Symud i'r prif gynnwys
Visit us

Gall Gwasanaeth Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru gyflwyno'r gweithdai a gweithgareddau canlynol i gefnogi manyleb Cymhwyster Bagloriaeth Cymru 2015.

Dull Cyfeirio Harvard

Yn y sesiwn boblogaidd hon mae myfyrwyr yn defnyddio eitemau o gasgliadau'r llyfrgell i ddysgu sut i gyfeirio at wybodaeth yn y Prosiect Unigol a sut i greu cofnod llawn fel rhan o'r Llyfryddiaeth neu Rhestr Gyfeirio. Maen nhw'n gweithio gyda llyfrau, cylchgronau, papurau newydd, deunydd sgrin a sain, ffynonellau o'r we ac eitemau eraill o gasgliadau'r Llyfrgell.

Gellir cyflwyno'r sesiwn yn adeilad y Llyfrgell gydag eitemau gwreiddiol neu yn yr ysgol gyda chopïau ffacsimili o eitemau, ac mae ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, Saesneg neu'n ddwyieithog.

Sgiliau hanfodol

Cynlluniwyd y gweithdai hyn ar themâu amrywiol sy'n defnyddio casgliadau'r Llyfrgell i gynorthwyo'r myfyrwyr i ddatblygu'r saith sgil hanfodol a chyflogadwyedd. Gallwn baratoi themâu newydd yn ôl y gofyn cyn belled â bod adnoddau pwrpasol ar gael yn y Llyfrgell.

Cyflwynir y gweithdai hyn drwy gyfrwng y Gymraeg, y Saesneg neu'n ddwyieithog a gan bod y myfyrwyr yn gweithio ag adnoddau gwreiddiol dim ond yn adeilad y Llyfrgell y gellir eu cyflwyno.

Heriau Cymunedol

Rydyn ni wedi cynhyrchu nifer o heriau cymunedol o gwmpas prosiectau unigol yn y Llyfrgell a'u cyflwyno i CBAC i'w cymeradwyo. Ceir gwybodaeth bellach ar wefan CBAC.