Symud i'r prif gynnwys

Gweithdai

Gwanwyn 2025: Gweithdai celf yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Yn ystod y gwanwyn bydd Gwasanaeth Addysg y Llyfrgell Genedlaethol yn cyflwyno gweithdai sy'n seiliedig ar arddangosfa 'Dim Celf Gymreig'. Bydd yr ymweliadau yn gyfle i ddysgwyr fwynhau dros 250 o weithiau celf Cymreig sydd o arwyddocâd cenedlaethol, a hynny yn ardal arddangos fwyaf y Llyfrgell, Oriel Gregynog. Prif thema'r gweithdai fydd hunaniaeth, a bydd y gweithgareddau yn canolbwyntio ar sut rydym yn gweld ein hunain fel unigolion, yn ogystal â sut y mae eraill yn ein portreadu ni a'n cynefinoedd. 


Gallwn gyflwyno'r gweithdai canlynol heb waith paratoi ychwanegol. Gallwn addasu cynnwys y sesiynau i ateb eich gofynion chi. Cysylltwch â ni i archebu neu drafod un o'r gweithdai isod, neu i wybod mwy am drefnu gweithdy ar bwnc arall.

  • Boddi Cwm Tryweryn
  • Cymru a'r Ail Ryfel Byd
  • Y Tuduriaid
  • Portreadau
  • Y Mynachlogydd
  • Kyffin Williams
  • Y Mabinogi
  • Gwyddonwyr o Gymru

Cyrraedd y Llyfrgell

Lleolir Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar Rhiw Penglais yn Aberystwyth. Ein cyfeiriad post yw: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion SY23 3BU. Ceir manylion am sut i gyrraedd y Llyfrgell mewn car, tren neu ar fws ar y dudalen hon. Mae bylchau penodedig ym maes parcio'r Llyfrgell Genedlaethol ar gyfer bysiau, a llefydd parcio cyfleus i'r anabl wrth ochr y Llyfrgell.

Gwybodaeth ar gyfer grwpiau

Mawr obeithiwn y gwnewch chi fwynhau eich ymweliad â Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r wybodaeth isod ar gyfer grwpiau sy'n ymweld â'r Gwasanaeth Addysg:

  • Pan gyrhaeddwch chi'r Llyfrgell dewch i'r Dderbynfa a dywedwch eich bod wedi cyrraedd.
  • Mae gan y Gwasanaeth Addysg le penodol ble gall ymwelwyr adael eu cotiau a bagiau yn ddiogel.
  • Mae modd i grwpiau sy'n ymweld â ni ddefnyddio un o'r ystafelloedd Addysg ar gyfer bwyta cinio bocs tocyn.
  • Mae gan y Llyfrgell siop sy'n gwerthu nwyddau i bobl o bob oed.
  • Os yw eich grŵp yn bwriadu defnyddio caffi'r Llyfrgell soniwch am hyn wrth drefnu eich ymweliad.
  • Mae Caffi Pen Dinas yn gwerthu diodydd o bob math, prydau poeth, brechdanau, panini, tatws pob, cawl, cacennau cartref a byrbrydau eraill,
  • Ceir toiledau mewn gwahanol rannau o'r adeilad, gan gynnwys rhai y drws nesaf i'r ystafelloedd Addysg.

Hygyrchedd

Ceir gwybodaeth am hygyrchedd ar y dudalen hon. Os fydd angen cymorth ychwanegol o unrhyw fath ar aelod o'ch grŵp yn ystod eich ymweliad mae'n werth crybwyll hyn wrth drefnu.

Iechyd a diogelwch

Os oes tân yn y Llyfrgell bydd larwm yn canu. Pan glywch y larwm, dylai eich grŵp adael yr adeilad trwy ddilyn yr arwyddion i'r allanfa dân agosaf.  Bydd staff y Gwasanaeth Addysg yn esbonio'r drefn dân i chi pan gyrhaeddwch chi'r Llyfrgell.

Os oes angen Cymorth Cyntaf ar unrhyw adeg yn ystod yr ymweliad rhowch wybod i staff y Gwasanaeth Addysg. Cyfrifoldeb yr ysgol yw’r disgyblion yn ystod pob rhan o'r ymweliad, gan gynnwys amser cinio. Gofynnwn yn garedig i athrawon a staff eraill yr ysgol weithio gyda'r Llyfrgell Genedlaethol trwy oruchwylio’r plant sydd yn eu gofal ar y safle.

Cofiwch fod ysgolion yn gyfrifol am eu hasesiadau risg eu hunain, ac na allwn ni lenwi, dilysu na llofnodi unrhyw ran o ffurflenni asesu risg ysgolion am mai nid ni sy’n gyfrifol amdanyn nhw.

Oriau agor

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar agor chwe niwrnod yr wythnos, yn ystod yr oriau canlynol:

  • Dydd Llun - Dydd Gwener 9:30 - 18:00;
  • Dydd Sadwrn 9:30 - 17:00.

I gael gwybod os yw'r Llyfrgell ar agor yn ystod tywydd garw ffoniwch 0800 0325 695. Ceir mwy o wybodaeth am oriau agor ac am unrhyw newidiadau i'n gwasanaethau arferol ar y dudalen hon.