Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Diwrnod Meddiannu yw’r diwrnod pan mae amgueddfeydd, orielau, cartrefi hanesyddol, archifau a safleoedd treftadaeth yn gwahodd pobl ifanc i mewn i wneud swyddi a wneir fel arfer gan oedolion.
Plant Ysgol Pen Rhos fu'n meddiannu'r Llyfrgell eleni fel rhan o Ddiwrnod Meddiannu 'Kids in Museums'! Dyma gipolwg o'r gwaith a wnaethant.
Diwrnod Meddiannu (15.11.2018) Yr ail ddiwrnod meddiannu y flwyddyn hon! Tro yma, plant Blwyddyn 4 Ysgol Gymraeg Brynsierfel oedd yn meddiannu Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bu’r plant yn gweithio’n galed ar draws nifer o adrannau gwahanol.
Plant Ysgol Trimsaran a Ysgol Mynydd y Garreg yn stampio a didoli eitemau wrth iddynt gyrraedd y casgliad, cyrchu llyfrau ac eitemau eraill o’r casgliad ar gyfer darllenwyr, yn hongian arddangosfa, digido eitemau o’r casgliad, monitro diogelwch yr adeilad, gweithio yn y dderbynfa a thywys ymwelwyr o gwmpas ein arddangosfeydd.