Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Sefydlwyd Sefydliad ScottishPower yn 2013 i gefnogi gwaith elusennol ar draws Prydain.
Ers 2014 mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi cyflwyno ceisiadau blynyddol i’r Sefydliad am nawdd i gefnogi prosiectau addysgol a gweithgareddau Estyn Allan. Mae’r nawdd wedi cynorthwyo’r Llyfrgell i gwrdd â’i hymrwymiadau, sy’n cynnwys cefnogi rhaglenni a mentrau Llywodraeth Cymru.
Er mwyn coffáu canmlwyddiant marwolaeth bardd y Rhyfel Mawr, Ellis Humphrey Evans, cafodd prosiect fideo unigryw ei daflunio ar furiau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ystod wythnos y cofio ar ôl derbyn cefnogaeth gan ScottishPower Foundation.
Yn 2017 defnyddiwyd nawdd gan ScottishPower Foundation i gynhyrchu a chyflwyno gweithdai Estyn Allan ar fywyd a gwaith Hedd Wyn i ddisgyblion ysgolion cynradd. Fel rhan o’r prosiect comisiynwyd sioe ‘un dyn’ gan gwmni theatre Mewn Cymeriad i gydfynd â’r gweithdai, a chynhyrchwyd replica o awdl fuddugol y bardd yn Eisteddfod Genedlaethol 1917, Yr Arwr, gan y Llyfrgell Genedlaethol i’w arddangos yn ystod y sesiynau. Cynhaliwyd cyfres o’r gweithdai yn Yr Ysgwrn, y cartref lle magwyd Hedd Wyn, a lle bu’n fugail am y rhan fwyaf o’i oes cyn iddo orfod ymuno â’r fyddin yn Ionawr 1917.
Bu’r Gwasanaeth Addysg yn cydweithio gydag Ysgol Dolbadarn yn Llanberis i drefnu gweithdy Campwaith Mewn Ysgol ym mis Hydref, 2016. Gyda chymorth nawdd ScottishPower Foundation, cludwyd un o ddarluniau mwyaf gwerthfawr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Castell Dolbadarn gan J.M.W. Turner, i’r ysgol gynradd yn Llanberis. Bu disgyblion Blwyddyn 6 a myfyrwyr Blwyddyn 12 Ysgol Brynrefail, ysgol uwchradd gyfagos, yn dysgu am greu tirluniau yng nghwmni’r darlun gwreiddiol dan arweiniad artist lleol, Dylan Roberts. Yn ystod y prynhawn, bu’r disgyblion yn ymweld â Chastell Dolbadarn i ddylunio’r golygfeydd y bu William Turner yn eu paentio yn ystod ei ymweliad â’r ardal yn 1799.