Symud i'r prif gynnwys

Gorchfygu gelyn cyffredin oedd wedi cadw'r Undeb Sofietaidd ac Unol Daleithiau America yn gynghreiriaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wedi rhwystro'r bygythiad Natsïaidd, daeth y drwgdeimlad traddodiadol rhwng y dwyrain comiwnyddol a'r gorllewin cyfalafol yn ôl i'r amlwg eto.

Rhannwyd y byd ar sail cefnogaeth i'r archbwerau. Yn ffodus, llwyddwyd i osgoi rhyfel uniongyrchol rhwng y ddau archbwer, ond daeth y tyndra i'r golwg mewn llefydd fel Berlin, Korea, Fiet-nam a Chiwba ar adegau gwahanol trwy'r 1940au, y 1950au a'r 1960au.

Mae'r cartŵn hwn yn cyfeirio at gartŵn arall, 'The plum pudding in danger', gan James Gilray. Yn y cartŵn gwreiddiol gwelir William Pitt a Napoleon yn rhannu'r byd, wedi ei bortreadu fel pwdin rhyngddynt. Mae fersiwn cyfoes Illingworth yn dangos Lyndon Johnson a Kosygin yn eu lle.

Berlin

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, rhannwyd yr Almaen yn bedwar sector o dan awdurdod gwahanol aelodau'r gynghrair: Ffrainc, Prydain, yr Unol Daleithiau a'r Undeb Sofietaidd. Safai Berlin yn y sector Sofietaidd, ond rhannwyd y brifddinas hithau yn bedwar sector hefyd o dan awdurdod y gwahanol gynghreiriaid. Yn dilyn anghydfod yn y trafodaethau ar sefydlu llywodraeth i'r Almaen ym mis Mehefin 1948, rhwystrodd y Sofietiaid bob trafnidiaeth ar dir i mewn i sectorau'r cynghreiriaid eraill ym Merlin gan achosi prinder bwyd a nwyddau yno. Ateb y gorllewin oedd Awyrgludiad Berlin, sef hedfan miloedd ar filoedd o dunelli o fwyd a nwyddau i'r boblogaeth yno. Parhaodd yr awyrgludiad tan fis Medi 1949, bedwar mis ar ôl i'r Sofietiaid ail agor cysylltiadau tir a hynny er mwyn medru ail-gyflenwi'r ddinas. Mae'r cartwnau isod yn dyddio o gyfnod yr awyrgludiad.

Cartwnau yn cyfeirio at Awyrgludiad Berlin.

Korea

Fel rhan o'r amodau heddwch ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, rhannwyd Korea yn ddwy ran, gyda'r Undeb Sofietaidd yn llywodraethu'r rhan ogleddol, a'r Unol Daleithiau yn llywodraethu'r rhan ddeheuol. Penododd y ddau archbwer lywodraethau yn eu sectorau, ond ym Mehefin 1950 ymosododd y gogledd ar y de.

Anfonodd Prydain a nifer o wledydd eraill filwyr i Korea o dan faner y Cenhedloedd Unedig, a bu eu hymgais i rwystro'r cyrch o'r gogledd yn llwyddiannus tan i Tseina ymuno yn y rhyfel. Erbyn haf 1951, a ffin y de a'r gogledd bron yn yr un man ag yr oedd yn y cyfnod cyn y rhyfel, cynhaliwyd trafodaethau heddwch a aeth ymlaen am ddwy flynedd.

Cartŵn yn cyfeirio at straen yn y berthynas rhwng Prydain a'r Unol Daleithiau oherwydd Korea.

Ciwba

Daeth Fidel Castro i rym yng Nghiwba ym 1959, ar ôl gwrthryfel i ddisodli'r unben Batista. Wedi ymgais gan ffoaduriaid o Giwba gyda chefnogaeth Americanaidd i'w ddisoldli yntau yn ei dro yn 1960, trodd Casto at yr Undeb Sofietaidd am gymorth. Oherwydd gofidion am ymosodiad arall, rhoddodd Castro ganiatâd i'r Undeb Sofietaidd gadw arfau niwclear ar yr ynys, gan wneud i'r Americaniaid ofni am eu diogelwch. Mynnodd yr Arlywydd Kennedy fod yr arfau yn mynd yn eu hôl, ac ar ôl chwe niwrnod o fod ar drothwy rhyfel niwclear, ildiodd Khrushchev, a chiliodd y bygythiad o ryfel.

Cartŵn yn cyfeirio at argyfwng Ciwba.

Safon Byw

Cyn yr Ail Ryfel Byd, yr oedd y rhan fwyaf o boblogaeth yr Undeb Sofietaidd yn dlawd, a lluniodd Stalin gyfres o gynlluniau pum mlynedd er mwyn moderneiddio'r wlad. Bwriad y cynlluniau hyn oedd moderneiddio diwydiant, yn hytrach na chodi safonau byw y bobl. Yn ystod y pumdegau canolbwyntiodd Khrushchev ar godi safonau byw, gan honni fod llywodraeth gomiwnyddol yn gallu cystadlu â system gyfalafol y gorllewin.

Cartŵn yn cyfeirio at ryfel propaganda rhwng y dwyrain â gorllewin ynglŷn â safonau byw.

Y Cynghreiriaid

Ceisiodd y ddwy ochr yn y Rhyfel Oer ddenu cefnogaeth y gwledydd eraill trwy gynnig pob math o gymorth ariannol, diwydiannol a milwrol. Lluniodd yr Americaniaid Gynllun Marshall i roi cymorth i wledydd yng ngorllewin Ewrop er mwyn rhwystro comiwnyddiaeth rhag lledu.

Cartŵn yn cyfeirio at yr Undeb Sofietaidd a'r Unol Daleithiau yn ceisio ennill cyfeillion yn y Rhyfel Oer.

Propaganda

Yr oedd gofid yn chwarae rhan bwysig yn y Rhyfel Oer. Mae'r cartŵn hwn yn cyfeirio at bryder yn y gorllewin y gallai'r Undeb Sofietaidd daro ar unrhyw eiliad, a phryderon ynglŷn â'r cynnydd yn ei phoblogaeth. Cyhoeddwyd y cartŵn hwn yn sgil canlyniad cyfrifiad yn yr Undeb Sofietaidd yn dangos fod poblogaeth y wlad wedi codi i 209,000,000.

Enghraifft o'r propaganda a defnyddiwyd i ddychryn pobl yn ystod y Rhyfel Oer.

Y Drwgdeimlad ac Ysbïo

Er bod ysbïo o ryw fath yn digwydd trwy'r amser ac ar bob ochr yn y Rhyfel Oer, crëwyd stŵr rhyngwladol gan y pwnc bob hyn a hyn. Ym mis Mai 1960 saethwyd awyren Americanaidd i lawr dros yr Undeb Sofietaidd ac oherwydd hynny, daeth uwch gynhadledd rhwng yr Undeb Sofietaidd, America, Prydain a Ffrainc i ben heb gytundeb. Mae'r cartŵn hwn yn cyfeirio at y darlun 'Father, I cannot tell a lie, I cut the tree', sy'n dangos George Washington yn cyfaddef y bai i'w dad, gydag Eisenhower yn cyfaddef y bai i Khrushchev y tro hwn.