Symud i'r prif gynnwys


Awdur dychanol a thafarnwr oedd Jac Glan-y-Gors (John Jones). Nod yr awdur yn y llyfryn hwn oedd cyflwyno syniadau Thomas Paine i gynulleidfa eang o siaradwyr Cymraeg. Rhannai Jones yr un gwerthoedd â Paine ar destunau megis rhyfel, brenhiniaeth, yr Eglwys Wladol a hawliau dyn. Gwelir y gwerthoedd hyn yn ‘Toriad y dydd’. Chwaraeodd Jones ran bwysig yng nghymdeithasau Cymry Llundain ar ddiwedd y 18fed ganrif, ac roedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas y Cymreigyddion.