Symud i'r prif gynnwys

Prif darged

Helpu plant mewn ysgolion ar draws Cymru i werthfawrogi a dathlu treftadaeth ddiwylliannol amrywiol. Adrodd straeon drwy lens pobl mewn gwahanol gymunedau ar draws Cymru; gweithio gydag ysgolion i ddarparu deunyddiau dysgu sy'n dathlu amrywiaeth ac ymgysylltu gwrth-hiliol. Mae’r prosiect wedi cael ei ariannu gan Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru.

Ysgol Bodhyfryd, Wrecsam a Bom Dia Cymru, CLPW

Roedd Ysgol Bodhyfryd eisiau dysgu mwy am eu cynefin, a’r cymunedau sy'n Wrecsam. Mae Bom Dia Cymru yn grŵp o siaradwyr Portiwgaleg sy’n cyfarfod yn wythnosol yn Wrecsam. Cafodd yr ysgol lawer o sesiynau gyda Bom Dia Cymru a oedd yn cynnwys:

  • Rhannu straeon
  • Dysgu brawddegau a geiriau Portiwgaleg
  • Cymharu dawnsiau gwerin o gasgliad y Llyfrgell
  • Perfformio dawnsiau gwerin
  • Creu darn o gelf gyda’i gilydd
  • Ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru gyda'i gilydd.

Ysgol Uwchradd Cathays, Caerdydd

Mae dysgwyr Ysgol Uwchradd Cathays wedi cynllunio murlun i gynrychioli’u cymuned. Roedd UNIFY, artistiaid sydd wedi creu nifer o furluniau enwog yng Nghaerdydd wedi cynnal 6 gweithdy gyda dysgwyr blwyddyn 7 mewn gwersi celf. Roedd y gweithdai yn cynnwys:

  • Ymweld â murluniau stryd ar draws Caerdydd
  • Ymchiwilio The Wales Window, Alabama gan John Petts a'i hanes.
  • Cyd-gynllunio murlun i ddathlu amrywiaeth yn y gymuned, ac arddangos sut y gallai celf gysylltu pobl. 

Ysgol Gynradd Monkton Priory, Sir Benfro

Nod y prosiect oedd dysgu mwy am adrodd straeon a straeon gwerin yng Nghymru. Daw tua 40% o ddysgwyr Monkton Priory o gefndir Sipsiwn a Theithwyr. Roedd cyfleoedd i:

  • Ddysgu mwy am straeon gwerin Sipsiwn, Teithwyr a Romani mewn gweithdy adrodd straeon gyda'r awdur Richard O'Neill.
  • Gymryd ran mewn sesiynau gwneud ffilmiau a drefnir gan Into Film Cymru. Roedd y fideos yn seiliedig ar neges Richard O’Neill ‘Trin eraill fel yr hoffech chi gael eich trin’
  • Creu fersiwn o’r chwedl Sipsi Gymreig ‘Winter’ gyda'u sgiliau creu ffilm newydd.

Ysgol Gynradd Sgeti, Abertawe

Mae dysgwyr Ysgol Gynradd Sgeti wedi ymchwilio ‘Brwydr Abertawe’, 1969, apartheid yn Ne Affrica, Nelson Mandela a’r symudiad Gwrth-Apartheid yng Nghymru. Roedd ymchwilio ddigwyddiad lleol wedi creu ymwybyddiaeth o achos rhyngwladol. Cafodd y dywgyr gyfle i:

  • Bori drwy archif Peter Hain am y protestiadau gwrth-apartheid.
  • Gwrando ar Ricardo Erasmus yn rhannu ei brofiad o fyw yn Ne Affrica ac ystyr y gair Ubuntu. 
  • Creu posteri gwrth-apartheid/Ubuntu gydag artist lleol Sarah Hopkins yn seiliedig ar boster ‘Racism is a Poison’ Paul Peter Piech. 
  • Gwrando ar Peter Hain yn esbonio ei rôl yn y mudiad gwrth-apartheid pan ymwelodd â'r ysgol.

Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig a Phobl Ifanc (EYST) a Lioness Community Projects

Bwriad y prosiect oedd creu podlediad am hunaniaeth, iaith a diwylliant gan ddefnyddio eitemau o gasgliad y Llyfrgell i sbarduno trafodaeth. Roedd y sesiynau podlediad yn cynnwys:

  • Datblygu sgiliau creu podlediad trwy weithio gydag offer arbennig.
  • Tri sesiwn yn edrych ar eitemau gwahanol o gasgliad y Llyfrgell, trafod digwyddiadau amrywiol a rhannu eu teimladau a phrofiadau.
  • Sesiwn 'taro mewn' mewn clwb ieuenctid EYST i ddysgu mwy am greu podlediadau.

