Symud i'r prif gynnwys

Mai 2026

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd

23 Mai 2026 - 29 Mai 2026

Mae Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn ŵyl ieuenctid Gymraeg a gynhelir yn flynyddol. Mae’n canolbwyntio ar lenyddiaeth, cerddoriaeth a’r celfyddydau. Fe’i sefydlwyd yn 1922 gan Syr Ifan ab Owen Edwards gyda’r nod o hybu a gwarchod yr iaith Gymraeg. Wedi'i threfnu gan Urdd Gobaith Cymru, mae dros 90,000 o bobl yn mynychu'r ŵyl, gyda 15,000 o blant a phobl ifanc yn cymryd rhan yn y cystadlethau amrywiol.

Gweld mwy

Diwrnod Sant Sara

Diwrnod Sant Sara (Roma)

24 Mai 2026

Santes Sara, a elwir hefyd yn Sara-la-Kâli neu Sara Ddu yw nawddsant y Romani a' phobl sydd wedi'u dadleoli. Dywedir ei bod yn llawforwyn Eifftaidd i Mair Magdalen.

Gweld mwy

Pentecost

Pentecost (Cristnogol)

24 Mai 2026

Dethlir y Pentecost hanner can niwrnod ar ôl y Pasg gan Gristnogion ledled y byd. Mae'n coffáu disgyniad yr Ysbryd Glân ar apostolion Iesu Grist.

Gweld mwy

Gŵyl Banc y Gwanwyn

Gŵyl Banc y Gwanwyn

25 Mai 2026

“Amrywiaeth yw’r un gwir beth sydd gennym ni i gyd mewn cyffredin... dathlwch ef bob dydd” -Anhysbys

Gweld mwy

Mehefin 2026

Mis Balchder

Mis Balchder

01 Meh 2026 - 30 Meh 2026

Mae mis Balchder wedi'i neilltuo i ddathlu a choffáu'r LHDTC+. Dechreuodd ar ôl terfysgoedd Stonewall ym 1969 yn America. Yn y mis hwn cynhelir gorymdeithiau, cyngherddau a digwyddiadau amrywiol i godi ymwybyddiaeth am hawliau cyfartal a chyfiawnder pobl sy'n uniaethu fel LHDTC+.

Gweld mwy

Corpus Cristi

Corpus Cristi (Cristnogol)

04 Meh 2026

Gelwir Gŵyl Corpws Christi hefyd yn Ddifrifoldeb Corff a Gwaed Sancteiddiolaf Crist. Mae'n un o wyliau Eglwysi Uniongred, Lwtheraidd, Anglicanaidd a Lladin y Gorllewin a ddethlir er parch i ddwyfoldeb a phresenoldeb Iesu yn y Cymun sanctaidd.

Gweld mwy

Diwrnod Amgylchedd y Byd

Diwrnod Amgylchedd y Byd

05 Meh 2026

Mae Diwrnod Amgylchedd y Byd yn cael ei ddathlu'n flynyddol i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo cymryd camau cynaliadwy ar gyfer diogelu'r amgylchedd. Mae'n cael ei ddathlu gan nifer o lywodraethau a sefydliadau anllywodraethol fel ei gilydd.

Gweld mwy

Gorffennaf 2026

Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen

Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen

07 Gorff 2026 - 12 Gorff 2026

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn ŵyl gerddorol flynyddol a gynhelir yn Llangollen, yng ngogledd Cymru yn ystod ail wythnos mis Gorffennaf. Mae'n un o nifer o Eisteddfodau mawr blynyddol Cymru. Gwahoddir cantorion a dawnswyr o bob rhan o’r byd i gymryd rhan mewn dros ugain o gystadlaethau, gyda chyngerdd i ddilyn ar ddiwedd y dydd. Mae’r perfformwyr enwog i ymddangos yn Llangollen yn cynnwys Luciano Pavarotti.

Gweld mwy

Diwrnod Poblogaeth y Byd

Diwrnod Poblogaeth y Byd

11 Gorff 2026

Cynhelir Diwrnod Poblogaeth y Byd i godi ymwybyddiaeth o’r materion amrywiol sy’n gysylltiedig â phoblogaeth megis pwysigrwydd cynllunio teulu, iechyd mamau, tlodi a hawliau dynol. Fe'i sefydlwyd gan y Cenhedloedd Unedig yn dilyn y diddordeb aruthrol oedd gan bobl yn Niwrnod Pum Biliwn yn 1987.

Gweld mwy

Diwrnod Nelson Mandela

Diwrnod Nelson Mandela

18 Gorff 2026

Mae Diwrnod Rhyngwladol Nelson Mandela yn ddiwrnod rhyngwladol blynyddol i anrhydeddu Nelson Rolihlahla Mandela, ymgyrchydd a gwleidydd gwrth-apartheid o Dde Affrica. Mae'n cael ei ddathlu mewn gwerthfawrogiad o'r 67 mlynedd y treuliodd Nelson Mandela yn ymladd dros gyfiawnder, cydraddoldeb a hawliau dynol i bawb.

Gweld mwy