Symud i'r prif gynnwys


Roedd Thomas Roberts yn bamffledwr ac yn aelod blaenllaw o gymdeithasau Cymry Llundain ar ddiwedd y 18fed ganrif. Yn y cyhoeddiad hwn mae Roberts yn ymosod ar strwythur y taliadau degwm a’r Eglwys Wladol yn fwy cyffredinol. Mae hefyd yn gofyn am system gyfreithiol a deddfwriaethol sy’n gweithredu yn yr iaith Gymraeg yng Nghymru. Dylanwadwyd yr awdur yn fawr gan y Chwyldro Ffrengig.