Symud i'r prif gynnwys

Cefndir sefydlu Prosiect Cymynrodd Kyffin Williams

Pan fu farw ym Medi 2006, gadawodd yr arlunydd Cymreig byd enwog, Syr Kyffin Williams, ran helaeth o’i ystâd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r gymynrodd yn cwmpasu’r gweithiau a grewyd gan yr artist, ac yn eiddo iddo, ei gasgliad eang o gelf gan eraill, ei brintiau, ei archifau, medalau, ynghyd â chasgliad bach o adar ac anifeiliaid mewn efydd. Yn ogystal â hyn oll cafwyd ychydig dros £400,000 a fydd yn sicrhau’r adnoddau angenrheidiol i storio’r darluniau, catalogio’r holl ddeunydd a’r rhaglen ddigido.

Yng Ngwanwyn 2008 sefydlwyd Prosiect Cymynrodd Kyffin Williams. Dechreuwyd ar y gwaith o gatalogio’r gweithiau celf a’r archifau yn ystod Haf 2008 a dechreuodd y rhaglen ddigido ddechrau Haf 2009. Mae'r catalog arlein wedi cael ei gwblhau ac mae arddangosfa yn 2018 ymhlith y cynlluniau sydd gennym ar gyfer y dyfodol.


Cynnwys cymynrodd Kyffin Williams

Mae’r gymynrodd yn cynnwys 1200 o weithiau ar bapur, 200 darlun olew a thros 300 o brintiau gwreiddiol yn darlunio tirlun a phobl Cymru; archif gynhwysfawr yn cynnwys gohebiaeth, dyddiaduron a llawysgrifau, ynghyd â grŵp mawr o ffotograffau a sleidiau. Mae’r cyfan yn rhoi arolwg cyflawn o’i fywyd a’i waith, a byddant yn adnodd gwerthfawr i nifer o bobl, gan gynnwys:

  • athrawon a myfyrwyr ysgol
  • myfyrwyr addysg uwch
  • myfyrwyr addysg gydol oes
  • ymchwilwyr
  • staff orielau a chasgliadau cyhoeddus a chenedlaethol
  • unigolion â diddordeb mewn celf Gymreig
  • unigolion sy’n casglu neu’n berchen ar waith Kyffin Williams
  • y wasg a chyfryngau eraill


Prynu delweddau arlein

Mae rhai cardiau a phrintiau o waith Kyffin Williams ar werth yn siop arlein y Llyfrgell.


Dolenni allanol