Symud i'r prif gynnwys

Allwedd:

 

C Cymraeg

E English

S Sbaeneg

 

  • Llythyrau, 1867-1916, y mwyafrif at Daniel Davies, Ton, Ystrad, Morgannwg, yn cynnwys gohebiaeth oddi wrth Stephen Jones (Chubut), a Gwilym Lewis (Chubut). NLW MS 3191-7C. C, E.
     
  • Darn o lythyr at Thomas Pennant gyda chopi o'r nodyn ar y Patagoniaid. NLW MS 4857D. E.
     
  • Rhannau o ddau lythyr, 1865, oddi wrth John Jones ('Talhaiarn') at W. W. P. Williams yn ymwneud â gwladychu arfaethedig rhan o Batagonia gan Gymry, a ysgrifennwyd o Lundain pan oedd JJ yn cynorthwyo gyda chynllunio'r Crystal Palace, a darn o lythyr oddi wrth W. P. Williams at ['Talhaiarn'] ar yr un pwnc. NLW MS 5442C. E.
     
  • Llythyrau, 1890-1933, at Mihangel ap Iwan oddi wrth Luis Jorge Fontana ('Gobernador del Chubut', Patagonia), Iago Hughes (y Gaiman ac Esquel), a Llewelyn Huw ap Iwan (nai Mihangel ap Iwan), ac at Llwyd ap Iwan (brawd Mihangel ap Iwan), oddi wrth Lewis Jones (un o sylfaenwyr y wladychfa Gymreig, gyda Michael D. Jones), a Benjamin Roberts. NLW MS 5934D. C, S, E.
     
  • Llythyrau at Mihangel ap Iwan, rhai personol gan fwyaf, oddi wrth Ben Davies (Pant-teg ger Abertawe), G. Lloyd Davies (Sarmiento, Buenos Aires), Daniel R. Evans (y Gaiman, Chubut), Hugh Griffith (y Gaiman), John Washington Jones (Trelew, Chubut), Morgan Ph. Jones (y Gaiman), Sarah H. Manton (Buenos Aires), Eluned Morgan ('Eluned'), T. Rhys (Coleg Bala-Bangor), James H. Rowland (y Gaiman), ac Owen L. Thomas (Buenos Aires), gyda chopi o lythyr ato oddi wrth yr Anrhydeddus James L. Davies, Ysgrifennydd Llafur yr Unol Daleithiau, 1926. NLW MS 5935E. C, S, E.
     
  • Llythyr oddi wrth Mrs Michael D. Jones at ei meibion, 14 Gorff. 1887, a llythyr y Parch. Michael D. Jones atynt, 13 Gorff. 1889. NLW MS 7256. C.
     
  • Llythyr hir, 1912, oddi wrth Griffith R. Pierce, Iowa, at Dr Mihangel ap Iwan parthed gwladychfa Chubut, a chasgliad o dorion o'r wasg yn cefnogi ei hawl. NLW MS 9654D. E.
     
  • Llythyrau at Dr Mihangel ap Iwan oddi wrth D. R. Daniel, 1929; Laura Davies, Llandrillo; William Evans, Llanddulas, 1923; Edward F. Every, Esgob esgobaeth Anglicanaidd yr Ariannin, 1915; E. F. Hunt, Llundain, 1928-33; Mair Llwyd ap Iwan, 1929; Ellis P. Jones, 1917; Lewis D. Jones ('Llew Tegid'), 1918; Erasmus Jones, Buenos Aires, 1912; W. Meloch Hughes, y Gaiman, 1920; John Howell Jones, Telsin, 1935; Cyril Moore, Buenos Aires, 1921; Elias Owen, Chubut, 1921; W. Penri Williams, 1928; a'i fam, 1912. NLW MS 9655D. C, E.
     
  • Llythyrau at John Ceiriog Hughes, yn bennaf ar bynciau llenyddol ac eisteddfodol. Mae'r gohebwyr yn cynnwys Thomas Cadivor Wood, Caer, 1866 (y Wladychfa Gymreig yn Chubut). NLW MS 10188D. E, C.
     
