Symud i'r prif gynnwys

Fframwaith Casglu ar y Cyd ar gyfer Adnau Cyfreithiol 2023-2030

Crynodeb gweithredol

Mae’r ddogfen fframwaith hon yn darparu’r egwyddorion arweiniol y bydd llyfrgelloedd adnau cyfreithiol y Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon yn eu defnyddio i ddatblygu eu dull o gasglu ac mae’n nodi eu blaenoriaethau ar gyfer y cyfnod 2023 i 2030. Bydd yn cael ei defnyddio i lywio penderfyniadau ar ddefnyddio adnoddau a gwaith a rennir ar draws y llyfrgelloedd adnau cyfreithiol, ac i lywio strategaethau priodol y chwe llyfrgell unigol. Mae'r fframwaith hwn yn diweddaru ac yn disodli'r Fframwaith Casglu ar y Cyd ar gyfer Adnau Cyfreithiol y Deyrnas Gyfunol, 2015-2020.

Trwy gydol y ddogfen mae ffocws ar werth adnau cyfreithiol ar draws ystod eang o ddefnyddwyr a rhanddeiliaid. Mae ffocws hefyd ar yr adnoddau sydd eu hangen i barhau i gasglu ar y lefelau a sefydlwyd ers cyflwyno rheoliadau adnau cyfreithiol di-brint, ac i ymestyn casglu i ystod gynyddol amrywiol a chymhleth o gyhoeddiadau. Mae hyn yn cwmpasu cylch bywyd y casgliad cyfan, o nodi cyhoeddiadau hyd at dderbyn, prosesu, disgrifio, cadw, darganfod a mynediad.

Fel y disgrifir yn yr Adolygiad Ôl-weithredu, Post-implementation Review mae gweithredu adnau cyfreithiol digidol yn broses gymhleth a graddol. Yn ystod y cyfnod a gwmpesir gan y Fframwaith hwn, disgwylir y bydd y llyfrgelloedd yn datblygu o gasglu'r fformatau a gyhoeddwyd amlaf ('Cam 1'), a datblygu dyfeisgarwch ar gyfer mapiau digidol a sgorau cerddoriaeth ('Cam 2') hyd at 'Gam 3', sy'n cefnogi'r gwaith o gasglu deunydd cyhoeddedig mewn fformatau cymhleth. Mae'r Fframwaith yn cefnogi'r datblygiad hwn drwy nodi'r heriau, y blaenoriaethau a’r anghenion adnoddau allweddol ar gyfer y llyfrgelloedd. Fe'i trefnir o dan y penawdau canlynol:

Agwedd defnyddiwr-ganolog at fynediad i adnau cyfreithiol

Mae'r llyfrgelloedd wedi ymrwymo i sefydlu fforwm defnyddwyr i helpu deall anghenion a phryderon defnyddwyr. Y ffocws yma yw mynediad, gan gynnwys cefnogaeth ar gyfer y nifer cynyddol o gyhoeddiadau sydd ar gael o dan delerau Mynediad Agored. Bydd newid dulliau ymchwil, gan gynnwys defnyddio dulliau cyfrifiadurol a dadansoddi data ar raddfa, yn gofyn am ffyrdd newydd o gefnogi defnyddwyr.

Hygyrchedd

Mae angen sicrhau nad yw’r gwasanaethau a mynediad at gynnwys adnau cyfreithiol yn analluogi ein defnyddwyr, a chefnogi’r defnydd o dechnolegau cynorthwyol. Dylai llyfrgelloedd weithio gyda chyhoeddwyr, gan gynnwys trwy’r Cyd-bwyllgor ar Adnau Cyfreithiol (JCLD), i eirioli dros hygyrchedd, e.e. wrth hyrwyddo mabwysiadu safonau priodol mewn cyhoeddiadau.

Mynd i'r afael â chymhlethdod a chynwysoldeb yn y diwydiant cyhoeddi

Mae hyn wrth wraidd y Fframwaith, ac mae'n effeithio ar bob cam o reoli casgliadau. Dylai'r data rydym yn ei gasglu am gyhoeddiadau yn y Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon gefnogi cynwysoldeb wrth gasglu. Dylem ymateb i gymhlethdod yn y maes cyhoeddi, boed hynny trwy ddefnyddio technolegau newydd neu drwy newid ymddygiad. Dylai ymchwil ychwanegol a chasglu data ein galluogi i ddiffinio'n fanylach yr ystod lawn o gyhoeddiadau sy'n cwmpasu adnau cyfreithiol. Mae angen mwy o ymchwil, er enghraifft, ar arferion hunan-gyhoeddi. Mae angen datblygiad parhaus ar yr offer a'r gwasanaethau sy'n cefnogi adneuo gan gyhoeddwyr bach ac annibynnol.

Edrych ar adnau cyfreithiol fel cyfanwaith integredig

Mae profiad o adnau cyfreithiol dros y ddeng mlynedd diwethaf yn dangos nad yw'r dewis o fformat ar gyfer adneuo yn niwtral. Dylai'r llyfrgelloedd asesu dosbarthiad casglu print a digidol a sicrhau bod hyn yn cyd-fynd â disgwyliadau darllenwyr ac awduron.

Buddsoddi a chynaladwyedd

Mae hyn yn allweddol i gyflawni'r fframwaith. Mae’r adran hon yn cydnabod graddfa fawr adneuo cyfreithiol digidol a gyflawnwyd hyd yma a’r adnoddau sydd eu hangen i gynnal hyn. Bydd cyfnod y Fframwaith yn golygu newid sylweddol i'r isadeiledd, ac mae angen i'r gofynion ar gyfer adnau cyfreithiol fod yn ganolog i'r newidiadau hyn. Bydd gweithredu adnau cyfreithiol yn gofyn am fuddsoddiad parhaus a datblygiad technoleg, rolau a sgiliau staff, a chefnogaeth ar gyfer cydweithredu a rhannu adnoddau, gan gynnwys trwy rwydweithiau rhyngwladol. Mae maint adnau cyfreithiol yn golygu bod cefnogaeth ar gyfer catalogio yn hanfodol i alluogi darganfod eitemau yn y ffyrdd y mae defnyddwyr eu hangen.  Bydd cynaliadwyedd hefyd yn gofyn am reoli casgliadau mewn ffordd sy'n gwneud y defnydd mwyaf effeithlon o adnoddau ac yn lleihau'r effaith amgylcheddol.

Cyfathrebu

Mae angen cyfleu gwerth adnau cyfreithiol yn fwy gweithredol i amrywiaeth o gynulleidfaoedd: y cyhoedd, darllenwyr, awduron a chyhoeddwyr. Mae 2023, sef 10 mlynedd ers i reoliadau adnau cyfreithiol digidol ddod i rym, yn gyfle i ailfywiogi cyfathrebu. Dylem ddatblygu ymwybyddiaeth o adnau cyfreithiol fel rhwydwaith cydweithredol a chyflwyno gwerth casgliadau adnau cyfreithiol ar draws y chwe llyfrgell. Bydd rôl bwysig ar gyfer cyfathrebu wrth baratoi ar gyfer yr ymgynghoriadau a ddisgwylir yn dilyn yr Adolygiad Ôl-Weithredu.

1. Cyflwyniad – gwerth adnau cyfreithiol

Mae adnau cyfreithiol yn sicrhau bod treftadaeth ac allbwn deallusol cyhoeddi'r cenhedloedd – a fynegir trwy waith cyhoeddedig – yn cael eu cadw a'u darparu ar gyfer ymgynghori, ymchwil ac ysbrydoliaeth.

Y brif egwyddor yw bod y llyfrgelloedd adnau cyfreithiol, gyda’i gilydd ac yn gynhwysfawr, yn derbyn ac yn storio’n barhaol allbynnau cyhoeddedig cenedlaethol print, cyfryngau di-brint a chyhoeddiadau digidol. Yna gwneir y rhain yn ddarganfyddadwy ac yn hygyrch, gan adlewyrchu, cyn belled ag y bo modd, anghenion a dewisiadau defnyddwyr.

Mae gwerth adnau cyfreithiol yn cael ei ddangos yn ei gynhwysedd a'i ymrwymiad i gadwraeth yn y tymor hir iawn. Ei nod yw casglu'r holl ddeunydd cyhoeddedig o'r Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon ac mae'n llwyddiannus i raddau helaeth yn y nod hwnnw. Boed yn brint neu’n ddigidol, yn academaidd neu’n boblogaidd, yn gyhoeddiad swyddogol neu’n flog hunan-gyhoeddedig, mae’r archif hanesyddol a chyfredol hon yn adnodd rhagorol. Mae ar gael yn rhad ac am ddim i bob math o ymchwilwyr, beth bynnag fo’u diddordebau, yn ystafelloedd darllen y llyfrgelloedd, mewn lleoliadau daearyddol ar draws y Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon. Mae dyblygu'r casgliad ar draws sawl safle yn diogelu hanes cyhoeddi'r ynysoedd hyn mewn modd unigryw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mae natur gynhwysfawr y broses gasglu yn cefnogi cynhwysiant ac yn adlewyrchu amrywiaeth cyfathrebu cyhoeddedig yn y Deyrnas Gyfunol. Er y gallai llyfrgelloedd unigol ddewis peidio â derbyn pob ychwanegiad posibl i'w casgliadau, mae'r system adnau cyfreithiol yn ei chyfanrwydd yn ymdrechu i beidio â gwahaniaethu'n weithredol o ran cynnwys, gan gydnabod bod cryfder y casgliad yn ei ehangder. Yn ogystal, mae sicrhau bod allbwn mentrau cyhoeddi bach yn cael ei gasglu, yn aml yn sicrhau bod grwpiau a lleisiau mwy ymylol yn cael eu cynnwys, gan sicrhau amrywiaeth bellach yn ein casgliadau.

Mae adnau cyfreithiol yn sicrhau cadwraeth tymor hir cyhoeddiadau. Nid yw llyfrgelloedd adnau cyfreithiol y Deyrnas Gyfunol yn gwaredu deunydd adnau cyfreithiol o'u casgliadau. Fe'i cedwir am byth (er y gellid cyflawni hyn drwy newid fformat). Mae hyn yn helpu i roi sylwedd i safbwynt tymor y llyfrgelloedd eu bod yn casglu nid yn unig ar gyfer defnyddwyr cyfoes a’u hanghenion ond hefyd ar gyfer holl ddefnyddwyr y dyfodol a allai fod â gofynion gwahanol iawn i rai heddiw. Yn ogystal, mae’n helpu i liniaru unrhyw dueddiadau cyfoes o ran yr hyn a all fod yn bwysig neu beidio. Mae ymrwymiad o'r fath yn gofyn am gadw at gadwraeth hirdymor ar gyfer deunyddiau print traddodiadol a fformatau digidol mwy problemus sy'n esblygu'n barhaus.

2. Ymagwedd at fynediad adnau cyfreithiol sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr

Rydym yn casglu cyhoeddiadau fel y gellir eu defnyddio ar gyfer ymchwil, ysbrydoliaeth a mwynhad, naill ai nawr neu yn y dyfodol. Dylai ein casgliadau felly gael eu llywio gan ein bwriad i wneud cynnwys adnau cyfreithiol yn hygyrch, gan ystyried ein defnyddwyr a’n gwybodaeth am eu hanghenion a’u dewisiadau. Mae pob llyfrgell adnau gyfreithiol yn ymgynghori â'u darllenwyr, naill ai drwy fforymau neu arolygon rheolaidd neu'r ddau. Yn ogystal, mae'r llyfrgelloedd gyda'i gilydd wedi ymrwymo i sefydlu fforwm defnyddwyr ar gyfer adnau cyfreithiol, fel y gallwn ddeall yr hyn sydd well darllenwyr ar gyfer mynediad a defnydd. Bydd hyn yn llywio ein cynlluniau ar gyfer datblygu a gwasanaethau casglu adnau cyfreithiol.

Mae mynediad yn ystyriaeth allweddol. Dylai casgliadau adnau cyfreithiol fod yn hygyrch i ddarllenwyr ble bynnag y maen nhw yn y Deyrnas Gyfunol. Mae'r rhan fwyaf o weithgarwch yn canolbwyntio ar ystafelloedd darllen y llyfrgelloedd adnau cyfreithiol. Mae hyn yn golygu y byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn datblygu ein hisadeiledd ar gyfer edrych ar adnau cyfreithiol digidol, boed hynny’n llyfrau a chyfnodolion, sgôrs cerddoriaeth, y we wedi’i harchifo neu fapiau digidol.

Ar gyfer cyhoeddiadau digidol, rydym yn gwybod bod yn well gan ddarllenwyr fynediad o bell, ac mewn ffyrdd sy'n galluogi defnyddio eu dyfeisiau a'u meddalwedd eu hunain. Er y bydd mynediad i'r rhan fwyaf o gynnwys yn aros ar safle'r llyfrgell, gan ddefnyddio terfynellau a reolir gan lyfrgelloedd, mae cyfleoedd i wella mynediad ar gyfer cyfran o'r cynnwys. Bydd hyn o fewn y rheoliadau sy'n gweinyddu adnau cyfreithiol, a lle mae mynediad gwell yn adlewyrchu bwriad y cytunwyd arno gan y cyhoeddwyr. Yr enghraifft amlycaf o hyn yw cyhoeddi Mynediad Agored, lle mae bwriad clir iawn y dylid rhannu cyhoeddiadau. Byddwn hefyd yn ymchwilio i weld a ellid negodi mynediad o bell gyda rhai cyhoeddwyr hefyd.

