Symud i'r prif gynnwys

Mawrth 2027

Dydd Gwener y Groglith

Dydd Gwener y Groglith (Cristnogol)

26 Maw 2027

Ar Ddydd Gwener y Groglith mae Cristnogion ledled y byd yn coffáu croeshoeliad a marwolaeth Iesu Grist. Mae'r diwrnod hwn yn canolbwyntio ar y dioddefaint a'r poenau a ddaeth i'w ran ac mae'n cael ei nodi ymprydio gan Gristnogion Bysantaidd ynghyd â galaru a myfyrdod dwfn.

Gweld mwy

Sul y Pasg

Sul y Pasg (Cristnogol)

28 Maw 2027

Mae'r Pasg yn un o wyliau pwysicaf y calendr Cristnogol. Mae'n coffáu atgyfodiad Iesu Grist ar y trydydd dydd wedi ei farwolaeth.

Gweld mwy

Gŵyl Pan Geltaidd

Gŵyl Pan Geltaidd

30 Maw 2027 - 03 Ebr 2027

Mae'r Ŵyl Ban Geltaidd yn ŵyl o gerddoriaeth, dawns a chwaraeon a gynhelir yn flynyddol yn Iwerddon. Cynhaliwyd yr ŵyl gyntaf yn Swydd Kerry gyda’r nod o feithrin a hyrwyddo ieithoedd y gwledydd Celtaidd. Mae Cymru wedi cael ei chynrychioli yn yr ŵyl ers ei sefydlu yn 1971.

Gweld mwy

Ebrill 2027

Diwrnod Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd

World Autism Awareness Day

02 Ebr 2027

Mae Diwrnod Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd yn cael ei ddathlu’n flynyddol. Ar y diwrnod hwn mae aelodau’r Cenhedloedd Unedig yn cael eu hannog i godi ymwybyddiaeth am awtistiaeth ac unigolion awtistig. Mae hyn er mwyn cynyddu ymhellach yr angen i wella ansawdd bywyd pobl sy'n byw gydag awtistiaeth.

Gweld mwy

Diwrnod Iechyd y Byd

Diwrnod Iechyd y Byd

07 Ebr 2027

Mae Diwrnod Iechyd y Byd yn ddiwrnod ymwybyddiaeth iechyd byd-eang sy'n cael ei ddathlu'n flynyddol. Mae'n cael ei hyrwyddo a'i noddi'n bennaf gan y Sefydliad Iechyd y Byd a sefydliadau eraill sy'n ymwneud ag iechyd.

Gweld mwy

Pasg

Pasg (Iddewiaeth)

21 Ebr 2027 - 29 Ebr 2027

Mae'r Pasg, neu Ŵyl y Bara Croyw yn un o'r prif wyliau Iddewig. Mae'n dathlu rhyddhau'r Israeliaid o gaethwasiaeth yn yr Aifft. Fe'i gelwir hefyd yn Pesaḥ neu Pesach, ac mae hefyd yn ddiwrnod coffáu.

Gweld mwy

Diwrnod Jazz y Byd

Diwrnod Jazz Rhyngwladol

30 Ebr 2027

Mae Diwrnod Jazz Rhyngwladol yn ddiwrnod rhyngwladol sy'n cael ei ddathlu'n flynyddol ledled y byd.Yn ddathiad ogerddoriaeth jazmae'n codi ymwybyddiaeth o sut mae cerddoriaeth yn dod â phpbl ynghyd heddwch, undod a chariad.

Gweld mwy

Mai 2027

Pascha

Pascha (Dydd y Pasg y Cristion Uniongred)

02 Mai 2027

Mae'r Eglwys Uniongred yn galw Diwrnod y Pasg yn Pascha.Mae'n cael ei ddathlu wrth gyflawni proffwydoliaeth Meseia a'i atgyfodiad oddi wrth y meirw.

Gweld mwy