Symud i'r prif gynnwys

 

Gweithgaredd i'w wneud yn yr ysgol cyn ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd y tasgau hyn yn gwella dealltwriaeth dysgwyr o rôl, gwaith a math o gasgliadau y Llyfrgell.

 

Yr Adeilad

  1. Gwyliwch y fideo.
  2. Meddyliwch am 3 gair/brawddeg i ddisgrifio’r adeilad.
  3. Dangos FfeithiauLLGC_NLWfacts.png a gofyn i’r dysgwyr gofio’r ffeithiau a ffigyrau.
  4. Agor LLGCffeithiau.pptx a gofynnwch i’r dysgwyr gofio os ydy’r ffigyrau yn uwch neu'n is na’r ffigwr cynt.

 

Cadwraeth

  1. Beth yw ystyr y gair cadwraeth (conservation)?
  2. Gwyliwch y fideo.
  3. Meddyliwch am 3 gair/brawddeg i ddisgrifio gwaith staff cadwraeth y Llyfrgell.
  4. Yn eich barn chi beth yw pwrpas y gwaith hwn?

 

Digido

  1. Beth yw ystyr y gair digido (digitising)?
  2. Gwyliwch y fideo.
  3. Meddyliwch am 3 gair/brawddeg i ddisgrifio gwaith staff digido y Llyfrgell.
  4. Yn eich barn chi beth yw pwrpas y gwaith hwn?