  • Saith llythyr yn llaw eu hawduron - W. Cadwaladr Davies, Coleg Prifysgol Cymru Bangor, at [Lewis Jones], 1892 (iechyd yr ysgrifennydd, rhoddion i'r Coleg o'r Wladychfa Gymreig); John Duguid, Rosario, at Lewis Jones, [18]62 (cefnogi cynllun ymfudo'r derbynnydd); L[ewis] Jones, Chubut, at Weinidog Cartref Llywodraeth yr Ariannin, 1871-2 (2) (colli'r brig Mont[e]allegro, teitlau tir, disgwyl i'r ymfudwyr gyrraedd) (copïau); Eluned Morgan, 1887, a Samuel R. Phibbs, Llysgenhadaeth yr Ariannin yn Lerpwl at Lewis Jones, Cadeirydd Pwyllgor Cymdeithas y Wladychfa Gymreig yn Lerpwl, ym Muenos Aires a Lerpwl, 1862-3 (3). NLW MS 12204E. C, E.
     
  • Cyfrol...'Cymry Manceinion'. Ymhlith y cofnodion mae llythyr hir oddi wrth R[ichard] J[ones] Berwyn, Trerauson, Chwbut (sic) [Patagonia], at Ionawryn Williams [18]97 (yn ateb cais am wybodaeth am Thomas Pennant Evans ('Twmi Dimol'), un o'r ymfudwyr a hwyliodd i Batagonia ar y Mimosa ym 1865, a nodyn byr gan Ionawryn Williams yn rhoi ychydig fanylion hunangofiannol). NLW MS 12525B. C.
     
  • Llythyrau di-ddyddiad Eluned [Morgan o Batagonia], Caerdydd, (3) at y Parch. C. T. Thomas, (personol, taith i ogledd Cymru, cynnig darlith yn y Groes-wen, anfon copi o un o'i chyhoeddiadau, salwch ei thad, paratoi i ddychwelyd i Batagonia). NLW MS 12896C. C.
     
  • Llythyrau at Lewis Jones Davies, Swyddfa'r Post, Llanuwchllyn, 1875-1935, gan gynnwys un llythyr, 1875, oddi wrth Michael D. Jones, ac un, 1904, oddi wrth Eluned Morgan. NLW MS 13715B. C.
     
  • Dau lythyr oddi wrth Eluned Morgan at John Lloyd, Llanaber, Meirion. NLW MS 14350A. C.
     
  • Llythyrau Eluned Morgan at 'Jack', [John Owen] Trelew, 1928-37. NLW MS 16098E. C.
     
  • Llythyr Jonathan Ceredig Davies, Llanddewibrefi, at T. Llechid Jones, 1915, yn sôn am ei fywyd ac atgofion am ei deithiau. NLW MS 16098E. E.
     
  • Llythyrau J. H[owell] Jones, Trelew, Chubut, at John Owen, Y Fenni, 27 Mai 1936 and 23 Hyd. 1928, yn llaw'r awdur. NLW MS 16098E. C.
     
  • Llythyrau amrywiol, yn cynnwys llythyr Eluned Morgan, Caerdydd, 3 Mai 1904, parthed ei hymdrech i werthu copïau o'i llyfr Dringo'r Andes; a'i hymweliad fuan â Phatagonia i weld ei thad oedd yn sâl. NLW MS 16343E. C.
     
  • Gohebiaeth yn cynnwys llythyr a 'Llinellau ar ymadawiad y Parch. W. Casnodyn Rhys o'r Wladva Gymreig ar y Camwy' gan 'Gutyn Ebrill', 22 Mai 1893; llythyr, 7 Tach. 1901, oddi wrth Rhys Thomas, a 6 Tach. 1901 oddi wrth E. A. Thomas, Fron Goch; llythyr gan 'Eluned' [?Morgan], Pentre, Abertawe, 9 Chwef. 1906; a llythyr oddi wrth Compaňia Mercantil de Chubut at Mrs Jessie Myfanwy Rhys, 23 Mai 1927. NLW MS 16656D. C, E.
     
