 Ionawr 2025.
3.3 Cynllun Pensiwn – penodi Ymddiriedolwr
Yn dilyn ymadawiad Anwen Jones o’r Bwrdd, mae bwlch ar y Bwrdd Cynllun Pensiwn. Gofynnodd y Cadeirydd i unrhyw aelod sydd á diddordeb ymuno á’r Bwrdd Cynllun Pensiwn i gysylltu gydag ef.
3.4 Penodi aelod annibynnol i’r Pwyllgor Archwilio, Risg a Sicrwydd
Derbyniwyd 5 cais, a chafodd dau unigolyn eu cyfweld. Yn dilyn hynny, penodwyd Bruce Roberts, cyfrifydd siartredig a chyfarwyddwr cwmni Bruce Roberts & Co - cwmni annibynnol o gyfrifwyr siartredig wedi ei leoli yn Wrecsam. Cymeradwywyd y penodiad gan y Bwrdd.
3.5 Penodi Ymddiriedolwyr
Yn dilyn ymgyrch hynod o lwyddiannus, ble derbyniwyd 9 cais, mae’r Llyfrgell wedi penodi 4 Ymddiriedolwr newydd i wasanaethu ar Fwrdd y Llyfrgell.
Bydd Dr Mohini Gupta, Michael Gibbon K.C. a Heledd Bebb yn cychwyn ar 1 Ionawr 2025 am dymor o 4 mlynedd, a bydd Dr Andrew Prescott yn cychwyn ar 1 Mai 2025, pan fydd tymor Lee Yale-Helms wedi dirwyn i ben. Bydd Andrew yn mynychu cyfarfod y Bwrdd ym mis Mawrth fel sylwedydd.
Diolchwyd i’r Clerc am drefnu’r ymgyrch, a chroesawyd y penodiadau fydd yn dod a phrofiad a sgiliau gwahanol i’r Bwrdd. Cymeradwywyd y penodiadau gan y Bwrdd, a bydd datganiad i’r wasg yn cael ei ryddhau am 13.00 heddiw.
3.6 Rheoliadau’r Llyfrgell
Mae mân newidiadau, sydd wedi eu rhannu gyda’r aelodau, wedi eu gwneud i’r Rheoliadau. Cyflwynwyd y Rheoliadau diwygiedig i’r Pwyllgor, Perfformiad, Ansawdd a Llywodraethiant ar 22 Hydref, ac argymhelliad y pwyllgor yw i’r Bwrdd gymeradwyo’r Rheoliadau diwygiedig.
Cymeradwywyd y Rheoliadau gan y Bwrdd.
3.7 Fframwaith Llywodraethiant Corfforaethol
Gwnaethpwyd fan newidiadau i’r Fframwaith sydd wedi eu rhannu gyda’r aelodau. Nid oedd yn bosibl cyflwyno hwn i’r Pwyllgor Perfformiad, Ansawdd a Llywodraethiant ymlaen llaw.
Cymeradwywyd y Fframwaith gan y Bwrdd.
3.8 Adroddiad Blynyddol Iechyd, Diogelwch a Lles
Cyflwynwyd yr adroddiad yma i’r Pwyllgor Perfformiad, Ansawdd a Llywodraethiant ar 22 Hydref, gyda’r argymhelliad i’r Bwrdd ei gymeradwyo.
Cymeradwywyd yr adroddiad gan y Bwrdd.
3.9 Adroddiad Blynyddol Cydraddoldeb, Amrywedd a Chynhwysiant
Cyflwynwyd yr adroddiad yma i’r Pwyllgor Perfformiad, Ansawdd a Llywodraethiant ar 22 Hydref, gyda’r argymhelliad i’r Bwrdd ei gymeradwyo. Gofynnwyd i Annwen Isaac gylchredeg linc i’r wefan i’r aelodau sy’n cynnwys ystadegau 2024.
Cymeradwywyd yr adroddiad gan y Bwrdd.
3.10 Cylch Gorchwyl Cyflog
Cyflwynodd Mererid Boswell y cylch gorchwyl cyflog, gan nodi, oherwydd na fydd y gyllideb yn cael ei chyhoeddi tan wythnos nesaf, nad yw wedi bod yn bosibl cynnwys eglurder ar sut bydd y dyfarniad yn cael ei ariannu. Nododd Mererid y byddai’n rhaid talu’r dyfarniad o gronfeydd preifat y Llyfrgell am y tro.
