John Thomas (1838-1905) Ei fywyd a'i waith

Ganed John Thomas yng Nghellan, Ceredigion, yn fab i labrwr. Yn 1853 symudodd i Lerpwl i weithio mewn siop ddillad. Dros gyfnod o ddeng mlynedd cafodd y gwaith effaith ddrwg ar ei iechyd a gorfodwyd iddo chwilio am waith yn yr awyr agored. Felly, ar ddechrau'r 1860au, aeth yn asiant teithiol i gwmni oedd yn gwerthu deunydd ysgrifennu a ffotograffau o bobl enwog. Bryd hynny yr oedd cyhoeddi a gwerthu ffotograffau bychain o enwogion (ffotograffau carte-de-visite) yn fusnes llewyrchus iawn. Pan sylweddolodd yntau cyn lleied o ffotograffau o enwogion Cymru oedd ganddo i'w gwerthu aeth ati ei hun i newid pethau.

Dysgodd elfennau ffotograffiaeth, ac yn 1863 dechreuodd dynnu ffotograffau o enwogion trwy wahodd nifer o bregethwyr adnabyddus i eistedd iddo. Bu'r fenter yn llwyddiant ac erbyn 1867 yr oedd yn ddigon hyderus i gychwyn ei fusnes ffotograffig ei hun, The Cambrian Gallery. Parhaodd â'r gwaith am yn agos i ddeugain mlynedd gan deithio drwy'r rhan fwyaf o Gymru yn tynnu lluniau o olygfeydd yn ogystal â phobl.

Wedi iddo roi'r gorau i'w fusnes prynwyd casgliad o dros dair mil o'i negyddion gorau gan O M Edwards ar gyfer darlunio'r cylchgrawn Cymru. Yr oedd John Thomas wedi cydweithio gydag OM ers blynyddoedd trwy ddarparu lluniau ac ysgrifennu erthyglau ar gyfer Cymru. Talodd OM y deyrnged hon iddo am y cymorth a gafodd ganddo i ddarparu lluniau i'r cylchgrawn, "... hawdd dychmygu fy llawenydd wrth dderbyn cynnyg cymorth Mr John Thomas, yn ei ddull diymhongar ei hun. Gwyddwn nad oes odid neb yn meddu casgliad mor gyflawn o ddarluniau o holl leoedd hanesiol Cymru. Pryd bynnag y bydd mewn ardal, ychwanega at ei ystor o bob lle tlws, enwog, neu hynod ynddi. Y mae ei oriel gyfoethog wedi bod yn agored, â chroesaw imi... Mae'n gysur meddwl fod yn y Cambrian Gallery gasgliad o olygfeydd ymhob ardal bron yng Nghymru, ac o gymeriadau hynod y blynyddoedd diweddaf ymhob un." (Cymru 17 (1899), t.134).

Bu farw John Thomas ym mis Hydref 1905.

Erbyn heddiw y mae'r negyddion a brynwyd gan O M Edwards yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru.