Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Oriel Hengwrt, sy'n dal arddangosfa Trysorau, ar gau ar Ddydd Llun 9 Medi. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Roedd Robert Owen yn Sosialydd Iwtopaidd, yn awdur, ac yn rheolwr, perchennog a diwygiwr ffatrïoedd blaengar. Magodd enwogrwydd o ganlyniad i’w theori ynghylch cymeriad ac ymddygiad unigolyn. Yn ei dyb, yr oedd nodweddion o’r fath yn cael eu siapio gan amgylchedd ac amgylchiadau. Yn ei gyfrol ‘A New View of Society’ ymhelaetha Robert Owen ar ei ddamcaniaeth. Canmolwyd ei waith gan Karl Marx a chafodd Owen gryn ddylanwad ar ddatblygiad Sosialaeth fodern. Er hynny, nid oedd yn boblogaidd ymysg llawer o enwadau a grwpiau crefyddol. Roedd Owen yn rhesymolydd nodedig ac felly seliodd ei weithrediadau a’i farn ar wybodaeth, yn hytrach na chrefydd ac emosiwn.