Gofynnwyd am doriad o staff fesul bandiau cyflog i’w gyflwyno i’r Bwrdd yn ei gyfarfod ar 10 Ionawr 2025.
Cymeradwywyd y cylch gorchwyl cyflog gan y Bwrdd.
4.1 Adroddiadau Ariannol
4.1.1 Cyfrifon Blynyddol 2023/24
Ar ôl treulio 4 wythnos yn archwilio'r Cyfrifon Blynyddol, derbyniwyd cais gan Archwilio Cymru ar 23 Hydref i werthuso’r adeilad. Talwyd £7,000 i Cooke and Arkwright gynnal y gwerthusiad a derbyniwyd y gwerthusiad ar 21 Tachwedd. Mynegwyd pryder fod hyn wedi codi yn hwyr iawn yn y broses archwilio, a gofynnwyd i Mererid archwilio i opsiynau amgen os oes modd i’r Llyfrgell symud at archwilwyr eraill.
Bydd cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Archwilio, Risg a Sicrwydd ar 19 Rhagfyr i graffu ar y cyfrifon terfynol cyn iddynt gael eu cyflwyno i’r Bwrdd yn ei gyfarfod ar 10 Ionawr 2025.
4.1.2 Cyfrifon Rheoli Hydref 2024
Cyflwynwyd cyfrifon rheoli Hydref 2024 gan Mererid Boswell. Er bod y gyllideb yn dangos £233k o golled, mae’r alldro tybiannol yn unol á’r gyllideb.
Cymeradwywyd y cyfrifon rheoli gan y Bwrdd.
4.1.3 Ymrwymiadau’r Cronfeydd Preifat
Cafwyd diweddariad llafar gan Mererid Boswell, a nododd fod buddsoddiadau’r Llyfrgell yn perfformio’n dda. Cafwyd cyflwyniad gan Investec – cwmni buddsoddi’r Llyfrgell ar 5 Tachwedd, ac mae’r Llyfrgell yn hapus gyda sut maent yn trin portffolio’r Llyfrgell, a’u ffioedd.
Cafwyd diweddariad gan y Prif Weithredwr ar sefyllfa’r cynllun pensiwn. Mae nifer o gyfarfodydd wedi eu cynnal gyda’r Cyngor Partneriaeth, Willis Towers Watson a chyfreithwyr y Bwrdd Cynllun Pensiwn i ddrafftio dogfen ymgynghori. I sicrhau bod y ddogfen yn glir a chywir, ni fydd yn cael ei chyflwyno i staff tan y flwyddyn newydd.
4.1.4 Tendr yr Hafod
Derbyniwyd tendrau ar gyfer prosiect yr Atriwm (Hafod) ar 25 Tachwedd 2024. Oherwydd oedi cyn cael caniatâd cynllunio, roedd 16 mis wedi mynd heibio ers y dylunio gwreiddiol a dogfennau tendro terfynol, ac o ganlyniad i chwyddiant, roedd y prisiau’n sylweddol uwch nag a ddisgwyliwyd.
Byddai bwrw ymlaen gyda’r prosiect yn ymrwymo GIA cyfalaf yn gyfan gwbl am y 2 flynedd nesaf, fyddai’n golygu gorfod gohirio’r gwaith datgarboneiddio am 3 blynedd, a gohirio’r holl waith cyfalaf arall tan 2027-28.
Roedd Quentin Howard, cadeirydd y Panel Adeiladau, ac Andrew Evans, cadeirydd y Grŵp Gofod Storio yn argymell na ddylid symud ymlaen gyda’r prosiect, gan nad oedd yn gost effeithiol. Ar sail hyn, penderfynodd y Bwrdd i beidio bwrw ymlaen gyda’r prosiect, ond gofyn i’r Grŵp Gofod Storio a’r Panel Adeiladau gychwyn adnabod opsiynau amgen am ofod storio i ffwrdd o dir y Llyfrgell. Gofynnwyd hefyd am ddogfen yn gosod allan gwersi a ddysgwyd o’r prosiect yma.
4.2 Cydymffurfiaeth a Risg
4.2.1 Cofrestr Risg Corfforaethol
Mae sgôr 2 risg wedi codi;
Methiant i ddiogelu casgliadau o bwys cenedlaethol a rhyngwladol - yn dilyn penderfyniad i beidio parhau gyda phrosiect yr Atriwm (Hafod), mae’r risg o ddiffyg gofod storio yn cynyddu, ac angen gweithredu brys.
