Symud i'r prif gynnwys

Awst 2026

Gŵyl Banc yr Haf

Gŵyl Banc yr Haf

31 Awst 2026

Gŵyliau Hapus!

Gweld mwy

Medi 2026

Genedigaeth y Guru Granth

Genedigaeth y Guru Granth(Sikh)

01 Medi 2026

Mae Sikhiaid yn dathlu urddo'r teitl Guru ar Sri Guru Granth Sahib Ji (testun cysegredig awdurdodol Sikhaeth) ar y diwrnod hwn, a elwir yn Geni'r Guru Granth.

Gweld mwy

Diwrnod Rhyngwladol Elusennau

Diwrnod Rhyngwladol Elusennau

05 Medi 2026

Dethlir Diwrnod Rhyngwladol Elusengarwch ar y diwrnod yma i goffau marwolaeth y fam Teresa o Calcutta a dderbyniodd y Wobr Heddwch Nobel yn 1979, ac i annog cyfrifoldeb cymdeithasol, megis rhoi a gwirfoddoli.

Gweld mwy

Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd

Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd

10 Medi 2026

Neilltuir Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd i godi ymwybyddiaeth o achos hunanladdiad ac i hyrwyddo camau i’w atal.

Gweld mwy

Dydd Owain Glyndŵr

Diwrnod Owain Glyndŵr

16 Medi 2026

Mae Owain Glyndŵr yn arwr cenedlaethol Cymreig a Thywysog brodorol olaf Cymru. Dethlir y diwrnod i goffau ei etifeddiaeth a'i arweiniad a roddodd lais i bobl Cymru.

Gweld mwy

Yom Kippur

Yom Kippur (Iddewiaeth)

20 Medi 2026 - 21 Medi 2026

Yom Kippur yw'r diwrnod mwyaf sanctaidd mewn Iddewiaeth a Samariadaeth. Mae'n ddydd o ofyn am edifeirwch a chymod ynghyd â gweddïau, ympryd ac elusen. Mae'n nodi diwedd dyddiau uchel sanctaidd yr Iddewon.

Gweld mwy

Diwrnod Rhyngwladol Heddwch

Diwrnod Rhyngwladol Heddwch

21 Medi 2026

Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol Heddwch i gofio ac i annog y delfryd o heddwch mewn byd heb ryfel a thrais.

Gweld mwy

Diwrnod Alzheimer y Byd

Diwrnod Alzheimer y Byd

21 Medi 2026

Dethlir Diwrnod Alzheimer y Byd i godi ymwybyddiaeth, addysgu ac annog cefnogaeth i bobl â chlefyd Alzheimer, eu teuluoedd a’u gofalwyr.

Gweld mwy

Mid-Autumn_Festival__Chinese

Gŵyl Canol yr Hydref (Tsieinëeg)

25 Medi 2026

Dethlir Gŵyl Canol yr Hydref ar y 15fed diwrnod o 8fed mis calendr lleuad Tsieineaidd i nodi tymor y cynhaeaf mewn diwylliant Tsieineaidd. Mae'n un o'r gwyliau pwysicaf yn niwylliant Tsieina gyda hanes sy'n rhychwantu dros 3,000 o flynyddoedd. Yn ystod yr ŵyl, mae llusernau sy'n symbol o ffyniant a ffortiwn da yn cael eu harddangos, ac yn draddodiadol mae cacennau lleuad yn cael eu bwyta gyda theulu a ffrindiau. Mae'r ŵyl yn seiliedig ar chwedl Chang'e, duwies y Lleuad ym mytholeg Tsieineaidd.

Gweld mwy

Diwrnod Ieithoedd Ewrop

Diwrnod Ieithoedd Ewrop

26 Medi 2026

Cynhelir Diwrnod Ieithoedd Ewrop er mwyn hybu ymwybyddiaeth fyd-eang o bwysigrwydd dysgu ieithoedd a gwarchod traddodiadau ieithyddol.

Gweld mwy