Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Oriel Hengwrt, sy'n dal arddangosfa Trysorau, ar gau ar Ddydd Llun 9 Medi. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Un o amcanion yr Archif yw darparu mynediad hwylus, effeithiol ac mor gytbwys a deallusol ag sy'n bosibl i'r casgliadau sydd o dan eu gofal. Mae'r Archif yn darparu mynediad i'r casgliadau i unigolion a grwpiau, ar y safle a thu hwnt.
Mae'r Archif yn ceisio sicrhau bod y deunydd mor hygyrch ag sy'n bosibl i bawb:
Os hoffech ddod i wylio neu wrando ar ddeunydd yr Archif, gofynir i chi roi 5 diwrnod gwaith o rybudd. Mae llawer o ddeunydd yr Archif yn cael eu cadw dan amodau arbennig, felly mae angen i'r Archif gael digon o rybudd i baratoi'r deunydd ar eich cyfer.