Symud i'r prif gynnwys

Gwylio a Gwrando yw gwefan lle mae modd cael mynediad at gasgliadau o ffilm, fideo a sain digidol o Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Archif Ddarlledu Cymru.  

Mae amryw mawr o ddeunydd ac oherwydd cyfyngiadau hawliau, dim ond mewn Corneli Clip mae modd cael mynediad at bob dim. 

Mae Corneli Clip yn leoliadau ledled Cymru sy’n galluogi ymwelwyr i gael mynediad lleol i holl ddeunydd Gwylio a Gwrando Llyfrgell Genedlaethol Cymru.  

Er hynny, mae nifer fawr iawn o eitemau ar gael i’w gwylio o unrhyw le, ac mae modd chwilio drwy holl gofnodion y deunydd o unrhyw le hefyd.

Gwylio a Gwrando

Ewch i Gwylio a Gwrando er mwyn pori a chwilio’r holl ddeunydd, a dechrau gwylio a gwrando.

Beth sydd ar gael?

Dysgwch fwy am beth sydd ar gael ar hyn o bryd ar Gwylio a Gwrando?


Lleoliadau Corneli Clip

Mae Corneli Clip ar gael yn y lleoliadau canlynol:

  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
  • Llyfrgell Glowyr De Cymru, Abertawe
  • Archifau Morgannwg, Caerdydd
  • Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd
  • Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd, Caerdydd
  • Llyfrgell Caerfyrddin, Caerfyrddin
  • Archifdy Gwynedd, Caernarfon
  • Canolfan Ddiwylliant Conwy, Conwy
  • Hafren, Y Drenewydd
  • Archifau ac Astudiaethau Lleol Sir Benfro, Hwlffordd
  • Gwasanaeth Archifau Ynys Môn, Llangefni
  • Llyfrgell Llanrwst, Llanrwst
  • Llyfrgell Ganolog Merthyr Tudful, Merthyr Tudful
  • Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru, Rhuthun
  • Llyfrgell Wrecsam, Wrecsam