Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Beth oedd yn digwydd yng Nghymru ym 1926?
Trefnwyd Streic Gyffredinol yn y Deyrnas Unedig o 4 i 12 Mai 1926. Aeth llawer o weithwyr ar streic i gefnogi'r glowyr yn eu brwydr dros gyflog ac amodau. Yn yr arddangosfa hon rydym hefyd yn dangos llyfrau a gyhoeddwyd gan awduron benywaidd, ac yn gweld Cymru mewn cyd-destun ehangach trwy fapiau o Gymru a gweddill y byd. Rydym yn nodi canmlwyddiant Portmeirion, y pentref arddull Eidalaidd a ddyluniwyd gan Clough Williams-Ellis; ac mae ffotograffau teuluol yn rhoi cipolwg ar ffasiynau'r dydd.
Effeithiodd y Streic Gyffredinol ar gynhyrchu a dosbarthu papurau newydd dyddiol felly sefydlwyd y British Gazette gan y Llywodraeth i hyrwyddo ei safbwynt. Cynhyrchwyd papur newydd cystadleuol, y British Worker, gan Gyngres yr Undebau Llafur i roi safbwynt y streicwyr.
Nodyn yn llaw David Davies AS, a ddaeth yn ddiweddarach yn Arglwydd Davies o Landinam (1880-1944), yn rhestru telerau posibl ar gyfer dod â streic y glowyr i ben. Roedd Davies yn gyfranddalwr sylweddol a chadeirydd Cwmni Glo Yr Ocean.
Dyma drawsgrifiad o'r nodyn:
Ocean Coy Possible terms for re-opening colleries Eight hour day Wages – terms offered by S[outh] W[ales] Federation. What percentage reduction does this involve on present wages? Suppose 10% Same percentage reduction on all officials’ salaries, directors’ fees etc. Arbitration – conciliation committee, arbitration tribunal. Pit committees elected by ballot. (over page) Employee shares Representation on Board Publication of accounts Reply to letters from Mining Assoc. and S[outh] W[ales] M[ining] Assoc. Amendments to cal bill arbitration machinery Commission’s Report clause Legality of compensation Strike money – payments to seceding members Representation on Assoc Rule of Assoc
Yn ystod y Streic Gyffredinol, galwodd y Llywodraeth am wirfoddolwyr i weithredu fel Cwnstabliaid Arbennig i gynorthwyo'r heddlu rheolaidd ac ymgymryd â dyletswyddau a gyflawnwyd fel arfer gan y rhai ar streic. Derbyniodd y rhai oedd wedi cofrestru dystysgrifau fel yr un yma a gyflwynwyd i Arthur Stanley Davies o'r Trallwng.
Drafft o The Angry Summer, cerdd yn myfyrio ar streic y glowyr a Streic Gyffredinol 1926 gan Idris Davies (1905-1953). Roedd Davies yn löwr yn Rhymni adeg y streic ac ysgrifennodd y drafft hwn yn haf 1941.
Dyma ddetholiad o archifau eraill sy'n ymwneud â Streic 1926.
Mae'r arddangosfa'n cynnwys detholiad o ffotograffau o gasgliad y ffotograffydd o Bwllheli, Guy Hughes. Mae'r sleidiau nitrad yn dyddio Tachwedd i Rhagfyr 1926 ac yn dangos rhai o breswylwyr Pen Llŷn wedi'u tynnu o'i stiwdio.
Dyluniwyd pentref Portmeirion gan y pensaer Cymreig Clough Williams-Ellis (1883-1978), gyda'r gwaith adeiladu yn dechrau ym 1926. Mae brwdfrydedd Williams-Ellis dros Bortmeirion yn cael ei bortreadu yn ei ohebiaeth at y newyddiadurwraig Jan Morris (gynt James Morris), lle mae'n cyfaddef ei 'dread of the dull'. Mae llyfr Whittington Press (tua 2008) yn darlunio tirwedd Baróc Portmeirion, tra bod y llyfr arall (1985) yn cynnwys logo 'Rhif 6' o'r sioe deledu 'The Prisoner' (1967-1968), a ffilmiwyd ym Mhortmeirion.
Dangosir eitemau arall yn yr arddangosfa, yn cynnwys penddelw o Syr Clough Williams-Ellis gan Hans Feibusch (1898-1998), ca. 1978.
Drama gomedi mewn un act a gyhoeddwyd gyntaf yn 1926. Cyd-ysgrifennwyd gan Betty Eynon Davies, Margaret Price, ac hefyd Kate Roberts ‘Brenhines ein Llên’.
Roedd Dorothy Edwards (1902-1934) yn awdur straeon byrion a nofelydd o Forgannwg a ysgrifennodd yn Saesneg. Roedd hi'n gysylltiedig â Grŵp Bloomsbury yn Llundain.
Roedd Hilda Vaughan (1892-1985) yn awdures Gymreig a gyhoeddodd fwy na deg nofel, dau gasgliad o straeon byrion, a sawl drama yn ystod ei hoes. Dyma ei hail nofel sydd yn cynnig sylwebaeth gymdeithasol finiog ar ddosbarth a bywyd gwledig ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Gweld y cofnod catalog i'r argraffiad newydd.
Wedi'i gyhoeddi ym 1926, mae'r atlas hwn yn dangos y prif safbwynt ar fyd yr ymerodraeth ar y pryd. Mae'n cynnwys ffotograffau o bob cwr o'r byd i roi blas o fywyd yn y trefedigaethau i bobl ym Mhrydain. Mae'r atlas yn canolbwyntio ar yr adnoddau a'r deunyddiau crai a ddarparwyd gan wahanol ardaloedd, yn ogystal â dangos gwleidyddiaeth hiliol y cyfnod. Ni chrybwyllir y boblogaeth frodorol.
Map yn dangos y cyfrifiad arbennig 1925 ar gyfer siroedd Donegal, Mayo, Galway, Kerry, Cork a Waterford a rhannau o siroedd Sligo, Roscommon, Clare, Limerick a Tipperary, 1926 Cynhaliwyd yr arolwg hwn o gyfran y siaradwyr Gwyddeleg ym 1925. Mapiodd ffiniau'r Gaeltacht am y tro cyntaf. Diffinwyd ardaloedd gydag o leiaf 80% o siaradwyr Gwyddeleg fel Gaeltacht. Dangosodd y cyfrifiad arbennig ostyngiad sylweddol yn nifer y siaradwyr Gwyddeleg a helpodd i dargedu polisïau i gefnogi'r iaith.