Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bardd a phregethwr oedd William Thomas, neu Islwyn. Gellir canfod cyfres o ddeuoliaethau a thensiynau yn ei waith barddonol, elfennau a oedd yn adlewyrchu agweddau o'i fywyd. Pan ddechreuodd fynychu’r Academi yn Abertawe fe syrthiodd mewn cariad â merch ifanc o'r enw Ann, ond bu farw hithau cyn iddynt fedru priodi; effeithiodd y profiad hwnnw, ynghyd â'i briodas anhapus ddilynol â Martha, yn sylweddol ar ei farddoniaeth. Mae cyfansoddiadau Islwyn yn arddangos straeniau personol eraill hefyd: rhwng ei fagwraeth Saesnig a’i ddiddordeb mewn barddoniaeth a diwylliant Cymreig; natur lon a sarrug ei bersonoliaeth, a thensiynau rhwng y pregethwr a’r bardd ynddo. Roedd yn gystadleuydd eisteddfodol brwd, er nad oedd yn tu hwnt o lwyddiannus. Enillodd ei gerdd 'Abraham yn aberthu Isaac' y wobr gyntaf yn eisteddfod Cefncoedcymer ym 1853. Bu ei farwnad i Carnhuanawc yn llwyddiannus yn eisteddfod olaf Cymdeithas Cymreigyddion y Fenni. Yn Eisteddfod y Rhyl ym 1870 enillodd Islwyn y gadair am ei awdl ‘Y Nos’, cyflawnodd yr un gamp yn Eisteddfod Caergybi ym 1872 ar gyfer 'Moses'; Eisteddfod Caerffili ym 1874 ar gyfer 'Cartref' ac yn Nhreherbert ym 1877 ar gyfer 'Y Nefoedd'. Ni fu erioed yn llwyddiannus yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Casgliad o’i waith a geir yn 'Gwaith Barddonol Islwyn' a golygwyd y gyfrol gan O. M. Edwards.