Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Nid yw'r gwasanaeth Corneli Clip ar gael ar hyn o bryd oherwydd problemau technegol. Rydym yn gweithio i ddatrys y rhain mor fuan â phosib. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Nod y prosiect ‘Meddygaeth ac Iechyd yng Nghymru cyn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol’ oedd hyrwyddo’r Casgliad Print Meddygaeth, ac ymestyn mynediad ar-lein trwy gatalogio’r Casgliad cyflawn a digido eitemau a gyhoeddwyd cyn 1900. Ariannwyd y prosiect gan Ymddiriedolaeth Wellcome a dechreuodd y gwaith ym mis Tachwedd 2018.
Mae’r Llyfrgell yn gartref i gasgliad sylweddol o adnoddau meddygol printiedig Cymraeg a Chymreig. Ceir dros 6,500 o eitemau unigol gyda’r cynharaf yn dyddio o 1740. Gellir rhannu’r Casgliad Print Meddygaeth i 6 adran:
Cewch fynediad i’r casgliad arlein trwy Brif Gatalog y Llyfrgell ac mae modd i ganolbwyntio eich chwiliad ar y Casgliad Meddygaeth yn unig trwy ddewis yr opsiwn ‘Chwiliad Uwch’ a nodi’r cyfyngiad. Yna gallwch weld dros 40,000 o ddelweddau ar-lein trwy syllwr pwrpasol a chymorth technoleg Adnabod Nodau'n Optegol neu OCR (Optical Character Recognition). Sgroliwch i lawr i gael syniad gwell o gynnwys y Casgliad Print Meddygaeth.
Am wybodaeth bellach dilynwch ni ar Trydar @PrintaMwyLlGC neu gysylltwch â’r Tîm Ymholiadau trwy:
Dyma lyfrau cynharaf a mwyaf prin y Casgliad. Y llyfr cynharaf sy’n dyddio o 1740 yw ‘Llyfr meddyginiaeth a physygwriaeth i'r anafus a'r clwyfus: Yn cynnwys gynghorion tra buddiol a llesol, i ddyn ac anifail; At yr hwn y chwanegwyd y gelfyddyd o goginiaeth’. Gwelir argraffiadau cyntaf o gasgliadau llysieuol cynnar Nathaniel Williams Pharmacoepia, llyfrau cynnar ar feddyginiaethau poblogaidd megis Pob Dyn yn Phisygwr Iddo ei Hun ac i'w Anifeiliaid Hefyd a’r British Herbal neu Lysieulyfr Brytanaidd gan Nicholas Culpeper. Ceir llyfrau am hanes meddygaeth yng Nghymru a Meddygon Myddfai a llyfrau ar ddyfroedd meddygiaethol Cymru megis gwaith Diederick Wessel Linden: ‘A treatise on the three medicinal mineral waters at Llandrindod, in Radnorshire, South Wales’.
Penodwyd Swyddogion Meddygol Iechyd yng Nghymru o’r 1850au ymlaen, er mwyn gwella glanweithdra a chyfleusterau iechyd a thrwy hynny atal lledaeniad afiechydon a chlefydau. Yn eu plith yr oedd William Kay a benodwyd gan Fwrdd Iechyd Merthyr Tudful yn 1854. Amrywiol eu natur yw’r adroddiadau cynharaf (rhai ond yn 4 tudalen) ond gydag amser ymddangosodd mwy o fanylion ac ystadegau. Ceir ynddynt ddatganiadiau cyffredinol ar iechyd y boblogaeth ynghyd ag ystadegau cyfraddau geni a marw oedolion, plant a babanod, a manylion am achosion o glefydau heintus.
Dyma gyhoeddiadau’r Byrddau Rheoli Gwallgofdai yng Nghymru. Ceir cofnodion ac adroddiadau blynyddol gyda manylion ariannol fel cyfrifon a chyflogau staff, cynlluniau adeiladu neu ehangu’r gwallgofdai ac efallai’n fwyaf diddorol, cofnodion cleifion sy’n cynnwys niferoedd derbyn a rhyddhau, a manylion eu salwch a’u symptomau. Yr adroddiadau mwyaf cyflawn yn y Casgliad yw’r rhai ar wallgofdai Morgannwg, Sir Fynwy, Gogledd Cymru a Chaerfyrddin.
Mae’r Casgliad yn adlewyrchu sawl math gwahanol o ysbyty sydd wedi bodoli yng Nghymru dros y ddwy ganrif ddiwethaf. Roedd ysbytai yn amrywio o fod yn Ysbyty Cyffredinol i un arbenigol fel y ‘Cardiff Eye and Ear Hospital’. Ymhlith y fferyllfeydd yr oedd Fferyllfa Gyffredinol Dinbych sef y cyntaf i ymddangos yng Nghymru yn 1808. Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys adroddiadau gan gartrefi ymadfer, ysbytai bwthyn, ysbytai coffa, ysbytai’r Groes Goch ac ysbytai arwahanu.
Mae’r Casgliad Print Meddygaeth yn cynnwys cofnodion o gymdeithasau nyrsio. Mae’r rhai mwyaf cyflawn (1901-1940) ar gyfer Sefydliad y ‘Queen’s Institute’ a sefydlwyd yn 1887 i ddarparu nyrsio cartref i’r tlawd. Ceir hefyd gyhoeddiadau cymdeithasau nyrsio eraill o ardal Porthmadog, 1901-1929; deugain mlynedd o gofnodion ardaloedd Penllyn (Meirionnydd), Aberystwyth a Llanbadarn, a chofnodion diweddarach hyd at 1948 o Sir Fynwy, Dowlais a Phen y Darren.
Sefydlwyd y Gymdeithas Goffa yn 1912 i gynnig triniaeth rad ac am ddim i'r ddarfodedigaeth. Mae gennym gyfres lawn o adroddiadau blynyddol, cofnodion pwyllgorau niferus ynghyd â thoreth o ddeunyddiau addysgiadol megis pamffledi, llawlyfrau a phosteri a gyhoeddwyd i addysgu’r genedl am y clefyd. Mae’r adran hon yn gyfystyr â 40% o gyfanswm y deunydd sydd wedi’i ddigido yn ystod y prosiect.