Symud i'r prif gynnwys

Rhagfyr 2025

Nos Galan

Nos Galan

31 Rhag 2025

“Mae geiriau llynedd yn perthyn i iaith y llynedd. Ac mae geiriau’r flwyddyn nesaf yn aros am lais newydd. Ac mae gwneud diwedd yn gwneud dechrau.” - T.S. Eliot

Gweld mwy

Ionawr 2026

New year 2026

Blwyddyn Newydd

01 Ion 2026

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn dymuno Blwyddyn Newydd Dda i chi.

Gweld mwy

Diwrnod Braille y Byd

Diwrnod Braille y Byd

04 Ion 2026

Mae Diwrnod Braille y Byd yn cael ei ddathlu i anrhydeddu dyfeisiwr Braille, Louis Braille, a phwysigrwydd Braille fel arf cyfathrebu a grymuso i rai sydd â nam ar eu golwg.

Gweld mwy

Ystwyll

Ystwyll (Cristnogol)

06 Ion 2026

Mae'r Ystwyll yn cael ei dathlu i goffáu ymweliad y tri gŵr doeth â’r baban Iesu, ei fedydd a’i ddatguddiad yn y briodas yng Nghana. Caiff ei dathlu fel 'Nadolig Bach' mewn rhai traddodiadau.

Gweld mwy

Diwrnod Ymwybyddiaeth Masnachu Pobl

Diwrnod Ymwybyddiaeth Masnachu Pobl

11 Ion 2026

Nodir y diwrnod hwn er mwyn codi ymwybyddiaeth bellach o fater parhaus masnachu pobl ac atal y troseddau sy'n gysylltiedig ag ef yn fyd-eang.

Gweld mwy

Diwrnod Crefydd y Byd

Diwrnod Crefydd y Byd

18 Ion 2026

Mae Diwrnod Crefydd y Byd yn tarddu o’r egwyddorion Bahá’í o unplygrwydd crefydd a'i ddatguddiad blaengar, sy’n disgrifio crefydd fel rhywbeth sy’n datblygu’n barhaus ar hyd y cenedlaethau. Pwrpas Diwrnod Crefydd y Byd yw amlygu’r syniadau bod yr egwyddorion ysbrydol sydd wrth wraidd crefyddau’r byd yn gytûn, a bod crefyddau yn chwarae rhan bwysig wrth uno dynoliaeth.

Gweld mwy

Dydd Martin Luther King

Dydd Martin Luther King

19 Ion 2026

Mae Diwrnod Martin Luther King Jr yn ŵyl ffederal yn yr Unol Daleithiau sy'n nodi pen-blwydd Martin Luther King Jr a frwydrodd dros hawliau dynol ac urddas pawb, a'r cyfraniad wnaed gan ei etifeddiaeth tuag at geisio sicrhau byd cyfiawn a theg.

Gweld mwy

Pen-blwydd Guru Gobind Singh

Pen-blwydd Guru Gobind Singh (Sikh)

20 Ion 2026

Gobind Das, neu Gobind Singh, oedd y degfed guru Sikhaidd dynol a'r olaf. Yr oedd yn fardd, yn athronydd ac yn rhyfelwr. Ymysg ei gyfraniadau sylweddol i Sikhaeth mae creu'r urdd filwrol Sikhaidd sy'n cael ei adnabod fel y Khalsa yn 1699, a chwblhau ac ymgorffori’r Guru Granth Sahib fel y llyfr sanctaidd a’r Guru tragwyddol.

Gweld mwy

Diwrnod Rhyngwladol Addysg

Diwrnod Rhyngwladol Addysg

24 Ion 2026

Mae Diwrnod Rhyngwladol Addysg yn cael ei nodi i ddathlu rôl addysg er mwyn sicrhau heddwch, datblygiad a chreu cyfleoedd i ddynolryw fyw i'w llawn botensial.

Gweld mwy

Dydd Santes Dwynwen

Dydd Santes Dwynwen

25 Ion 2026

Santes Dwynwen yw nawddsant cariadon Cymru. Credir bod Dwynwen yn ferch i’r Brenin Brychan Brycheiniog, a oedd yn byw yn y 5ed ganrif.

Gweld mwy