Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Rhoddwyd y fainc sain hon i’r prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain drwy haelioni a charedigrwydd Cyfeillion Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r prosiect wedi ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ac yn cael ei arwain gan y Llyfrgell Brydeinig. Nod y prosiect yw diogelu recordiadau sain prin ac unigryw Prydain drwy godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ein treftadaeth.
Yma yng Nghymru byddwn yn digido 5,000 eitem sain, catalogio 15,000 o recordiadau ac ymchwilio i’w hawliau. Yn ystod y blynyddoedd nesaf bydd detholiad o glipiau sain yn cael eu chwarae ar y fainc mewn nifer o leoliadau. Clipiau megis cyfweliadau, caneuon, straeon a hanesion llafar.
Ar y dudalen hon mae modd darganfod mwy am y clipiau sydd ar y fainc.
Lleoliad y fainc: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
Dyddiad: Mehefin 2019 – Mawrth 2020
Mae’r fainc wedi ei gosod tu blaen y Llyfrgell Genedlaethol i gyd fynd â’r Arddangosfa Record
Cerddoriaeth gan yr artist Dylan Baines a recordiwyd ar yr 22ain o Dachwedd 1981 (UNLW011/25)
Cerddoriaeth gan y grŵp Ectogram o Fangor. Ffurfiwyd y grŵp yn 1993 gan ddod i ben yn 2015. Yr aelodau oedd Ann Matthews, Alan Holmes ac Maeyc Hewitt (UNLW011/100)
Cyfweliad a cherddoriaeth gan Malcolm Gwyon a Meibion Mwnt. Recordiwyd ar y 25ain o Fai 1980. Artist a cherddor yw Malcolm Gwyon a fu yn perfformio yn yr 1980au fel Malcolm Neon gan rhyddhau sawl caset o dan y label Casetiau Neon (UNLW011/136 a UNLW011/191)
Cerddoriaeth gan y cerddor a’r cyfansoddwr o Lanaman, Tecwyn Ifan (UNLW011/146)
Cyfweliad a cherddoriaeth gan Y Blew. Ffurfiwyd y grŵp yn 1967 gan bump o fyfyrwyr oedd yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth - Maldwyn Pate, Richard Lloyd, Dafydd Evans, Dave Williams, Geraint Evans (UNLW011/5)
Cerddoriaeth gan Plethyn a recordiwyd yn ystod Cân i Gymru yn 1980 (UNLW011/40)
Am ragor o wybodaeth am y prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain neu i glywed y clipiau yn eu cyfanrwydd cysylltwch â: uosh@llyfrgell.cymru