Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Oriel Hengwrt, sy'n dal arddangosfa Trysorau, ar gau ar Ddydd Llun 9 Medi. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Mae Llyfrgell Eva Crane, sy’n perthyn i Gymdeithas Ryngwladol Ymchwil Gwenyn (IBRA), yn gasgliad rhyngwladol o ddeunydd yn ymwneud â gwenyn ac ymchwil gwenyn, ac wedi ei leoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Mae’n gasgliad amrywiol yn cynnwys llyfrau, cyfnodolion, traethodau ymchwil, adargraffiadau, negyddion gwydr, gwydr llusern a fideos. Mae’n un o'r casgliadau pwysicaf ar ymchwil gwenyn yn y byd.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru hefyd yn gartref i gofnodion Cymdeithas Ryngwladol Ymchwil Gwenyn (IBRA), sy'n cynnwys cofnodion Cymdeithas Ymchwil Gwenyn (BRA) a Chymdeithas Ryngwladol Ymchwil Gwenyn (IBRA), [1876]-2004; ynghyd â phapurau a chofnodion ei chyrff rhagflaenol, yn cynnwys yr Apis Club, 1913-1958 a Chymdeithas Gwenynwyr Prydeinig (BBKA), 1940-1957.
Cyflwynwyd hwy i LlGC fel adnau gan Gyfarwyddwr IBRA yn 2006 a 2007.
Mae archif Cymdeithas Ryngwladol Ymchwil Gwenyn (IBRA) wedi'i chatalogio ac ar gael ar Archifau a Llawysgrifau LlGC.
Mae IBRA yn hyrwyddo gwerth gwenyn trwy ddarparu gwybodaeth ar wyddoniaeth gwenyn a gwenynyddiaeth dros y byd ac mae'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol fel prif ffynhonnell a darparwr gwybodaeth am wenyn. Mae ei bas data a gwasanaethau gwybodaeth, gan gwmpasu cyfnodolion, cynorthwyon dysgu a chyhoeddiadau eraill, yn cynnwys pob rhywogaeth o wenyn, boed wedi ei reoli gan ddyn ar gyfer peilliad neu eu cynnyrch, neu yn hollol wyllt.
Mae’n elusen addysgol gofrestredig a sefydlwyd yn 1949, ac fe’i hariennir trwy werthiant cyhoeddiadau, haelioni ei haelodau a’i chefnogwyr, a thrwy gyfraniadau a chymynroddion.
Mae'r Gymdeithas yn cynhyrchu amrywiaeth o ffynonellau o wybodaeth am wenyn ar gyfer gwyddonwyr gwenyn, gwenynwyr a’r cyhoedd:
Ceir rhagor o wybodaeth am y Gymdeithas a'i gwaith ar wefan Cymdeithas Ryngwladol Ymchwil Gwenyn (IBRA).