10 rheswm dros ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru dros wyliau’r Haf
1. Dewch i fwynhau casgliadau hynod y Llyfrgell Genedlaethol sy’n cael eu harddangos yn ein horielau. Os mai dyma’ch ymweliad cyntaf, neu os ydych wedi ymweld o’r blaen, mae croeso cynnes yma bob amser. Mae ein holl arddangosfeydd am ddim ac rydym yn croesawu teuluoedd.
2. Mae'r adeilad rhestredig Gradd II a’r gerddi, wirioneddol yn safle bendigedig gyda golygfeydd godigog dros Fae Ceredigion.
3. Mae ein rhaglen ddigwyddiadau yn cael ei chyhoeddi dair gwaith y flwyddyn ac yn cynnwys gwybodaeth am arddangosfeydd, sgyrsiau a chyflwyniadau y Llyfrgell, a gwybodaeth gyffredinol i ymwelwyr. Fe’ch gwahoddir chi I fynd am dro i fyd gwirion a gwallgo David Walliams, un o awduron plant mwyaf poblogaidd y blaned ar y 30ain o Awst. Bydd cyfle i gamu mewn i fyd y straeon doniol a chwrdd â rhai o’r cymeriadau sy’n ymddangos yn yr addasiadau Cymraeg diweddaraf.
4. Dewch i fwynhau ein brechdanau amrywiol, panini a tatws trwy’i crwyn, cawl cartref a phrydau’r dydd yng Nghaffi Pen Dinas. Mae diodydd poeth ac oer ar gael drwy’r dydd a beth am flasu ein teisennau cartref godigog? Os yw'r haul yn tywynnu, prynwch frechdanau a chael picnic ar dir y Llyfrgell.
5. Ewch ar daith 'Tu ôl i'r Llenni'
Beth am daith 'Tu ôl i'r Llenni' sy'n addas ar gyfer pob oedran. Archebwch docyn ar wefan digwyddiadau.llyfrgell.cymru neu drwy ffonio siop y Llyfrgell ar 01970 632548. Mae pris tocyn yn cynnwys paned o de neu goffi am ddim yng Nghaffi Pen Dinas!
6. Mwynhewch ychydig o siopa
Mae'r siop yn gwerthu nwyddau o ansawdd uchel gan artistiaid lleol ac o statws cenedlaethol megis Mari Thomas, sydd wedi ennill nifer o wobrau dylunio. Mae gwaith Lizzie Spikes a Valeriané Leblond hefyd yn ymddangos yn rheolaidd ar silffoedd y siop.
7. Darganfyddwch y ‘Greal Sanctaidd’. Y darn bregus hwn o bren yw’r cyfan sy’n weddill o ddysgl masarn hynafol a adnabyddir fel Cwpan Nanteos.
8. Sesiynau Gwybodaeth
Trwy'r sesiynau arbennig yma, mae modd dysgu am gasgliadau'r Llyfrgell a sut i wneud y gorau o'r adnoddau a'ch amser yn y Llyfrgell.
9. Gweld y Llyfr Lleiaf yn arddangosfa Clawr i Glawr. Mae’n mesur llai na 1mm x 1mm x 1mm.
10. … neu os am funud o lonydd – beth am ymlacio gyda llyfr da yn un o’n hystafelloedd darllen.......
Gwnewch Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o'ch cyrchfannau yn ystod Blwyddyn y Môr