Symud i'r prif gynnwys


Roedd Evan Evans neu Ieuan Glan Geirionydd yn fardd eisteddfodol gwobrwyol. Gellir dweud iddo fod ymhlith rhai o feirdd Cymreig mwyaf dylanwadol a hyblyg y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ar wahân i'r ffurfiau clasurol, cyfansoddodd Ieuan yn y dull modern ac ysgrifennodd ambell i emyn hefyd. Yr oedd yn perthyn i ysgol ryddfrydol Gwallter Mechain ac fe ymosododd ar y mesuryddion clasurol gan ddechrau ysgrifennu 'pryddestau' a chyfansoddiadau eraill. Golygwyd y casgliad hwn o'i waith gan Richard Parry (Gwalchmai) ac fe’i hargraffwyd ym 1862. Mae'r cyhoeddiad hefyd yn cynnwys nodiadau bywgraffiadol ynghylch y bardd.