Mae ymagwedd sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn ein helpu i ddeall y mathau o fynediad sydd eu hangen ar ein darllenwyr hefyd. Er enghraifft, ar gyfer sgôrs cerddoriaeth ddigidol mae hyn yn cynnwys y gallu i lywio o fewn gwaith er mwyn darganfod a chael mynediad at rannau, ac i gael mynediad at recordiadau sain sydd wedi'u mewnosod o fewn cyhoeddiadau digidol mwy cymhleth fel apiau. Gallai anghenion defnyddwyr gynnwys y gallu i ddefnyddio'r data mewn cyhoeddiad, er enghraifft gyda rhai mapiau digidol, sgôrs cerddoriaeth neu gyhoeddiadau swyddogol. Gallai hefyd gynnwys y gallu i ddadansoddi nifer fawr o gyhoeddiadau, neu'r metadata a gafodd eu creu am gyhoeddiadau o'r fath, ar raddfa eang. Bydd hyn yn gofyn am well dealltwriaeth o'r mathau o ddulliau ac offer sy’n cael eu defnyddio ar gyfer ymchwil o'r fath.

Mae Archif We y Deyrnas Gyfunol yn achos pwysig, lle bu ymateb cryf gan ddefnyddwyr bod y cyfyngiadau ar fynediad o bell a dadansoddi data yn cael effaith andwyol ar ymchwil ac yn dylanwadu ar ymchwilwyr i ddefnyddio casgliadau sy’n cael eu cadw y tu allan i’r Deyrnas Gyfunol. Mae hyn yn golygu y byddwn yn dilyn argymhellion yr Adolygiad Ôl-weithredu (PIR) i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus i ddeall sut y gellir cynyddu mynediad i Archif We y Deyrnas Gyfunol wrth ddiogelu hawliau deiliaid.

Dylai ymagwedd sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr ymestyn y tu hwnt i ystyriaethau mynediad. Rhaid i'n penderfyniadau datblygu cynnwys ymateb i ystod o ffactorau, gan gynnwys sicrhau parhad a chydlyniad casgliadau adnau cyfreithiol ar gyfer y tymor hir, ac anghenion defnyddwyr yn y dyfodol. Mae anghenion defnyddwyr bellach yn ffactor pwysig. Byddwn yn elwa o ddeall yn well yr hyn sydd well gan ddefnyddwyr ar gyfer fformatau cyhoeddiadau, a hefyd lle y dylid rhoi blaenoriaeth i gasglu cyhoeddiadau sydd mewn perygl mawr o gael eu colli. Mae darganfod hefyd yn ystyriaeth bwysig, yn enwedig ar gyfer cyhoeddiadau sy'n bodoli ar-lein yn unig neu nad ydynt yn cael eu dosbarthu trwy sianeli masnachol prif ffrwd.

Pwyntiau allweddol

  • Sefydlu Fforwm Defnyddwyr ar gyfer adnau cyfreithiol, sy’n gallu llywio’r broses o wneud penderfyniadau a helpu i lunio'r datblygiad yn y dyfodol ar gyfer adnau cyfreithiol.
  • Parhau i fuddsoddi mewn datblygu ein hisadeiledd ar gyfer darganfod, mynediad a gweld adnau cyfreithiol digidol.
  • Ymchwilio i'r potensial ar gyfer ymestyn mynediad lle mae gwaith wedi'i gyhoeddi o dan delerau Mynediad Agored.
  • Ymchwilio i weld a ellid negodi mynediad o bell hefyd gyda rhai cyhoeddwyr.
  • Mwy o ymchwil i ddeall y mathau o ddulliau ac offer y byddai ymchwilwyr am eu defnyddio i fanteisio ar ddata/metadata mewn cyhoeddiadau adnau cyfreithiol yn unigol ac ar raddfa fawr.
  • Gwaith dilynol ar argymhellion yr Adolygiad Ôl-weithredu i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus i ddeall sut y gellir cynyddu mynediad i Archif We y Deyrnas Gyfunol tra'n diogelu hawliau deiliaid.

3. Hygyrchedd

Dylai pob darllenydd allu darganfod a chael mynediad at gyhoeddiadau adnau cyfreithiol. Ni ddylai'r gwasanaethau sydd wedi’u hadeiladu o amgylch adnau cyfreithiol analluogi defnyddwyr a dylent gefnogi'r defnydd o dechnolegau cynorthwyol. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i lyfrgelloedd gefnogi mynediad cyfartal i gasgliadau lle mae'n rhesymol gwneud hynny.

Mae’r egwyddor hygyrchedd hon yn allweddol i ddatblygiad parhaus adnau cyfreithiol digidol. Mae consensws ymhlith llyfrgelloedd a chynrychiolwyr cyhoeddwyr y dylid cywiro unrhyw gyfyngiadau mewn cyfraith adnau cyfreithiol sy'n anablu darllenwyr. Mae hyn yn golygu y dylid dilyn argymhellion yr Adolygiad Ôl-weithredu i ymgynghori â grwpiau perthnasol a gwthio am newidiadau i ddeddfwriaeth, a chynnal momentwm i gyflawni hyn.

Mae technoleg gynorthwyol yn hynod bersonol a bydd yn dibynnu ar anghenion unigolyn. Yn y pen draw, dim ond trwy ganiatáu mynediad trwy ddyfeisiau sy'n eiddo i ddefnyddwyr y gellir caniatáu i'r dechnoleg hon weithio'n llawn. Byddwn yn parhau i eirioli dros gydraddoldeb mynediad i gyhoeddiadau adnau cyfreithiol i bob darllenydd.

Mae rhai rhannau o'n casgliad yn cyflwyno heriau penodol o ran hygyrchedd. Mae fformatau sylweddol fel mapiau a cherddoriaeth (ac yn ôl eu natur, Fformatau sydd o hyd yn Datblygu) yn cyflwyno heriau hygyrchedd a dylem ddeall yn well natur yr heriau a'r ffyrdd hynny o wella mynediad. Felly, dylem ddatblygu neu ffafrio datrysiadau mynediad a fydd yn caniatáu defnyddio meddalwedd hygyrchedd arbenigol. Byddwn yn parhau i gysylltu â chydweithwyr arbenigol i ddeall y materion hyn yn well a mynd i'r afael â hwy.

Dylid ystyried hygyrchedd hefyd o ran cyfathrebu am adnau cyfreithiol, a bydd yn adlewyrchu’r ffaith bod gan y Llyfrgelloedd lefel uchel o ymgysylltu â’r cyhoedd/ cymuned/darllenwyr allanol sydd â sbectrwm eang o alluoedd, gwybodaeth dechnolegol ac offer.

Mae hygyrchedd hefyd yn ystyriaeth bwysig wrth wneud penderfyniadau am y casgliadau. Gall hyn fod trwy y math o fformat i'w ddewis ar gyfer adneuo, neu drwy sut rydym yn blaenoriaethu cyhoeddwyr ac yn cefnogi cynhwysiant yn ein casgliadau. Bydd lefel yr hygyrchedd y gallwn ei ddarparu ar gyfer cyhoeddiad digidol penodol yn dibynnu i raddau helaeth ar ymlyniad at arfer da a safonau ar ran y cyhoeddwr sy’n adneuo’r gwaith.