Methiant i gyflawni lefel uchel o lywodraethiant - risg tymor byr i lywodraethiant oherwydd staff llywodraethiant allweddol yn gadael trwy ddiswyddo gwirfoddol, a’r angen i addasu i strwythur newydd.
Mae RSM yn gwneud archwiliad risg, a bydd holiadur yn cael ei ddosbarthu wythnos nesaf i aelodau’r Bwrdd i gael eu barn am sut mae’r Llyfrgell yn rheoli risg.
Croesawodd y Bwrdd y fformat o daenlen Excel ar gyfer cyflwyno risgiau corfforaethol y Llyfrgell, ond gofynnwyd a fyddai modd cynnwys saethau yn ogystal er eglurder.
5.1 Cofnodion Drafft Archwilio, Risg a Sicrwydd 8.10.24
Atgoffodd y cadeirydd, Janet Wademan, yr aelodau o’r cyfarfod arbennig o’r pwyllgor fydd yn cael ei gynnal ar 19 Rhagfyr i graffu ar y Cyfrifon Blynyddol.
Ni chafwyd unrhyw gwestiynau na sylwadau ar y cofnodion gan yr aelodau.
5.2 Cofnodion Drafft Perfformiad, Ansawdd a Llywodraethiant 22.10.24i
Cyflwynwyd y cofnodion gan y cadeirydd, Ashok Ahir. Ni chafwyd unrhyw gwestiynau na sylwadau ar y cofnodion gan yr aelodau.
5.3 Cofnodion Drafft Cyllid ac Adnoddau 5.11.24
Cyflwynwyd y cofnodion gan y cadeirydd, Gronw Percy. Ni chafwyd unrhyw gwestiynau na sylwadau ar y cofnodion gan yr aelodau.
6.1 Defnydd o Sêl y Llyfrgell
Adroddwyd bod sêl y Llyfrgell wedi ei ddefnyddio ar 2 ddogfen, ac mae hyn yn cael ei adrodd i’r Bwrdd yn unol á’r Rheoliadau.
Ffarwelio
I orffen, cyflwynwyd anrheg ar ran y Bwrdd i’r Clerc, oedd yn mynychu ei chyfarfod olaf o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ac yn gorffen yn y Llyfrgell heddiw. Diolchwyd iddi gan y Cadeirydd a dymunwyd yn dda iddi at y dyfodol.
Pwyntiau i’w gweithredu /materion angen sylw pellach
Gweithred | Cyfrifoldeb | Erbyn | Statws |
---|---|---|---|
Adroddiad y Prif Weithredwr | |||
Rhannu’r Rhaglen Newid ac Adnewyddu gydag aelodau’r Bwrdd | Prif Weithredwr | Yn dilyn y cyfarfod | ✓ |
Cynllun Gweithredu Argymhellion Beaufort | |||
Drafftio cynllun gweithredu ar y gwaith o hyrwyddo’r Llyfrgell | Rhian Gibson | I’w gyflwyno yng nghyfarfod y Bwrdd 10.1.25 | |
Cynllun Pensiwn- Penodi Ymddiriedolwr | |||
Aelod o’r Bwrdd i wirfoddoli i fod yn aelod o’r Cynllun Pensiwn | Aelodau’r Bwrdd | Erbyn cyfarfod Bwrdd 10.1.25 | |
Adroddiad Blynyddol Cydraddoldeb, Amrywedd a Chynhwysiant | |||
Cylchredeg linc i’r wefan – ystadegau 2024 | Annwen Isaac | Yn dilyn y cyfarfod | ✓ |
Cylch Gorchwyl Cyflog | ✓ | ||
Cylchredeg niferoedd staff fesul bandiau cyflog i’r aelodau | Mererid Boswell | I’r gyflwyno yng nghyfarfod y Bwrdd 10.1.25 | |
Cyfrifon Blynyddol 2023/24 | |||
Ymchwilio i opsiynau amgen o ran archwilwyr | Mererid Boswell | Yn dilyn y cyfarfod | |
Tendr yr Hafod | |||
Ymchwilio o opsiynau amgen o ran gofod storio | Panel Adeiladau a Grŵp Gofod Storio | Cyfarfod nesaf y Panel a’r Grŵp ar 16.2.25 | |
Drafftio dogfen gwersi a ddysgwyd o’r prosiect | Mererid Boswell / Mark Stevens | I’w gyflwyno i’r Panel Adeiladau ar 16.2.25 |