Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Roedd Dan Isaac Davies yn ysgolfeistr ac yn wladgarwr. Adnabyddir ef yn bennaf am arloesi dysgu Cymraeg mewn ysgolion. Daeth Davies yn feistr Ysgol Heol-y-Felin yn Aberdâr yn 1858, ac yno aeth yn groes i rai confensiynau oedd wedi eu gosod yn addysg Cymru ar y pryd. Torrodd Davies dir newydd drwy annog ei gynorthwy-ydd i ddefnyddio’r Gymraeg yn yr ystafell dosbarth, a dechreuodd ei ymgyrch i ddysgu’r iaith yn ysgolion Cymru. Yn dilyn ei apwyntiad yn Arolygwr Ysgolion yn 1868, cryfhaodd ei ymgyrch am addysg Gymraeg. Cefnogwyd menter debyg gan Gymdeithas y Cymmrodorion ac yn 1885 anerchodd Davies aelodau’r Cymmrodorion yn Llundain ar y testun. Yn yr un flwyddyn, cyfrannodd gyfres o erthyglau i’r ‘Faner’ ar destun dysgu Cymraeg mewn ysgolion; ail-argraffwyd rhain mewn cyfrol yn dwyn y teitl ‘Tair Miliwn o Gymry Dwy-ieithawg mewn Can Mlynedd’.