Os na chynhyrchir cynnwys yn unol â safonau hygyrchedd, bydd mynediad yn broblem i rai defnyddwyr. Mae hyn y tu hwnt i reolaeth uniongyrchol y llyfrgelloedd, ond gallai’r llyfrgelloedd neu’r Cyd-bwyllgor ar Adnau Cyfreithiol (JCLD) chwarae rhan mewn hyrwyddo mabwysiadu safonau hygyrchedd. Felly dylem eirioli dros fabwysiadu safonau hygyrchedd ar gyfer y deunyddiau sy’n cael eu hadneuo.

Pwyntiau allweddol

  • Ni ddylai gwasanaethau sydd wedi’u hadeiladu o amgylch adnau cyfreithiol analluogi defnyddwyr.
  • Dylid datblygu neu gefnogi datrysiadau mynediad a fydd yn caniatáu defnyddio meddalwedd hygyrchedd arbenigol.
  • Dylid deall heriau gwahanol fathau o ddeunydd mewn cyd-destun hygyrchedd.
  • Dylid dilyn argymhellion yr adolygiad ôl-weithredu i ymgynghori â grwpiau perthnasol a gwthio am newidiadau i ddeddfwriaeth.
  • Dylid parhau i eirioli dros gydraddoldeb mynediad i gyhoeddiadau adnau cyfreithiol i bawb.
  • Dylai cyfathrebu am adnau cyfreithiol i fod yn hygyrch i bawb.
  • Dylai hygyrchedd fod yn ffactor allweddol mewn penderfyniadau ar ddatblygu casgliadau (er enghraifft, lle mae dewis ynghylch fformat gwaith i'w adneuo).
  • Eirioli dros fabwysiadu safonau hygyrchedd mewn deunydd adnau cyfreithiol.

4. Gofal! Bylchau! Mynd i'r afael â chymhlethdod a chynhwysiant wrth gyhoeddi

Mae cyhoeddi yn y Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon yn gyfoethog o ran amrywiaeth. Mae hyn o ran cynnwys, pobl sy’n cael eu cynrychioli, mathau o gyhoeddiad, patrymau cyhoeddi, a’r fformatau sy’n cael eu defnyddio. Mae cyhoeddi yn y Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon yn cynnwys rhai o'r cyhoeddwyr byd-eang mwyaf ac yn parhau trwy restr hir iawn o gyhoeddwyr annibynnol, bach a hunan-gyhoeddwyr. Mae hefyd yn cynnwys llawer o sefydliadau ac unigolion nad ydynt yn ystyried eu hunain yn gyhoeddwyr o gwbl (er enghraifft rhai elusennau, sefydliadau ymgyrchu, a grwpiau ymgyrchu). Mae'r holl fathau hyn o gyhoeddiadau a chyhoeddwyr yn bwysig i'n casgliadau adnau cyfreithiol.

Mae egwyddor cadwraeth bwysig yn y fantol. Er bod caffael etemau rhai blynyddoedd ar ôl eu cyhoeddi weithiau'n bosibl, y ffordd orau o sicrhau ein bod yn casglu ac felly'n cadw cyhoeddiadau yw drwy gasglu mor agos at y pwynt cyhoeddi ag y gallwn. Mae hyn yn gofyn am ddata o ansawdd da am amrywiaeth eang o gyhoeddiadau. Dylem adolygu’r ffynonellau data a ddefnyddiwn i nodi cyhoeddiadau, a cheisio ymestyn hyn i gynnwys gwybodaeth am gyhoeddiadau nad yw’n hawdd eu hadnabod. Bydd hyn yn gofyn am waith ar y cyd ar draws y llyfrgelloedd adnau cyfreithiol.

Mae data o ansawdd da am gyhoeddiadau, sy’n cwmpasu ehangder, yn hanfodol er mwyn deall yr hyn y mae angen inni ei gasglu, yr heriau sy’n deillio o ymddygiadau cyhoeddi newydd, a pha mor dda yr ydym yn llwyddo i’w gasglu. Bydd hyn yn gofyn am ymchwilio i ba ffynonellau data sy'n bodoli i ategu'r rhai rydym yn eu defnyddio, a bydd angen ymchwil i dueddiadau cyhoeddi. Bydd y dystiolaeth a'r data y byddwn yn eu cynhyrchu yn ychwanegu manylion at y dasg o gasglu o dan adnau cyfreithiol, ac yn cefnogi cyfathrebu â chyhoeddwyr, awduron a chrewyr eraill.

Mewn rhai achosion, gellir cefnogi casglu trwy weithio gyda'r bobl, sefydliadau a chymunedau sy'n cynhyrchu neu'n defnyddio rhai cyhoeddiadau. Bydd hyn yn helpu i godi ymwybyddiaeth o werth adnau cyfreithiol, ac yn sicrhau bod llyfrgelloedd yn dod yn ymwybodol o gyhoeddiadau yn gynnar. Mae hyn yn arbennig o bwysig lle cafwyd cynrychiolaeth isel yn ein casgliadau, neu lefel isel o ymgysylltu wrth gasglu. Mae casgliadau thematig Archif We y Deyrnas Gyfunol yn darparu un enghraifft o guradu ar y cyd er mwyn adeiladu casgliadau adnau cyfreithiol.

Mae ein hoffer a'n hisadeiledd sy'n galluogi casglu ar raddfa fawr yn hanfodol i sicrhau bod ein casgliadau'n gynrychioliadol, o ystyried maint cyhoeddi yn y Deyrnas Gyfunol. Er mai ein nod yw bod yn gynhwysfawr, mae rhai achosion lle nad yw ein gallu i gasglu ar raddfa fawr yn bodloni maint a chymhlethdod cyhoeddi. Mae rhai cyfyngiadau yn cael eu hamlygu mewn amseroedd aros hir i brosesu cynnwys digidol sydd newydd ei dderbyn neu wrth greu'r llifoedd gwaith angenrheidiol i'w hadneuo gan gyhoeddwr newydd. Mae achosion eraill lle nad ydym eto wedi datblygu'r gallu i gasglu (e.e. ar gyfer rhai mathau o gyfryngau cymdeithasol, neu gyhoeddiadau sy'n cael eu darparu fel cronfeydd data deinamig). Mewn achosion eithriadol, mae'r llyfrgelloedd wedi penderfynu eithrio math o ddeunydd cyhoeddedig, lle nad oes unrhyw fudd adnabyddadwy ar gyfer cadwraeth neu fynediad tymor hir (e.e. defnyddiau ysgrifennu heb gynnwys golygyddol), er mwyn gwarchod adnoddau.

