Symud i'r prif gynnwys

Hydref 2026

Mis Hanes Pobl Dduon

Mis Hanes Pobl Dduon

01 Hyd 2026 - 30 Hyd 2026

Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn ddigwyddiad blynyddol sy'n tarddu o Unol Daleithiau America. Fe'i nodir i ddathlu diwylliant Affrica a'i chyfraniadau i gymdeithas.

Gweld mwy

Wythnos Ymwybyddiaeth Dyslecsia

05 Hyd 2026 - 11 Hyd 2026

Anhawster dysgu yw dyslecsia sy'n effeithio'n bennaf ar y sgiliau sy'n gysylltiedig â darllen geiriau a sillafu cywir a rhugl. Nodir y digwyddiad hwn yn flynyddol i godi ymwybyddiaeth o ddyslecsia.

Gweld mwy

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd

10 Hyd 2026

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, diwrnod rhyngwladol a neulltiwyd i addysgu, codi ymwybyddiaeth ac ymgyrchu yn erbyn stigma cymdeithasol am iechyd meddwl ledled y byd, ac i ysgogi cefnogaeth i bobl sy'n dioddef o iechyd meddwl.

Gweld mwy

Calan Gaeaf

Calan Gaeaf

31 Hyd 2026

Calan Gaeaf Hapus!

Gweld mwy

Tachwedd 2026

Diwali

Diwali

08 Tach 2026

Mae Diwali, a elwir hefyd yn Ŵyl y Goleuadau, yn symbol ysbrydol o "fuddugoliaeth y da dros ddrygioni, ymwybyddiaeth dros anwybodaeth a golau dros dywyllwch". Mae'n un o wyliau mwyaf arwyddocaol crefyddau Indiaidd.

Gweld mwy

Diwrnod Diabetes y Byd

Diwrnod Diabetes y Byd

14 Tach 2026

Cynhelir Diwrnod Diabetes y Byd ar y diwrnod hwn i godi ymwybyddiaeth fyd-eang am ddiabetes mellitus ac i ddathlu Syr Frederick Banting, a ddarganfuodd yr inswlin ynghyd â Charles Best ym 1922.

Gweld mwy

'Father and Son with Horse, Swansea, from series No Place Like Home © Richard Ansett 2021

Diwrnod Rhyngwladol Dynion

19 Tach 2026

Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol Dynion i godi ymwybyddiaeth byd-eang am nifer o faterion sy’n wynebu dynion sy’n cynnwys dieithrio rhieni, hunanladdiad, trais a chamdriniaeth.

Delwedd uchod: 'Father and Son with Horse, Swansea, from series No Place Like Home © Richard Ansett 2021

Gweld mwy

Pen-blwydd Guru Nanak

Pen-blwydd Guru Nanak(Sikh)

24 Tach 2026

Guru Nanak Dev Ji Gurpurab, a elwir hefyd yn Prakash Utsav Guru Nanak, yw dathliad y Guru Nanak genedigol sef y guru Sikhaidd cyntaf. Ef yw sylfaenydd Sikhaeth ac mae'n uchel ei barch gan y gymuned Sikhaidd. Dyma un o wyliau mwyaf cysegredig Sikhaeth.

Gweld mwy

Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Dileu Trais tuag at Fenywod

Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Dileu Trais tuag at Fenywod

25 Tach 2026

Mae Diwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn erbyn Menywod yn codi ymwybyddiaeth a cheisio dileu unrhyw fath o drais yn erbyn menywod. Mae’r rhain yn cynnwys trais ar sail rhywedd sy’n arwain at niwed seicolegol, corfforol neu rywiol, boed hynny mewn bywyd cyhoeddus neu breifat.

Gweld mwy

Rhagfyr 2026

Diwrnod Aids y Byd

Diwrnod Aids y Byd

01 Rhag 2026

Ers 1988, neilltuwyd y diwrnod hwn i godi ymwybyddiaeth o’r clefyd AIDS yn ogystal â'i atal ac i gondemnio stigmateiddio pobl sy'n dioddef o'r clefyd.

Gweld mwy