Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Erbyn diwedd y pumdegau, yr oedd ymgyrch ddiarfogi niwclear unochrog o fewn y Blaid Lafur. Parhaodd yn bwnc llosg o fewn y blaid yn ystod y chwedegau hefyd fel y dengys y cartwnau isod.
Mae'r cartwnau yn dangos y dadleuon o fewn y Blaid Lafur rhwng aelodau CND fel Frank Cousins ac arweinwyr y blaid, Hugh Gaitskell, Harold Wilson a George Brown, a newid polisi y blaid i dderbyn arfau niwclear yn y chwedegau.
Ddiwedd y pumdegau, wedi i Ffrainc, Prydain, yr Unol Daleithiau ac o bosib yr Undeb Sofietaidd brofi a datblygu arfau niwclear, yr oedd gofid y byddai rhyfel niwclear yn dechrau. Fel ymateb i ofid nifer fawr, ffurfiwyd Ymgyrch Ddiarfogi niwclear (CND) ym mis Chwefror 1958.
Nod y mudiad oedd ymgyrchu yn erbyn datblygu arfau niwclear, a hyrwyddo diarfogi. Fis Ebrill 1958 cynhaliodd CND orymdaith o Ganolfan Arfau niwclear Aldermaston i Lundain. Dros y blynyddoedd nesaf cynhaliwyd nifer o brotestiadau o'r fath.
Mae'r cartwnau hyn yn cyfeirio at yr orymdaith gyntaf o Aldermaston i Lundain fis Ebrill 1958, gofidiau rhai y byddai diarfogi unochrog yn gwanhau amddiffynfeydd Prydain yn ystod y Rhyfel Oer, a'r ddadl o fewn y Blaid Lafur am arfau niwclear.
Yn ystod y Rhyfel Oer yr oedd y bygythiad o ymosodiad niwclear yn un go iawn, yn enwedig ar adegau pan oedd mwy o densiwn nag arfer rhwng gwledydd y gorllewin a'r dwyrain. Cyfeira Illingworth at arfau niwclear o fewn y cyd-destun hwn mewn nifer o'i gartwnau.
Mae'r cartwnau hyn yn cyfeirio at gytundeb i ddiarfogi, a arwyddwyd gan yr Unol Daleithiau a'r Undeb Sofietaidd, ond yng nghyd-destun tensiwn rhyngddynt oherwydd argyfwng Berlin, ymdrech ryngwladol aflwyddiannus i atal Ffrainc rhag arbrofi arfau niwclear ym 1960 a bywyd yng nghysgod Hiroshima a Nagasaki.
Ar ôl defnyddio arfau niwclear am y tro cyntaf yn Japan, cynhaliwyd profion arfau pellach yn ystod y 1940au, 1950au a'r 1960au. Wrth i'r byd ddod yn fwy ymwybodol o beryglon yr oes niwclear profai'r Americanwyr eu harfau yn Bikini Atoll yn y Môr Tawel.
Cyfeiria'r cartwnau yma at brofi arfau niwclear yn Bikini Atol ac arbrofion niwclear Ffrainc ddechrau'r chwedegau, a hynny yn wyneb protestiadau rhyngwladol.
Yn union ar ôl yr Ail Ryfel Byd prif bwnc trafod uwchgynadleddau rhyngwladol oedd yr Almaen a materion eraill yn ymwneud â'r rhyfel, ond erbyn y 1950au, y prif bwnc oedd arfau niwclear.
Cartwnau yn cyfeirio at uwchgynadleddau ryngwladol.