Symud i'r prif gynnwys

Mawrth 2027

Lailat Al-Qadr

Lailat Al-Qadr (Islam)

05 Maw 2027

Gelwir Laylat al-Qadr hefyd yn Noson Grym. Mae'n disgyn ar un o'r diwrnodau odrif yn nyddiau olaf Ramadan. Fe'i hystyrir yn noson fwyaf sanctaidd yn Islam.

Gweld mwy

Maha Shivaratri

Maha Shivaratri (Hindŵ)

06 Maw 2027

Mae Maha Shivaratri yn ŵyl Hindŵaidd sy’n dathlu’r Arglwydd Shiva, sef un o brif dduwiau Hindŵaeth.

Gweld mwy

Diwrnod Rhyngwladol y Merched

Diwrnod Rhyngwladol y Merched

08 Maw 2027

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ddiwrnod ymwybyddiaeth fyd-eang sy'n cael ei ddathlu'n flynyddol gyda'r nod o roi llais i fenywod, gan dynnu sylw at faterion fel cydraddoldeb rhyw, cam-drin menywod, trais a hawliau atgenhedlu.

Gweld mwy

Diwrnod y Gymanwlad

Diwrnod y Gymanwlad

08 Maw 2027

Ers 1977, mae Diwrnod y Gymanwlad wedi cael ei ddathlu gan 56 o wledydd y Gymanwlad i feithrin gwerthoedd ac egwyddorion a rennir er mwyn sicrhau dyfodol heddychlon a chynaliadwy.

Gweld mwy

Eid Al Fitr

Eid Al Fitr (Islam)

09 Maw 2027

Mae Eid al-Fitr yn wledd sy'n cael ei dathlu gan Fwslimiaid ledled y byd. Mae'n nodi diwedd mis sanctaidd Ramadan.

Gweld mwy

Dydd Sant Padrig (Cristnogol)

17 Maw 2027

Roedd Sant Padrig yn genhadwr ac yn Esgob Cristnogol Rhufeinig-Brydeinig yn Iwerddon o'r 5ed ganrif. Mae Gŵyl Sant Padrig yn ŵyl genedlaethol ,ysbrydol a diwylliannol yn Iwerddon sy'n cynnwys gorymdeithiau a gwyliau cyhoeddus, céilithe, a gwisgo gwisg werdd neu siamroc.

Gweld mwy

Nowruz (Blwyddyn Newydd Perseg / Zoroastrian)

20 Maw 2027

Nowruz yw Blwyddyn Newydd Iranaidd neu Bersaidd a ddethlir gan ddiwylliannau niferus ledled y byd. Mae'n seiliedig ar galendr Hijri Solar Iranaidd. Honnir bod y dwirnod yn nodi dychweliad ysbryd a oedd wedi'i fwrw o dan y ddaear yn ystod misoedd oer y gaeaf. Gyada wreiddiau mewn Zoroastrianiaeth.

Gweld mwy

Diwrnod Rhyngwladol Hapusrwydd

20 Maw 2027

Sefydlwyd y diwrnod hwn gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar 28 Mehefin 2012; mae Diwrnod Rhyngwladol Hapusrwydd yn cael ei ddathlu ledled y byd i atgoffa pobl o bwysigrwydd hapusrwydd.

Gweld mwy

Holi

Holi (Hindw)

22 Maw 2027

Holi yw gŵyl Hindŵaidd o liwiau, cariad a gwanwyn. Mae'n cael ei ddathlu bob blwyddyn gyda brwydr lliw anhrefnus enfawr. Mae dathliadau Holi yn atgof o fuddugoliaeth daioni dros ddrygioni.

Gweld mwy

Genedigaeth y Khalsa

Genedigaeth y Khalsa -Vaisakhi (Sikh)

22 Maw 2027

Yn 1699 yn Anandpur Sahib, sefydlodd Guru Gobind Singh y Khalsa Panth. Mae'n diffinio grŵp o bobl sy'n ymarfer Sikhaeth yn ogystal â grŵp arbennig sydd wedi'u derbyn i'r ffydd.

Gweld mwy