Dylem barhau i fuddsoddi yn yr offer a'r gwasanaethau sy'n cefnogi adneuo gan gyhoeddwyr llai. Mae'r rhain yn gymysgedd o ddulliau "tynnu i mewn", lle mae'r llyfrgelloedd yn defnyddio cymysgedd o ffynonellau data i nodi, casglu a disgrifio cyhoeddiadau sydd ar gael yn agored ar y we; a dulliau "gwthio", i ddarparu offer hawdd eu defnyddio i gyhoeddwyr adneuo eu gwaith yn uniongyrchol gyda'r llyfrgelloedd. Mae offer o'r fath yn ddefnyddiol hefyd wrth hyrwyddo manteision adnau cyfreithiol i gyhoeddwyr a sefydliadau llai nad ydynt efallai'n ystyried eu hunain fel cyhoeddwyr.

Mae cynhwysiant yn ein casgliadau’n cyfeirio at y mathau o gyhoeddiadau rydym yn eu casglu hefyd. Mae cymhlethdod cynyddol ffurfiau cyhoeddi adnau cyfreithiol digidol yn her sylweddol y mae'n rhaid mynd i'r afael â hi. Mae hyn yn cynnwys rhai mathau o gyhoeddiadau sydd wedi dod yn gyfarwydd iawn i ddefnyddwyr, megis erthyglau mewn cyfnodolion sydd â chynnwys mewn sawl fformat (e.e. testun gyda delweddu sain, data neu feddalwedd). Mae hefyd yn cynnwys y cyfanswm mawr iawn o gyhoeddi swyddogol sy'n ddigidol yn unig sy’n cael ei gyflwyno mewn amrywiaeth o fformatau (e.e. HTML5, ODF, setiau data). Yn yr un modd, cynhyrchir mapiau digidol a sgôrs cerddoriaeth mewn amrywiaeth o wahanol fformatau, a all gyflwyno heriau ar gyfer cadwraeth, darganfod a mynediad.

Mae mathau eraill o wrthrychau digidol cymhleth yn dangos mwy o ddefnydd o arloesi mewn technoleg, er mwyn ennyn diddordeb darllenwyr mewn dulliau newydd a chydnabod gallu’r darllenydd i ddewis. Mae'r llyfrgelloedd adnau cyfreithiol wedi mabwysiadau ymagwedd arbrofol dan arweiniad ymchwil o ran y mathau hyn o gyhoeddiad, o dan y pennawd 'fformatau sydd o hyd yn Datblygu'. Y nod yw dogfennu'r newid yn y defnydd o dechnoleg ac arloesedd yn ysgrifenedig, mewn ffyrdd sy'n cefnogi ymchwil, creadigrwydd ac arloesedd pellach. Mae’r mathau hyn o gyhoeddiad yn gallu cefnogi nodau ehangach ar gyfer cynwysoldeb wrth gasglu hefyd, o ystyried yr amrywiaeth o awduron sy'n creu gweithiau o'r fath.

Wrth ddatblygu'r casgliadau adnau cyfreithiol, mae'n bwysig deall y diwylliant yng nghlwm â rhai fformatau, ac i ystyried a yw cynulleidfaoedd a rhannau penodol o gymdeithas gael eu cynrychioli'n well gan y fformatau hynny na gan fformatau eraill, mwy cynaliadwy yn fasnachol efallai. Er enghraifft, mae naratifau rhyngweithiol yn cael eu defnyddio fel ffordd o fynegi profiad personol sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl. Mae llwyfannau sy'n cefnogi creu ffuglen edmygwyr yn gallu annog awduron ac awduron iau gydag amrywiaeth o brofiadau byw. Er y gallai penderfyniad i beidio â dilyn fformat penodol fod yn ddealladwy ar sail gallu technegol, neu hyd yn oed gwmpas y ddeddfwriaeth ei hun, mae angen i ni fod yn ymwybodol o oblygiadau cymdeithasol a diwylliannol y penderfyniadau hynny a sut y gallan nhw effeithio ar gynrychiolaeth yn y casgliadau.

Pwyntiau allweddol

  • Adolygu ffynonellau data cyhoeddi sy’n cael eu defnyddio gan lyfrgelloedd adnau cyfreithiol, a ffynonellau amgen sydd ar gael
  • Ymchwilio i arferion hunan-gyhoeddi, ymddygiad ac offer
  • Parhau i ymgysylltu a darparu gwasanaethau i gyhoeddwyr bach
  • Parhau i ddatblygu offer a gwasanaethau sy'n cefnogi casglu ac adneuo cyhoeddiadau o restr hir o gyhoeddwyr llai
  • Bod yn ymwybodol o fformatau a genres y gallem fod yn eu hesgeuluso ac ymgysylltu â chymunedau rhanddeiliaid yn briodol
  • Parhau i gefnogi a datblygu'r offer a'r isadeiledd sy'n galluogi casglu ar raddfa fawr.

5. Gofal! Print! Edrych ar adnau cyfreithiol fel cyfanwaith integredig

Mae cyflwyno rheoliadau adnau cyfreithiol di-brint yn 2013 wedi trawsnewid y casgliadau cyfoes sydd gan y llyfrgelloedd adnau cyfreithiol. Un amcan allweddol oedd profi’r gallu i gasglu cyhoeddiadau digidol ar raddfa fawr. Mae hyn wedi cynnwys deunydd digidol yn unig (e.e. trwy Archif We y Deyrnas Gyfunol) a hefyd y broses o drosglwyddo adnau o brint i ddigidol lle mae cyhoeddiadau yn bodoli yn y ddwy ffurf. Mae’r olaf wedi’i gyflawni trwy gytundebau gyda chyhoeddwyr sy'n berthnasol ar lefel yr holl lyfrau neu erthyglau cyfnodolyn perthnasol sydd gan y cyhoeddwr hwnnw. Yr effaith yw bod tua hanner yr holl lyfrau a hanner yr holl deitlau cylchgronau sydd wedi’u derbyn o dan adnau cyfreithiol bellach yn cael eu derbyn fel rhai digidol. Mae hyn yn cynnwys llyfrau gan rai o'r cyhoeddwyr mwyaf o weithiau llenyddol ac academaidd.

Mae'r llyfrgelloedd adnau cyfreithiol wedi nodi rhai canlyniadau anfwriadol o newid mor gyflym, yn enwedig o ran y gwasanaethau sydd wedi’u cynnig i ddarllenwyr a phrofiad a dewis darllenwyr. Un ystyriaeth sy'n deillio o’r ymagwedd defnyddiwr-ganolog at adnau cyfreithiol yw nad yw fformatau'n "niwtral" i ddarllenwyr. Mae'r dewis o fformat cyhoeddi yn cael effaith o ran dewis darllenwyr ac ar sut y gellir defnyddio a dehongli gwaith. Mae llawer o fanteision i gyhoeddiadau digidol, ac mae'r llyfrgelloedd adnau cyfreithiol yn cydnabod yr angen i barhau i fuddsoddi yn y gwasanaethau sydd eu hangen i gael mynediad at gyhoeddiadau digidol a'u datblygu. Fodd bynnag, mae rhai achosion lle mai print yw'r ffurf sy’n cael ei ffafrio ar gyfer mynediad, a lle mae print yn cynnig mantais barhaus o'i gymharu â dewis arall digidol.

