Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Oriel Hengwrt, sy'n dal arddangosfa Trysorau, ar gau ar Ddydd Llun 9 Medi. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Da iawn i bawb a gystadlodd, roedd y beirniaid wedi'u plesio'n fawr gyda'r ymdrech a'r sgil gafodd ei arddangos yn y gystadleuaeth.
Ail-greu adeilad Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth mor fanwl gywir â phosib. Ceisiwch ail-greu Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar Minecraft neu unrhyw raglen arall gan ddefnyddio’r pecyn Her Adeiladu Digidol.
Llwythwch y ffeil hon i’ch cynorthwyo. Mae’n cynnwys cynlluniau’r adeilad, ffotograffau amrywiol a fideo. Gallwch ddefnyddio’r rhain fel canllaw o sut mae’r adeilad yn edrych wrth fynd ati i adeiladu ar Minecraft.