Symud i'r prif gynnwys

Deunydd Print

William A. Hall – Slavery in the United States of America: personal narrative of the sufferings and escape of William A. Hall, fugitive slave, now a resident in the town of Cardiff (Cardiff, 1862)
Naratif caethwas gan William A. Hall, trigolyn o Gaerdydd oedd wedi dianc o gaethwasiaeth yn yr Unol Daleithiau. Mae Llyfrgell ac Archif Prifysgol Caerdydd wedi ei gyhoeddi ar-lein yn ddiweddar.

Alan Llwyd – Cymru Ddu: Hanes pobl dduon Cymru = Black Wales: a history of black Welsh people (Cardiff, 2005).
Hanes diweddar o bobl dduon Cymreig.

Kathleen Chater – Untold Histories: Black people in England and Wales during the period of the British slave trade, c.1660-1807 (Manchester, 2009).
Astudiaeth gynhwysfawr o brofiad pobl dduon yn Lloegr a Chymru yn ystod cyfnod y fasnach gaethweision sy’n herio sawl rhagdybiaeth gyffredin.

Peter Fryer – Staying Power: The History of Black People in Britain (London, 2010).
Hanes arloesol pobl dduon ym Mhrydain.

David Olusoga – Black and British: a Forgotten History (London, 2016).
Yr hanes diweddar, canmoliaeth uchel, o brofiad pobl dduon Prydeinig.

Ron Ramdin – The Making of the Black Working Class in Britain (London, 2017).
Hanes pwysig sy’n olrhain ymddangosiad dosbarth gweithiol ddu ym Mhrydain o’r 16eg ganrif ymlaen ynghyd â hanes brwydrau’r dosbarth gweithiol du yn ystod yr ugeinfed ganrif.

Beverly Bryan, Stella Dadize and Suzanne Scafe – The Heart of the Race: Black Women’s Lives in Britain (London, 1985).
Gwaith dylanwadol ar brofiad cyfunol menywod duon ym Mhrydain.

Colin Grant – Homecoming: Voices of the Windrush Generation (London, 2019).
Hanesion llafar gan y genhedlaeth Windrush.

Charlotte Williams et al (Eds.) – A Tolerant Nation? Revisiting Ethnic Diversity in a Devolved Wales (Cardiff 2015).
Casgliad rhyngddisgyblaethol sy’n archwilio materion hil, amrywiaeth ethnig a goddefiant yng Nghymru.

Hakim Adi (Ed.) – Black British History: New Perspectives from Roman Times to the Present Day (London, 2019).
Ymdriniaethau newydd ar hanes pobl dduon Prydeinig, gyda phenodau ar brofiadau pobl dduon ym Mhrydain o’r 16eg ganrif i’r cyfnod modern.

C. L. R. James – The Black Jacobins: Touissant L’Overture and the San Domingo Revolution (London, 2001).
Hanes clasurol C. L. R. James o’r Chwyldro Haitiaidd a’i rôl yn hanes y byd.

Chris Evans – Slave Wales: The Welsh and Atlantic Slavery 1660-1850 (Cardiff, 2010).
Hanes rôl Cymru yng nghaethwasiaeth Atlantaidd.

Rob Waters – Thinking Black: Britain 1965-1985 (Berkeley, 2019).
Hanes radicaliaeth du ym Mhrydain o’r 1960au i’r 1980au.

Martin Luther King Jr; Cornell West (ed.) – The Radical King (Boston, 2015).
Cyfrol o areithiau Martin Luther King sy’n adfer ei radicaliaeth wleidyddol.

Malcom X – The Autobiography of Malcolm X (London, 1966).
Hunangofiant dylanwadol un o brif ddeallusion ac actifyddion radicaliaeth ddu.

Paul Gilroy – The Black Atlantic: Modernity and Double Consciousness (London, 1993).
Hanes arloesol ar ddatblygiad diwylliant a phrofiad yr Atlantig Ddu.

Kehinde Andrews – Back to Black: Retelling Black Radicalism for the 21st Century (London, 2019).
Hanes newydd, heriol gwleidyddiaeth radical ddu.

Stephen Bourne – Black Poppies: Britain’s Black Community and the Great War (Stroud, 2019).
Hanes rôl a phrofiadau cymunedau duon Prydeinig yn ystod y Rhyfel Byd Gyntaf.

Elizabeth Williams – The Politics of Race in Britain and South Africa: Black British Solidarity and the Anti-Apartheid Struggle (London, 2012).
Hanes rôl cymunedau duon Prydeinig yn y mudiad gwrth-apartheid.

