Symud i'r prif gynnwys


Maniffesto ar ffurf pamffled oedd ‘The Miners’ Next Step’ a ffurfiwyd ei gynnwys gan Bwyllgor Diwygio answyddogol. Daethpwyd a’r pwyllgor ynghyd gan Noah Ablett (glöwr ac arweinydd Undeb Llafur), yn ogystal ag A. J. Cook, Henry Mainwaring ac eraill. Maniffesto syndicalaidd ydyw, a rhoddwyd cryn gyhoeddusrwydd i’w gynnwys. Drwy ‘The Miners’ Next Step’ ymgyrchoedd y pwyllgor dros ddiwygiadau ym mherchnogaeth, rheolaeth a threfniant y pyllau glo, cafwyd cyfeiriad hefyd at greu undeb diwydiannol unigol a chynhwysfawr. Yn ogystal, cyflwynwyd y syniad y dylai’r diwydiant gael ei reoli a’i berchnogi gan weithwyr. Ysgogodd ‘The Miners’ Next Step’ trafodaethau dwys o fewn y maes diwydiannol ac mae’n hysbys heddiw am ei syniadau Syndicalaidd a Marcsaidd.