Symud i'r prif gynnwys

Mawrth 2026

Dydd Mercher y Lludw

Dydd Mercher Lludw

18 Chwef 2026

Mae Dydd Mercher y Lludw yn ddiwrnod sanctaidd o weddïo ac ymprydio mewn llawer o eglwysi Cristnogol. Mae'n nodi diwrnod cyntaf deugain diwrnod y Grawys, sy'n arwain at y Pasg.

Gweld mwy

Diwrnod Caru eich Anifail Anwes

Diwrnod Caru Eich Anifeiliaid Anwes

20 Chwef 2026

“Mae anifeiliaid yn ffrindiau mor ddymunol. Dydyn nhw ddim yn gofyn unrhyw gwestiynau; dydyn nhw ddim yn feirniadol mewn unrhyw ffordd.” —George Eliot

Gweld mwy

Diwrnod Cyfiawnder Cymdeithasol y Byd

Diwrnod Cyfiawnder Cymdeithasol y Byd

20 Chwef 2026

Mae Diwrnod Cyfiawnder Cymdeithasol y Byd yn ddiwrnod rhyngwladol o ymwybyddiaeth i hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol megis tlodi, allgáu, anghydraddoldeb rhyw, diweithdra, hawliau dynol, hunaniaeth rywiol a rhagfarn fiolegol a rhagfarn grefyddol.

Gweld mwy

Mawrth 2026

Dydd Gŵyl Dewi

Dydd Gŵyl Dewi

01 Maw 2026

Dewi Sant yw nawddsant Cymru. Dethlir ei ŵyl drwy wisgo Cennin Pedr a chennin, symbolau cydnabyddedig o Gymru a Dewi Sant, bwyta bwyd traddodiadol Cymreig gan gynnwys cawl a brithyn Cymreig, a merched yn gwisgo gwisg Gymreig draddodiadol. Cynhelir gorymdaith - parêd ar y diwrnod hwn yn nifer fawr o drefi Cymru.

Gweld mwy

Paul Peter Piech, 'Racism is a Poison, © Ystâd yr Artist

Diwrnod Dim Gwahaniaethu

01 Maw 2026

Nod Diwrnod Dim Gwahaniaethu yw hyrwyddo cydraddoldeb a thynnu sylw at sut y gall pobl magu gwell dealltwriaeth o'r ffaith fod pawb yn haeddu byw bywyd llawn a chynhyrchiol. Mae'r diwrnod hwn yn cael ei goffáu er mwyn hyrwyddo cynhwysiant, tosturi a heddwch.

Gweld mwy

Holi

Holi (Hindw)

04 Maw 2026

Holi yw gŵyl Hindŵaidd o liwiau, cariad a gwanwyn. Mae'n cael ei ddathlu bob blwyddyn gyda brwydr lliw anhrefnus enfawr. Mae dathliadau Holi yn atgof o fuddugoliaeth daioni dros ddrygioni.

Gweld mwy

Hola Mohalla

Hola Mohalla (Sikh)

04 Maw 2026 - 06 Ebr 2025

Mae Hola yn ŵyl Sikhaidd dridiau o hyd a sefydlwyd gan Guru Gobind Singh, er mwyn i'r Sikhiaid ddangos eu sgiliau ymladd. Mae'n dilyn gŵyl Hindŵaidd Holi gan un diwrnod.

Gweld mwy

Diwrnod y Llyfr

Diwrnod y Llyfr

05 Maw 2026

Yn 1997, cynhaliwyd Diwrnod y Llyfr cyntaf yn y DU ac Iwerddon i annog pobl ifanc i ddarllen. Crëwyd Diwrnod y Llyfr gan UNESCO ar 23 Ebrill 1995 i ddathlu llyfrau a darllen ledled y byd.

Gweld mwy

Diwrnod Rhyngwladol y Merched

Diwrnod Rhyngwladol y Merched

08 Maw 2026

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ddiwrnod ymwybyddiaeth fyd-eang sy'n cael ei ddathlu'n flynyddol gyda'r nod o roi llais i fenywod, gan dynnu sylw at faterion fel cydraddoldeb rhyw, cam-drin menywod, trais a hawliau atgenhedlu.

Gweld mwy

Diwrnod y Gymanwlad

Diwrnod y Gymanwlad

09 Maw 2026

Ers 1977, mae Diwrnod y Gymanwlad wedi cael ei ddathlu gan 56 o wledydd y Gymanwlad i feithrin gwerthoedd ac egwyddorion a rennir er mwyn sicrhau dyfodol heddychlon a chynaliadwy.

Gweld mwy