Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mewn partneriaeth gyda Google, wedi creu teith rhithiol o'r adeilad a rhai o'i thrysorau. Mae'r dechnoleg gyffrous hyn yn galluogi unrhyw un ar draws y byd gael taith ddigidol o amgylch llyfrgell fwyaf Cymru.
Mae cwestiynau a chyd-destun wedi cael eu hychwanegu i'r daith i athrawon ddefnyddio gyda'u dysgwyr.
Mae'n rhaid lwytho app Google Expeditions ar dablet neu ffôn am ddim o Google Play neu’r App Store i ddilyn taith rithiol. Mae modd i athrawon arwain taith o'u dyfais tra bod y dysgwyr yn dilyn. Drwy osod ffôn mewn syllwr gall y dysgwyr weld golygfeydd 360° a delweddau 3D.
Wedi i chi lwytho app Google Expeditions ar eich dyfais mae modd chwilio am deithiau gan ddefnyddio'r syllwr o fewn yr app. Chwiliwch am 'Llyfrgell Genedlaethol Cymru' a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.