Symud i'r prif gynnwys

Mae casgliadau newydd yn cyrraedd y Llyfrgell Genedlaethol bob wythnos. Mae’r llyfrau, papurau newydd, mapiau, gweithiau celf, ffotograffau, a llawysgrifau hyn yn adrodd hanes Cymru a’i phobl. Dyma ddetholiad ein curaduron o rai o’r eitemau diweddaraf i gyrraedd y Llyfrgell. 

Pa un yw eich hoff eitem? 

Gorffennaf - Medi 2026

Joan Blaeu

Wallia Principatus vulgo Wales, 1645-1648

Yn 2024, prynwyd y map hwn o Gymru gan y cartograffydd o’r Iseldiroedd, Joan Blaeu (1596-1673). Fe’i cyhoeddwyd ym mhedwaredd cyfrol ei Atlas Novus yn y 1640au ac fe’i cysegrwyd i’r Tywysog Siarl o Loegr –  sef Brenin Siarl II. Cwmni Blaeu oedd cartograffydd swyddogol Cwmni Dwyrain India’r Iseldiroedd (VOC), ac ef oedd y cyntaf i gyhoeddi map yn dangos yr enw ‘Nieuw Zeeland’. Crewyd trwy ysgythru plât copr, a byddai newidiadau’n anodd ac yn ddrud, ac felly ailargraffwyd yr un map sawl gwaith.  

Gweld y cofnod catalog. 

Cuff Creates

Sawnas yng Nghymru, 2025

Crëwyd y map hwn fel rhan o bartneriaeth rhwng cwmni sawna Aberystwyth, Aberpoeth, a'r dylunydd Sienna Cuff i hyrwyddo sawnâu annibynnol ledled Cymru. Agorodd Aberpoeth ei ddrysau ar y prom yn 2024. Wedi'i ddylunio'n ddigidol, mae'r map hwn wedi'i ddefnyddio ar grysau-t, posteri, faniau, a phostiadau cyfryngau cymdeithasol, a gellir ei ddiweddaru, ei newid a'i ailddefnyddio'n rhwydd i adlewyrchu twf diwylliant sawna Cymru. 

Gweld y cofnod catalog.

Isabel Adonis

Fy Nhad a Fy Mam, 2008

Acrylig ar gynfas 

Yn y llun hwn mae’r arlunydd Isabel Adonis (g. 1951) yn portreadu ei mam a’i thad. Defnyddiodd yr artist y ddelwedd yma ar gyfer clawr ei llyfr And: A Memoir of my Mother (2022) a enillodd y wobr am waith ffeithiol creadigol Llyfr y Flwyddyn 2023.  Yn y llyfr, fel yn ei gwaith celf, mae’r artist yn ystyried themâu yn ymwneud â hil, hunaniaeth, a phlentyndod.    

Gweld y cofnod catalog.

Papurau Julian Williams

Ag yntau'n frodor o Aberystwyth, gweithiai John Julian Williams (1935-2022) fel cynllunydd setiau i'r BBC yng Nghaerdydd.  Adlewyrchir hynny yn y ffotograffau, cynlluniau a sgriptiau sydd yn ei gasgliad.  Mae yma hefyd bapurau teuluol, yn cynnwys llythyrau at ei fam oddi wrth y gyfansoddwraig Grace Williams, ac eitemau fu'n eiddo i'w hen-fodryb, Mary Williams (1883-1977), y gyntaf i'w phenodi'n 'Athro' ym Mhrydain.  Dyfarnwyd y medalau hyn iddi gan wladwriaeth Ffrainc yn 1934.   

Gweld cofnod y casgliad yng Nghatalog Archifau a Llawysgrifau LlGC.

Archif Harry Secombe

Roedd y diddanydd Syr Harry Secombe (1921-2001), a aned yn Abertawe, yn ddigrifwr, canwr, a darlledwr.  Cyflwynwyd ei archif fel rhodd i'r Llyfrgell gan ei deulu adeg canmlwyddiant ei eni, ac adlewyrcha yrfa hanner canrif o hyd.  Cynhwysa ddeunydd yn ymwneud â The Goon Show (a ddarlledwyd gyntaf dri-chwarter canrif yn ôl), a rôl Harry Seconbe fel Mr Bumble yn y ffilm enwog Oliver! (1968).                   

Gweld cofnod y casglaid yng Nghatalog Archifau a Llawysgrifau LlGC. 

Cwm Eigiau: Y Wal Heb Sylfaen

Aled Rhys Hughes 

Mae cyfres ffotograffau Aled Rhys Hughes o olion Argae Eigiau yn coffáu digwyddiadau 2 Tachwedd 1925 pan chwalwyd yr argae a oedd wedi'i adeiladu'n wael, gan achosi i lif o ddŵr a chreigiau ysgubo trwy ogledd Dolgarrog a phentref Porth Llwyd. Lladdwyd un deg chwech o bobl. Byddai mwy wedi marw oni bai am y ffaith eu bod yn gwylio ffilm yn y sinema leol ar y pryd.     

Llyfr Ffôn Caer a Gogledd Cymru, 1900

Dim ond deuddeg o dudalennau yw hyd y rhestr, sy’n dangos mai prin oedd y defnydd o ffônau ar y pryd. Pobl fusnes yw'r rhan fwyaf o'r enwau a welir ynddo gan fod y gost yn parhau i fod yn afresymol o uchel i bobl gyffredin.

Gweld y cofnod catalog. 

Araith a chyffes olaf Rebecca Edwards a ddienyddiwyd yn Nhrefynwy, ar ddydd Gwener 16eg o Awst 1822

Honnai’r teitl mai Edwards ei hunan a luniodd y gyffes yma mewn cwpledi odledig, ond mae’n debycach mai’r cyhoeddwr luniodd hwy i elwa ar ddigwydiad trist. Mae'r faled yn enghraifft o'r llenyddiaeth stryd arswydus a oedd yn boblogaidd ar y pryd.         

Curtis (John), [Bees (from British Entomology)], c. 1840-1868

Prynwyd y llyfr unigryw hwn i ychwanegu at gasgliad helaeth o lyfrau am wenyn sydd yn y Llyfrgell. Rhoddwyd llawer ohonynt gan Y Gymdeithas Ymchwil Gwenyn Rhyngwladol. Mae'r lluniau gan ‘E.A. & K.’ (merched perchenog y llyfr, W.H.L. Walcott) yn ategu’r disgrifiadau o wenyn yn British Entomology.  

'Self-propulsion' and the rise and progress of "velocipedes" and "manumotive carriages": with numerous illustrations and instructions for learning to ride the bicycle and tricycle. W.M. Morris. Cardiff and Pontypridd, Morris Bros, [1885]

Hanes darluniadol o feiciau. Roedd William Morgan Morris yn un o dri brawd a redai ffatri feiciau’r Brodyr Morris, a sefydlwyd ym 1872 ym Mhontypridd. 

Gweld y cofnod catalog. 

Vietnam, Committee for Communist Unity & Vanguard, [1965] 

Pamffled protest yn galw ar ymgyrchwyr i brotestio yn erbyn Rhyfel Fietnam (1955-1975).

Gweld y cofnod catalog.

Griffith John, Jiu shi zhen zhu (True Saviour of the world), 1892 

yn genhadwr yn yr 19eg ganrif. Mae'r testun yn trafod neges Gristnogol iachawdwriaeth. Mae ei fformat mewn dail plyg acordion yn nodweddiadol o lyfrau Tsieiniaidd printiedig. Tra’n gweithio yn Tsieina sefydlodd Griffith John ysgolion, ysbytai a cholegau. 

Gweld y cofnod catalog.