Mae maint cyhoeddi yn y Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon yn golygu nad yw'n bosibl gwneud penderfyniadau ar ffurf caffael ar lefel teitl unigol. Fodd bynnag, mae awydd i asesu dosbarthiad casglu print a digidol yn ein casgliadau adnau cyfreithiol, er mwyn sicrhau bod hyn yn cyd-fynd â disgwyliadau darllenwyr ac awduron. Bydd hyn yn wahanol i bob llyfrgell gan y bydd gwahaniaethau yn yr arbenigedd a’r gynulleidfa. Fel gyda meysydd eraill o gasglu adnau cyfreithiol, bydd rhannu profiad yn helpu i wella casgliadau a gwasanaethau ar draws pob llyfrgell.

Pwyntiau allweddol

  • Mae angen inni ystyried yr hyn sydd well gan defnyddwyr a’u hanghenion, lle gallent fod o blaid cadw print, wrth drosglwyddo o brint i ddigidol yn ogystal â’r manteision i’r llyfrgelloedd adnau cyfreithiol a’u defnyddwyr a oedd yn sbardun mor bwysig i adnau cyfreithiol digidol yn y lle cyntaf.
  • Mae rhai mathau penodol o gyhoeddiadau yn gallu parhau i gael eu hadneuo mewn print oherwydd nodweddion cynhenid y fformatau print hynny a allai gynnig profiad gwell i'r defnyddiwr, e.e. llyfrau celf darluniadol, llyfrau lluniau plant, a sgôrs cerddoriaeth.
  • Efallai y bydd llyfrgelloedd adnau cyfreithiol yn casglu rhai fformatau yn wahanol. Byddant yn rhannu gwybodaeth am yr achosion hyn fel y gallant adeiladu casgliadau print a digidol cryf gyda’i gilydd ar gyfer y Deyrnas Gyfunol gyfan ac Iwerddon.

6. Buddsoddi a chynaliadwyedd: staffio, isadeiledd a chydweithio

Mae'r profiad o weithredu adnau cyfreithiol digidol wedi arwain at twf enfawr mewn casgliadau a chasgliadau cwbl newydd mewn fformatau digidol. Ym mis Mawrth 2022, derbyniwyd mwy nag 8 miliwn o erthyglau cyfnodolion a 700,000 o lyfrau. Mae Archif We y Deyrnas Gyfunol yn cynnwys biliynau o ffeiliau a mwy nag 1 petabyte o ddata.

Mae'r ymestyn hwn o ran adnau digidol wedi digwydd ochr yn ochr â lefelau uchel parhaus o adneuo print. Er bod gan gasgliadau digidol wahanol brosesau rheoli i  brosesau print, mae'r egwyddorion sy'n ymwneud â chymorth ar y cyd ar gyfer cadwraeth a mynediad yn debyg. Mae casgliadau print yn cael eu diogelu fel copïau lluosog sy’n cael eu cadw ar draws y llyfrgelloedd, ac yn ddigidol drwy isadeiledd a rennir gyda ceinciau storio lluosog. Mae rhannu'r isadeiledd digidol wedi golygu bod penderfyniadau i drosglwyddo cyhoeddwyr o brint i adnau digidol wedi'u gwneud ar y cyd gan y llyfrgelloedd, ac mae cysylltiad tynn rhwng penderfyniadau rheoli casgliadau digidol a chasglu print.

Un nod o weithredu adnau cyfreithiol digidol fu profi'r gallu i reoli adnau digidol ar raddfa fawr. Er bod hyn wedi bod yn llwyddiannus, y canlyniad yw galw mawr a chynyddol ar systemau a phrosesau, a rolau arbenigol, i barhau i addasu i newidiadau mewn fformatau cyhoeddwyr a metadata, ac i reoli swm cynyddol  adnau digidol. Mae'r system yn gymhleth iawn, sy'n cyflwyno heriau pan fydd angen newid. Fel y nodwyd mewn adran flaenorol (‘Gofal! Bylchau!’), mae tystiolaeth nad yw ein capasiti presennol yn cadw i fyny â maint a chymhlethdod cyhoeddi digidol. Mae ein gallu i "ychwanegu" cyhoeddwyr newydd at lifoedd gwaith amlyncu digidol yn gyfyngedig, ac mae oedi cyn prosesu’n digwydd gyda rhai cyhoeddwyr sydd eisoes yn adneuo ar ffurf ddigidol. Yn ogystal, mae gwahanol fathau o gyhoeddiadau (e.e. cronfeydd data, neu erthyglau mewn cyfnodolion gyda fideo wedi'i fewnosod) sy'n gyffredin ym maes cyhoeddi ymchwil ond nad oes gan y llyfrgelloedd y gallu i'w rheoli eto.

Bydd cyfnod y fframwaith hwn yn gweld newidiadau sylweddol i'r isadeiledd y mae'r llyfrgelloedd yn rheoli prosesu a chadw cyhoeddiadau digidol trwyddi. Bydd ymgysylltu'n agos â'r broses newid hon yn gofyn am adnoddau ac ymdrech. Mae hyn yn cynnwys parhau i gynnal a datblygu systemau tra'u bod yn parhau i gael eu defnyddio, ac ar gyfer unrhyw systemau nad ydynt wedi'u cynnwys yn y newid isadeiledd hefyd.

Mae'r argymhellion o'r Adolygiad Ôl-weithredu yn nodi meysydd i wella gweithredu adnau cyfreithiol ac yn benodol i wella'r modd y darperir gwerth cyhoeddus o adnau cyfreithiol (er enghraifft, drwy gefnogi hygyrchedd). Byddai newidiadau i’r rheoliadau yn creu gofynion newydd. Byddai newid sylweddol yn cael ei gyflwyno er enghraifft drwy alluogi mynediad o bell i adnoddau sydd wedi'u harchifo o'r we agored. Ystyriaeth bwysig yma fyddai newidiadau i ganiatáu adneuo ffacsimili digidol, er enghraifft ar gyfer papurau newydd neu gylchgronau a dderbynnir fel print ar hyn o bryd.

Mae'r cynnydd mewn maint yn ychwanegu mwy o gymhlethdod i’r broses darganfod, ac mae angen ailfeddwl am wasanaethau darganfod mewn rhai achosion (er enghraifft, gydag Archif We y Deyrnas Gyfunol). Yn ogystal, mae gofynion newydd, neu ofynion sydd â mwy a mwy o frys, yn cael eu codi gan ein blaenoriaethau sy’n newid. Byddai rheoli hawliau, gan gynnwys y gallu i adnabod cynnwys Mynediad Agored, yn un enghraifft. Mae eraill yn cynnwys y gallu i nodi cyhoeddiadau o fewn casgliad y we sydd wedi’u harchifo (‘Document Harvester’) a pharhau i gynnal a datblygu’r offer a ddefnyddiwn i gefnogi casglu ac adneuo gan gyhoeddwyr llai.