Walter Rodney – How Europe Underdeveloped Africa (London, 1978).
Gwaith dylanwadol yr hanesydd, actifydd gwleidyddol ac ysgolhaig Gaianaidd Walter Rodney.

Archifau a Llawysgrifau

Jazz Heritage Wales Archive (GB 0210 JAZZLES)
Casgliad aml-gyfrwng yw Jazz Heritage Wales sy’n ffocysu ar gyfraniad Cymru i ddiwylliant jazz ym Mhrydain. Mae hefyd yn amlygu rhai agweddau llai adnabyddus o dreftadaeth jazz Cymru, megis rôl cerddorion jazz benywaidd a dylanwad cerddoriaeth Affricanaidd-Americanaidd o fewn jazz Cymreig. Mae’r archif yn adlewyrchu ei gysylltiad hirdymor â cherddoriaeth jazz cyfoes a hanesyddol.

Wales Anti-Apartheid Movement Papers (GB 0210 WAAM)
Sefydlwyd y Mudiad Gwrth-Apartheid Cymreig yn 1981 i rannu gwybodaeth am apartheid gyda phobl Cymru ac i ymgyrchu dros ddod â’r system apartheid i ben. Mae’r casgliad yn cynnwys cofnodion sy’n perthyn i weithgarwch y Mudiad a’i weinyddiaeth, gan gynnwys papurau pwyllgorau amrywiol a manylion ymgyrchoedd a boicotiau.

Welsh Committee Against Racialism Papers (GB 0210 WELRAC)
Sefydlwyd y Welsh Committee Against Racialism fel corff cynrychiadol, yn cynnwys cynrychiolwyr o amryw o fudiadau a sefydliadau gwleidyddol, llafur a diwylliannol, yn 1976 i gyd-lynu’r gweithgarwch yn erbyn hiliaeth yng Nghymru. Mae’r casgliad yn cynnwys cofnodion gweinyddol y Pwyllgor (1976-1980).

Diary of travels for the Anti-Slavery Society by Thomas Clarkson (NLW MS 14984A)
Dyddiadur Thomas Clarkson (1760-1846), sy’n cynnwys manylion ei daith drwy Gymru yn cefnogi diddymu caethwasiaeth.

Iolo Morganwg and Taliesin ab Iolo Manuscripts and Papers (GB 0210 IOLNWG)
Roedd Iolo Morganwg (1747-1826), y bardd a’r hynafiaethydd dylanwadol, yn ymgyrchwr gwrth-caethwasiaeth brwd. Ceir hyn ei adlewyrchu yn nifer o ddetholiadau a phenillion printiedig o fewn ei gasgliad e.e. NLW MS 21405E, Penillion yn dwyn y teitl 'Achwynion Dynion Duon, mewn caethiwed truenus yn Ynysoedd y Suwgr'.

Terfysgoedd Hil 1919
Bu i’r terfysgoedd hil yn Ne Cymru gymryd lle dros sawl diwrnod ym Mehefin 1919 yn bennaf yn ardaloedd dociau Casnewydd, Caerdydd a’r Barri. Roedd gwrthdaro treisgar wrth i heidiau o ddynion gwyn ymosod ar bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig o ganlyniad i densiynau hiliol a chymdeithasol ar draws y wlad. Bu farw pedwar dyn, anafwyd cannoedd, ac arestiwyd dwsinau. Mae’n bosibl chwilio am hanes y terfysgoedd fel yr adroddwyd yn y wasg Gymreig drwy wefan Papurau Newydd Ar-lein y Llyfrgell.

Cofrestri plwyf ac Adysgrifau’r Esgob
Mae cofrestri bedyddiadau, priodasau a chladdedigaethau yn cynnwys nifer o gyfeiriadau at bobl dduon, yn enwedig yn ystod y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a gellid ei chwilio drwy ddefnyddio termau fel ‘black’. Cedwir y cofrestri gwreiddiol gan yr archifdai sirol perthnasol; mae’r cofrestri hefyd wedi’u digido’n llawn ac maent ar gael i bori a’u chwilio ar Findmypast ac Ancestry, neu am ddim yn Ystafell Ddarllen y Llyfrgell. Roedd yn rhaid i esgobion ddanfon adysgrifau o’r cofrestri i’r esgobaeth a chedwir yr holl adysgrifau sy’n goroesi yn y Llyfrgell.

