Arddangosfeydd

Arddangosfeydd Cyfredol

Arddangosfeydd i Ddod

Am Arddangosfeydd LlGC

Nod gwasanaeth arddangosfeydd y Llyfrgell yw creu rhaglenni cyhoeddus cyffrous o ansawdd uchel, sy’n cynnwys arddangosfeydd parhaol a rhai dros dro ynghyd â gweithgareddau addysgol a chyflwyniadau cysylltiol.  Trwy arddangos a dehongli amrywiaeth o eitemau rydym yn ceisio adlewyrchu casgliadau’r Llyfrgell a threftadaeth ddiwylliannol Cymru.  

Mae nifer o wagleoedd arddangos yn y Llyfrgell, gan gynnwys Oriel Gregynog, gwagle arddangos mwyaf Cymru, a Hengwrt a adeiladwyd i bwrpas arddangos eitemau cyn-1800; ac mae’r cyfan oll yn ein galluogi i arddangos y casgliadau mewn modd cyfoes, perthnasol a dychmygus ac i rannu’r trysorau gyda chynulleidfa mor eang â phosib.

Canllawiau ynglŷn â thynnu lluniau (ffotograffau) yn Arddangosfeydd LLGC

  • Caniateir tynnu lluniau yn yr orielau at ddefnydd personol, anfasnachol yn unig, Fodd bynnag, y mae’r Llyfrgell yn mynnu’r hawl, ar adegau, i wahardd hynny am resymau yn ymwneud â hawliau, diogelwch a chwaeth.
  • Bydd arwyddion clir, bob amser, i gyd-fynd â phob arddangosfa i nodi a oes hawl i dynnu lluniau ai peidio.
  • Caniateir defnyddio camerâu a ffônau symudol.
  • Ni chaniateir defnyddio fflach.
  • Ni chaniateir defnyddio trybedd.
  • Cyfrifoldeb yr ymwelydd yw sicrhau nad yw’n torri unrhyw ddeddfau hawlfraint.

Bwyd a Diod

Ni chaniateir bwyd a diod yn ardaloedd arddangos y Llyfrgell.

Oedd y dudalen yn ddefnyddiol?