Mae adnoddau ar gyfer catalogio a darganfod yn ystyriaeth allweddol ar gyfer cefnogi anghenion defnyddwyr. Mae angen mwy o adnoddau ar gyfer catalogio, yn yr un modd ag y mae angen dulliau o gatalogio sy'n cefnogi cynyddu adneuo. Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth ar gyfer cyfresi digidol a gyhoeddir i'r we yn unig, a chyhoeddiadau sydd ar ffurf ffeiliau lluosog a gyhoeddir ar-lein o'r un lleoliad. Fel gyda gweithgareddau eraill, mae angen parhaus am gymorth a hyfforddiant wrth i'r gofynion newid.

Mae gweithredu Adnau Cyfreithiol Di-brint, ers 2013, wedi gofyn am rolau newydd ac ail-ganolbwyntio rolau ar draws sawl maes gan gynnwys curadu, catalogio, rheoli casgliadau a mynediad ac ymgysylltu. Mae llawer iawn o staff wedi bod yn ymwneud ag adnau cyfreithiol ar draws yr holl lyfrgelloedd adnau cyfreithiol, ac mae'r Deyrnas Gyfunol yn cael ei chydnabod fel un sy'n arwain o ran gweithredu ymarferol.

Mae Archif We y Deyrnas Gyfunol yn un enghraifft lle mae rolau arbenigol technegol a churadurol, gydag archifwyr gwe penodol yn y Llyfrgell Brydeinig, Llyfrgell Genedlaethol yr Alban a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae llyfrgellwyr ar draws yr holl lyfrgelloedd adnau cyfreithiol yn cymryd rhan mewn adeiladu a rheoli casgliadau archif ar y we. Yn yr un modd, mae llyfrgellwyr cyhoeddiadau swyddogol wedi ymaddasu i gyhoeddi digidol yn unig ar gyfer llywodraethau'r Deyrnas Gyfunol, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Yn y ddau achos, cafwyd enghreifftiau llwyddiannus o gydweithio a rhannu gwybodaeth arbenigol ar draws y llyfrgelloedd i gefnogi datblygiad casgliadau. Dyma ddwy enghraifft yn unig o sut mae rolau'n newid ar draws yr holl lyfrgelloedd adnau cyfreithiol mewn ymateb i'r heriau a godwyd gan gymhlethdod cyhoeddi a newid arferion ar draws holl wledydd y Deyrnas Gyfunol.

Mae arbenigeddau wedi datblygu ar hyd cylch bywyd rheoli casgliadau, gan gynnwys normaleiddio metadata, prosesu cyn-amlyncu, a chadwraeth ddigidol. Mae hyn wedi bod yn addasiad cyflym mewn llawer o achosion, ac mae capasiti’n gallu cael ei gyfyngu gan y nifer fach o rolau a gwybodaeth arbenigol mewn rai manau yn y gadwyn rheoli casgliadau. Mae risg “pwyntiau methu unigol” mewn manau allweddol yn y prosesau rheoli casgliadau, ac mae cynllunio olyniaeth yn gallu bod yn anodd ei reoli.

Mewn rhai achosion, mae ymgysylltu a chymryd rhan mewn rhwydweithiau rhyngwladol yn gallu cefnogi datblygu sgiliau a hefyd wrth rannu adnoddau a gwybodaeth ar gyfer datrys materion penodol. Mae hyn yn wir am archifo gwe (y Consortiwm Cadwraeth Rhyngrwyd Rhyngwladol) a chadwraeth ddigidol (y Glymblaid Cadwraeth Ddigidol a'r Sefydliad Cadwraeth Agored).

Ar yr un pryd, mae mwy o ffocws, ar draws y Deyrnas Gyfunol ac yn rhyngwladol, ar ddefnydd cynaliadwy o adnoddau a lleihau'r effaith amgylcheddol ar draws pob proses. Mae gan lyfrgelloedd adnau cyfreithiol gyfrifoldeb i gyfrannu tuag at ymdrechion i sicrhau defnydd sero net o garbon yn eu prosesau. Mae hyn yn effeithio ar wneud penderfyniadau ar gyfer caffael digidol a rheoli casgliadau, yn ogystal ag ar gyfer print; mae costau cylch bywyd gwahanol ac mi fydd hyn yn dylanwadu ar benderfyniadau. Mae effaith amgylcheddol hefyd yn peri pryder i gyhoeddwyr, sy'n adolygu eu prosesau cynhyrchu ac yn newid agweddau yn eu cylch, gan gynnwys dosbarthu a defnyddio modelau print ar alw.

Mae llyfrgelloedd adnau cyfreithiol yn cyfrannu'n ehangach at gynaliadwyedd amgylcheddol drwy eu casgliadau, gan adlewyrchu ymchwil gyfredol yn ogystal â gwybodaeth a data hanesyddol. Bydd darparu mynediad i'r wybodaeth hon, i ddefnyddwyr ar draws meysydd ymchwil academaidd, busnes a phroffesiynau, yn cefnogi cynhyrchu gwybodaeth ac arloesedd newydd.

Pwyntiau allweddol

  • Cefnogi datblygu staff ac annog cydweithio ar draws llyfrgelloedd adnau cyfreithiol, gan nodi meysydd newydd ar gyfer datblygu ar y cyd.
  • Sicrhau bod adnoddau i reoli a pharhau i ddatblygu:
    • Storfa Ddigidol
    • Archif We y Deyrnas Gyfunol
    • Porth Adneuo’r Cyhoeddwyr, Digital Deposit Scotland, a mecanweithiau adneuo cyhoeddwr tebyg
    • Document Harvester
    • Ateb Mynediad Adnau Cyfreithiol
    • Geospatial Data Application and Services (GDAS) Viewer
  • Parhau i fuddsoddi mewn datblygu staff a isadeiledd technegol i reoli casgliadau'n gynaliadwy ac ar raddfa fawr.
  • Cynllunio i sicrhau bod gofynion yn hysbys ac adnoddau ar gael i gefnogi unrhyw newidiadau sy'n deillio o'r Adolygiad Ôl-weithredu.
  • Cyfrannu at ymchwil ac arloesi sy'n cefnogi cynaliadwyedd amgylcheddol, trwy fynediad at gasgliadau.
  • Ymgysylltu â phrosiectau ar draws llyfrgelloedd adnau cyfreithiol i wella’r broses darganfod i ddefnyddwyr, a chefnogi'r defnydd o drwyddedau Mynediad Agored.