Juba Vincent, Wynnstay
Mae tystiolaeth yn dangos bod gan Syr Watkin Williams Wynn (1749-1789), y 4ydd Barwnig, o Wynnstay, gwas du o’r enw Juba Vincent. Mae ei enw yn ymddangos yn fyr yng nghyfrifon y tŷ a chofnodir ei fedydd yng nghofrestr blwyf Rhiwabon ar 2 Rhagfyr 1774: ‘Juba, a Black belonging to Watkin Williams Wynn, of Wynnstay’. Yr oedd hefyd yn un o’r perfformwyr yn nramâu Syr Watkin yn 1769.Yr oedd yn ‘ffasiynol’ i rai teuluoedd bonheddig o’r cyfnod i gadw gweision duon.

Mapiau o Dre-biwt, Caerdydd
Roedd Tre-biwt yng Nghaerdydd, a elwir hefyd yn Tiger Bay, yn un o gymunedau amlddiwylliannol cyntaf y DU ac mae’n parhau i fod yn un o ardaloedd mwyaf amrywiol o ran ethnigrwydd yng Nghymru. Erbyn dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, roedd yn gartref i bobl o dros 50 gwlad, gan gynnwys Somalia, Yemen a Groeg. Mae’n bosibl olrhain hanes adeiledig Tre-biwt gan ddefnyddio rhai o’r mapiau hanesyddol sydd ar gael drwy wefan y Llyfrgell, gan gynnwys mapiau’r degwm (c.1840) a chynlluniau trefi'r Arolwg Ordnans.

Baledi Cymru
Roedd baledi yn chwarae rôl bwysig yn lledaenu newyddion drwy’r ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar ddeg, ac maent yn adlewyrchu nifer o faterion gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol y dydd yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys materion yn ymwneud â chaethwasiaeth a’i diddymiad e.e. ‘Hanes, cyffes, achwyniad, anerchiad, a dymuniad y Negroes’ gan Solomon Nutry [1830au?]. Mae’r Athro E. Wyn James wedi ysgrifennu erthygl ddiddorol ar faledi a chaethwasiaeth.

Slebech Estate Records
Prynodd Nathaniel Phillips stad Slebech yn Sir Benfro yn 1793. Fel nifer o dirfeddianwyr cefnog arall o’r cyfnod, fe wnaeth ei ffortiwn fel perchennog ar gaethweision ac ystadau siwgr yn Jamaica yn ystod ail hanner y ddeunawfed ganrif. Mae casgliad y stad yn cynnwys cofnodion, megis llyfrau llythyrau a chyfrifon, yn perthyn i’r ystadau siwgr o 1759 i c.1822.

Louisa Calderon
Fe wnaeth Thomas Picton (1758-1815), swyddog Cymreig yn y Fyddin Brydeinig yn ystod rhyfeloedd Napoleon, rhan o’i ffortiwn fel perchennog caethweision, ac yr oedd ei lywodraethiant o Drinidad ar droad y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn awtocrataidd ac yn greulon. Mae casgliad hanesyddol print y Llyfrgell, sy’n cynnwys bywgraffiadau Cymreig ac o ddiddordeb Cymreig rhwng 1800 ac 1914, yn cynnwys copi o De Trial of Governor T. Picton for the Torture of Louisa Calderon... (1806), sy’n olrhain manylion treial Picton gerbron Mainc y Brenin am awdurdodi artaith Louisa Calderon, merch 14 mlwydd oedd o Drinidad. Cafodd Picton ei ganfod yn euog ond ni chafodd erioed ei ddedfrydu, a gwrth-drowyd y penderfyniad yn rhannol mewn aildreial yn 1808.

William Williams, Pantycelyn
Cyhoeddodd William Williams, Pantycelyn (1717-1791), y pregethwr Methodistaidd amlwg ac emynydd pwysicaf Cymru, cyfieithiad Cymraeg o A Narrative of the Most Remarkable Particulars in the Life of James Albert Ukawsaw Gronniosaw, An African Prince yn 1779.

John Ystumllyn ( neu ’Jack Black’)
Roedd John Ystumllyn yn arddwr Cymreig yn Ystumllyn, Criccieth, yn ystod ail hanner y ddeunawfed ganrif ac yn un o’r dynion du cyntaf i gael ei gofnodi yn Eifionydd. Mae tipyn o hanes ei fywyd wedi’i ddogfennu, er wedi’i seilio ar gyfrifon llafar, mewn pamffled a gyhoeddwyd yn 1888 gan y fferyllydd, argraffydd a’r bardd, Alltud Eifion, John Ystumllyn, neu ‘Jack Black’: hanes ei fywyd a thraddodiadau am dano, o’r amsery dygwyd ef yn wyllt o Affrica hyd adeg ei farwolaeth; ei hiliogaeth, &c., &c., ynghyda darlun o honno yn y flwyddyn 1754.

Cysylltwch â stori(at)llgc.org.uk i awgrymu deunydd eraill y gellir eu hychwanegu at y dudalen hon.