Symud i'r prif gynnwys

Trysorau Cymru

Mae’r Llyfrgell yn gartref i lawer mwy o eitemau sy’n cael eu hystyried yn arbennig o bwysig i hanes a diwylliant Cymru.

Gallwch weld rhagor yn Arddangosfa Trysorau ar Llawr 2, neu ewch i ddarganfod rhai o uchafbwyntiau’r casgliadau yn ein Arddangosfeydd Digidol, lle mae curaduron y Llyfrgell wedi dewis a dehongli rhai o’n trysorau mwyaf nodedig.

Ond pwy sy’n penderfynu beth yn union yw ‘trysor’? Efallai fod gennyt drysorau dy hun yr hoffet ti eu rhannu â Chymru a’r byd…

Rhanna dy luniau, atgofion a straeon i gadw treftadaeth ein cenedl yn fyw i'r genhedlaeth nesaf ar wefan Casgliad y Werin. Mae gwerth i bob llais. Rhanna dy stori di.