7. Amcanion

Mae chwe llyfrgell adnau cyfreithiol y Deyrnas Gyfunol yn adnabyddus yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Ymhlith ymchwilwyr, yn gyffredinol mae dealltwriaeth dda o ystod ac ehangder y casgliadau a gedwir. Fodd bynnag, mae gwybodaeth y cyhoedd am adnau cyfreithiol ei hun, sut mae'n cyfrannu at gasgliadau'r llyfrgelloedd, a sut mae llyfrgelloedd yn ymgysylltu â chyhoeddwyr ar adnau cyfreithiol yn llai hysbys. Mae hyn yn gallu arwain at gamddealltwriaeth ynghylch y cynnwys a gedwir a sut y gellir ei gyrchu, diffyg ymwybyddiaeth o rywfaint o’r cynnwys, a hefyd ymwybyddiaeth isel o bwysigrwydd perthnasau parhaus â chyhoeddwyr i sicrhau bod casgliadau'n cael eu cynnal a'u datblygu. Mae angen cyfleu gwerth adnau cyfreithiol yn fwy gweithredol i ystod o gynulleidfaoedd. Rhan allweddol o hyn fydd datblygu ymwybyddiaeth o'r llyfrgelloedd adnau cyfreithiol fel rhwydwaith cydweithredol, a chyflwyno gwerth casglu a chasgliadau adnau cyfreithiol ar draws y chwe llyfrgell.

Mae rhai rhannau o'n casgliadau adnau cyfreithiol yn fwy adnabyddus nag eraill, ac efallai y bydd angen canolbwyntio gweithgarwch ar rannau a allai fod yn llai adnabyddus, e.e. Archif We y Deyrnas Gyfunol, a fformatau digidol cymhleth.

Mae darllenwyr ac ymchwilwyr yn gwerthfawrogi'r casgliad a grëwyd yn hytrach na'r prosesau casglu. Dylai'r pwyslais wrth gyfathrebu fod ar gasgliad sy'n berthnasol i'r Deyrnas Gyfunol gyfan ac sy'n adlewyrchu ei gweithgaredd. Gyda'i gilydd, mae'r llyfrgelloedd adnau cyfreithiol yn darparu rhwydwaith i sicrhau cadwraeth a mynediad tymor hir mewn lleoliadau ledled y Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon.

Mae mynediad yn rhan allweddol o ymgysylltu effeithiol â darllenwyr ac ymchwilwyr, a dylai'r nod hwn gefnogi ymagwedd sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr a bod yn sail iddo.

Ar gyfer awduron, gan gynnwys awduron corfforaethol yn ogystal ag unigolion, mae gwerth tebyg i gynhwysiant, a chadwedigaeth, yn ogystal â chael eu cynrychioli mewn casgliadau adnau cyfreithiol. Nid yw pob awdur yr un fath, neu â'r un gwerthoedd. Bydd ystyriaethau pwysig yn cynnwys pa mor dda y gallwn: barchu hawliau awduron, gan gynnwys pan fydd gwaith wedi'i gyhoeddi gan ddefnyddio telerau Mynediad Agored; yn cynnwys awduron sy'n hunan-gyhoeddedig; yn cynnwys amrywiaeth o fformatau a thechnolegau; ac yn parchu bwriad awdur o ran fformat y cyhoeddiad.

Mae cyfathrebu ag awduron a chrewyr yn bwysig ar gyfer casglu gwrthrychau digidol cymhleth, gan ei fod yn helpu'r llyfrgelloedd i ddeall y bwriad wrth greu gwaith, ac i nodi pa nodweddion gwaith cymhleth fydd angen sylw arbennig.

Ar gyfer cyhoeddwyr, bydd ymdeimlad o bartneriaeth gyda'r llyfrgelloedd yn bwysig. Fel gydag awduron, mae cyhoeddwyr yn wahanol o ran gwerthoedd, amcanion a disgwyliadau ac mae angen hyblygrwydd yn ein dull gweithredu. Dylai cyfathrebu â chyhoeddwyr bwysleisio gwerth y broses adnau cyfreithiol a'r casgliadau i'r cyhoeddwyr eu hunain. Mae bwriad cadwraeth tymor hir adnau cyfreithiol yn arbennig o bwysig yn hyn o beth.

Yn yr un modd, mae'n bwysig pwysleisio cymaint y mae'r llyfrgelloedd a'u defnyddwyr yn gwerthfawrogi adneuo cyhoeddiadau. Mae hyn yn bwysig i gyhoeddwyr y mae gan y llyfrgelloedd berthynas presennol â nhw yn ogystal â chyhoeddwyr newydd a'r bobl a'r sefydliadau sy'n cynhyrchu cyhoeddiadau ond nad ydynt yn meddwl amdanynt eu hunain fel cyhoeddwyr. Fel y nodwyd yn gynharach, mae'r llyfrgelloedd adnau cyfreithiol eisiau sicrhau bod eu casgliadau'n gynhwysol ac yn cynrychioli amrywiaeth lawn o gyfathrebu cyhoeddedig. Dylai cyfathrebiadau godi ymwybyddiaeth o werth adnau cyfreithiol gyda chyhoeddwyr newydd, a hefyd cefnogi'r llyfrgelloedd i gasglu data am gyhoeddiadau newydd.

Mae'r offer sy’n cael eu defnyddio gan y llyfrgelloedd i gasglu cyhoeddiadau hefyd yn gyfle i gyfathrebu. Gallai'r pwyslais yma fod ar sicrhau bod adneuo cyhoeddiadau yn broses syml a bod unrhyw rwystrau i gyfranogiad yn cael eu nodi a'u datrys.

Yn ystod y cyfnod a drafodir gan y fframwaith hwn, rydym yn disgwyl y bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn unol â chasgliadau'r Adolygiad Ôl-weithredu. Dylai cyfathrebiadau gefnogi hyn, a helpu i sicrhau cyfranogiad eang mewn ymgynghoriad ac ymgysylltiad.

Pwyntiau allweddol

  • Adolygu'r negeseuon a'r iaith sy’n cael eu defnyddio i gyfleu adnau cyfreithiol a'r casgliadau sy’n cael eu cadw gan y llyfrgelloedd, i bwysleisio'r gwerth a'r manteision.
  • Defnyddio ein hoffer casglu ac adneuo i helpu i hyrwyddo adneuo a chydweithio wrth adeiladu casgliadau.
  • Dylai cyfathrebiadau gefnogi a chael eu llywio gan amcanion y Fframwaith Casglu ar y Cyd, a bydd yn helpu i gael dealltwriaeth bellach o anghenion defnyddwyr lle mae meysydd amwysedd polisi (e.e. yng nghydbwysedd casglu print a digidol, neu gwestiynau ar fynediad).
  • Dylai cyfathrebiadau gefnogi mynediad drwy godi ymwybyddiaeth o gasgliadau adnau cyfreithiol, yn enwedig y rhai a allai fod yn llai adnabyddus.