Symud i'r prif gynnwys


Golygwyd y gyfrol farddonol ‘Diddanwch Teuluaidd’ gan Huw Jones. Casgliad ydoedd o weithiau beirdd mwyaf nodedig Môn, gan gynnwys Goronwy Owen, Lewis Morris, Hugh Hughes ac eraill. Argraffwyd y gyfrol yn Llundain, ond fe’i hailgyhoeddwyd yn ddiweddarach – yng Nghaernarfon ym 1817 ac yn Lerpwl ym 1879. Roedd Goronwy Owen yn fardd ac yn athro nodedig. Ym 1757 hwyliodd o Lundain i Virginia wedi iddo dderbyn swydd fel athro mewn ysgol ramadeg yn Williamsburgh. Pan oedd yn iau, cyfansoddodd lawer iawn o gampweithiau barddonol. Edmygwyd ei waith gan y genhedlaeth ddilynol o feirdd ac fe efelychwyd Owen gan nifer ohonynt. Athro barddol enwog oedd Lewis Morris a bu Goronwy Owen yn ddisgybl iddo. Cyfansoddodd nifer o weithiau caeth a rhydd o natur amharchus a chyhoeddwyd nifer ohonynt yn y gyfrol hon. Roedd Hugh Hughes hefyd yn athro barddol ac yn gyfaill agos i Lewis Morris a’i frodyr. Gellir canfod casgliad o’i gyfansoddiadau yn ‘Diddanwch Teuluaidd’.