Ysgol Hamadryad, Caerdydd

Roedd Ysgol Hamadryad eisiau dysgu mwy am brofiadau glowyr Du o Gymru a chysylltiad Paul Robeson a’r glowyr. Cafodd y dysgwyr gyfleoedd i:

  • Ddysgu mwy am lowyr Du yng Nghymru gyda'r awdures a’r hanesydd Rebecca Eversley-Dawes, a ddaeth i gynnal gweithdy ymchwilio ffynonnellau cynradd ac eilradd. 
  • Ymchwilio y cysylltiad rhwng Paul Robeson â’r glowyr. Gwylio nhw glip o’r ffilm ‘Proud Valley’. 
  • Cymryd rhan mewn gweithdy barddoniaeth gyda Alex Wharton, Children’s Laureate Wales, lle buon nhw'n gwrando ar gerdd Alex Wharton ‘Diolch Mr Robeson’ a chreu cwpledi am y glowyr Du o Gymru. 
  • Creu platiau i gofio am y glowyr Du gyda’r artist Lowri Davies. Cafodd y cwpledi greon nhw yn y gweithdy gyda Alex Wharton eu cynnwys ar y platiau.

Ysgol Plascrug, Aberystwyth ac Ysgol Gynradd Whitestone, Abertawe

Mae dealltwriaeth o 'gynefin' yn elfen bwysig o'r Cwricwlwm i Gymru. Datblygodd yr ysgolion bartneriaeth i archwilio eu cynefin ac i ddysgu mwy am ran arall o Gymru. Mae Ysgol Gynradd Whitestone wedi teithio i Aberystwyth i ymweld ag Ysgol Gynradd Phlascrug a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac aeth Plascrug at Whitestone yn nhymor yr haf. Roedd y prosiect yn cynnwys:

  • Gweithdy gyda’r awdur Darren Chetty am gynefin a sut i feddwl am yr amrywiaeth yn eu hardal. 
  • Deunydd archifol o gasgliad y Llyfrgell ar gael i archwilio eu cynefin. 
  • Cyfle i staff drafod arferion da yn eu hysgolion 
  • Mae’r ysgolion wedi cynhyrchu fideos o’u cynefin i’w rhannu gyda’r ysgol arall, sy’n cynnwys dysgu am gymunedau amrywiol y ddwy ardal.

Ysgol Gynradd Kitchener, Caerdydd

Nod y prosiect oedd dysgu a deall mwy am grefydd yn eu hardal o  Gaerdydd. Cysylltodd Addewid Caerdydd â’r Llyfrgell i holi os byddai modd i ni gefnogi prosiect gyda'n archifau. Roedd y prosiect yn cynnwys:

  • Pwyslais ar sut gallwn ni gyd-fyw a chydfodoli mewn cymuned sydd ag amryw o grefyddau. 
  • Creu ffilm ddogfen ar y thema gan ddefnyddio clipiau o Archif Ddarlledu Cymru i gyfoethogi eu ffilm. 
  • Trefnodd y Llyfrgell i’r gwneuthurwr ffilmiau Mo Jannah fynd i’r ysgol i gynnal gweithdy creu ffilm ac ysbrydoli’r dosbarth. 
  • Yn gysylltiedig â’r prosiect, cynhaliwyd Iftar yn yr ysgol yn ystod Ramadan i’r gymuned Fwslemaidd. Roedd teuluoedd a pherthnasau wedi casglu i weddïo ac i dorri’r ympryd ar dir yr ysgol. 
  • Ymchwilio Ramadan i baratoi ar gyfer y Iftar.

Y Neuadd Les, Ystradgynlais ac Ysgol Maesydderwen, Powys

Canolbwyntiodd y prosiect ar brofiadau ffoaduriaid a’u hymdeimlad o berthyn yn Ystradgynlais a’r cyffiniau. Roedd Ystradgynlais yn gartref i’r artist ffoaduriaid Josef Herman am dros ddegawd. Buodd y Llyfrgell yn gweithio mewn partneriaeth gyda'r Neuadd Les yn Ystradgynlais. Mae'r Neudd Les yn gweithio'n agos gyda grŵp o ffoaduriaid o Syria. Roedd y prosiect yn cynnwys:

  • Daeth grŵp o ffoaduriaid o Syria am daith undydd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
  • Roedd dysgwyr Ysgol Maesydderwen wedi bod yn dysgu am Josef Herman, ei waith celf a’i brofiadau o symud i Gymru. Cyflwynodd artistiaid lleol Vivian Rhule a Menna Buss weithdai am Josef Herman yn Ysgol Maesydderwen.

Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru

Roedd Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru eisiau dysgu mwy am adrodd straeon yn ystod eu gweithdai haf i deuluoedd. Daeth tua 50 o unigolion o Gymdeithas Affrica Gogledd Cymru ar fws o Fangor i’r Llyfrgell. Roedd yr ymweliad yn cynnwys:

  • Gweithdai gyda’r storïwyr Phil Okwedy a Peter Stevenson, a oedd yn adrodd hanes Henry Box Brown, a oedd wedi ei gaethiwo yn yr UDA ond fe ddihangodd i Brydain a theithiodd o gwmpas Cymru yr adrodd ei hanes yn y 1850au a’r 1860au. 
  • Roedd Phil a Peter yn adrodd straeon gan ddefnyddio ‘crankies’. Mae ‘crankie’ yn flwch pren mawr agored fel ffrâm llun sy’n cynnwys sgrôl hir sy’n troi gyda handlen ar ei ben. Mae’n debyg mae Henry Box Brown oedd y cyntaf i ddefnyddio’r ffurff yma o adrodd straeon yng Nghymru. 
  • Cyfle i weld adroddiadau papur newydd sy’n cofnodi ymweliadau Henry Box Brown i Gymru.
  • Cyfle i wneud crankies bychain eu hunain gyda Peter a Phil mewn gweithdy yn dilyn y sesiwn adrodd stori. 

Cymdeithas Tsieineaidd yng Nghymru ac Ysgolion yng Ngheredigion

Dathlodd y Llyfrgell Ŵyl Ganol Hydref Tsieineaidd gyda digwyddiad mawr yn mis Medi. Daeth 5 ysgol a 120 o ddysgywr Ysgol Felinfach, Ysgol Dihewyd, Ysgol Ciliau Parc, Ysgol Myfenydd ac Ysgol Comins Coch, i brofi gweithgareddau a dysgu mwy am hanes un o ddigwyddiadau pwysicaf yn y calendr Tsieineaidd. Cyd-weithiodd Cymdeithas Tsieineaidd yng Nghymru gyda'r Llyfrgell i: 

  • Baratoi gweithgareddau, cyflwyniadau a pherformaidau addas ar gyfer y digwyddiad.
  • Dathlu a dysgu mwy am ddiwylliant Tseinia a’r gymuned Tsieineaidd yng Nghymru. Ceredigion yw un o'r siroedd lleiaf amrywiol yng Nghymru ac felly mae’n bwysig bod y dysgwyr yn cael cyfle i brofi diwylliant gwahanol. 
  • Roedd y digwyddiad hefyd ar agor i’r cyhoedd o 3-6pm a daeth nifer o deuluoedd ac unigolion i wneud gweithgareddau a gwylio perfformiadau.

Straeon Mudo i Gymru

Nod y prosiect oedd gweithio gyda grwpiau cymunedol i gyd-greu adnoddau dysgu am fudo i Gymru. Fe gysyllton ni â 4 grŵp cymunedol:

  • KIRAN Cymru
  • Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru
  • Tiger Bay a'r Byd
  • Cronfa Goffa Arandora Star

Defnyddiwyd eitemau o gasgliad y Llyfrgell ynghyd ag eitemau a ddarparwyd gan y grwpiau cymunedol i adrodd straeon am fudo i Gymru. Bydd y pecynnau yn cael eu profi gydag Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan.

Adnoddau dysgu

Mae adnoddau dysgu sy'n gysylltiedig â'r prosiectau hyn i'w gweld yn y ddolen isod. Mae hyn yn rhoi cyfleoedd i ysgolion a dysgwyr o bob oed yng Nghymru ddysgu mwy am ddiwylliannau amrywiol yng Nghymru, cyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o fod yn Gymru Wrth-Hiliol erbyn 2030, a chopïo elfennau o brosiectau Cymunedau Cymru.

Adnoddau dysgu

Cefndir

Prosiect 2 flynedd

Roedd pob un o'r 12 prosiect yn cynnwys:

  • Gweithdai gyda'r ysgol/grŵp cymunedol.
  • Adnodd addysg i'w gyhoeddi ar-lein yn ymwneud â'r pwnc.
  • Eitemau o gasgliad y Llyfrgell yn arwain y gwaith.