  • Gohebiaeth amrywiol, yn cynnwys llythyr William Christmas Jones, Estancia La Primavera, El Pajarito, Chubut, at J. H. Lloyd, ('Peryddon'), dyddiedig Chubut, 30 Awst 1946. NLW MS 16704E. C.
     
  • Llythyr, 8 Awst 1944, oddi wrth William Williams, 'Prysor', golygydd Y Drafod, at Morris Williams, Dinbych. NLW MS 16704E. C.
     
  • Copïau o lythyrau Eluned Morgan (Patagonia) at 'John' ['John y Bedol'], 1892-4. NLW MS 17525A. C.
     
  • Llythyrau Joseph Seth Jones, c. Ion. 1866-29 Ebrill 1868, o Batagonia, Ynysoedd y Malvinas, ac ar fwrdd yr Ivanhoe ar ei ffordd adref i Gymru. Toriad o'r Abergele and Pensarn Visitor, 26 Mai 1866, yn cyhoeddi ei lythyr, dyddiedig 1 Mawrth 1866, at ei frawd Charles; copi o lythyr George Jones at ei fam, 1 Gorff. 1867, ar fwrdd y Denbey [sic] NLW MS 18177C. RWB MS 3. C, E.
     
  • Copi gan R. Bryn Williams o lythyr hir gan Michael D. Jones, 1 Oct. 1877, at arweinwyr y Wladychfa Gymreig yn erfyn arnynt i ad-dalu rhywfaint o'u dyled. NLW MS 18181B. C.
     
  • Llythyrau yn cyflwyno aelodau o Gymry i Gapel Vrondeg yn y Wladychfa, 1875, 1887. NLW MS 18190C. RBW 16. C, E.
     
  • Copïau teipysgrif o lythyr ynglŷn â galwad gweinidog i Eglwys Vrondeg, 1879, a llythyr ymchwiliad ynglŷn ag aelod o Eglwys Frondeg, 1877. NLW MS 18192. RBW 18. C.
     
  • Llythyrau Robert Charles Jones o Brymbo, Lerpwl a Guayacan, Chile, at ei frawd, Joseph Seth Jones, a'i chwaer, yn Nhreffynnon. 1872-7. NLW MS 18196C. RBW 21. C.
     
  • Llythyrau at Joseph Seth Jones cyn iddo adael am Batagonia, 1865, oddi wrth Robert Charles Jones, D. [H]. Jones, Ffestiniog, Charles Jones a David Williams; un oddi wrth Joseph Seth Jones at David Williams ac un yn Saesneg oddi wrth Joseph Seth Jones at Charles Jones; nodyn, 'Australia as a place to emigrate'. NLW MS 18197B. RBW 23. C, E.
     
  • Llythyrau Robert Charles Jones at ei frawd Joseph Seth Jones ym Mhatagonia, 1867. NLW MS 18198B. RBW 24. C.
     
  • Llythyr D. E. Jones, Abergele, 1 Tach. 1956, parthed Joseph Seth Jones, ynghyd â llythyr a gyfeiriwyd at Joseph Seth Jones, 6 Awst 1867, a nodyn am angladd Joseph Seth Jones yn Abergele, 21 Chwef. 1912. NLW MS 18200B. RBW Ms 26. C, E.
     
  • Llythyrau parthed Capel Bryn Gwyn a Chyfarfod Misol y Wladychfa, 1915-55. 'At Eglwysi'r Wladfa'. Llythyr yn apelio am weithredu'n unol i geisio hawl cyfreithiol ar y capeli. NLW MS 18201D. RBW Ms 27. C, E, S.
     
  • Casgliad o lythyrau a dderbyniwyd oddi wrth rai o'r sefydlwyr yn ystod 1865-6. Llythyrau a ddaethant o'r sefydlwyr y Wladyfa Gymreig. Cyhoeddwyd gan Gwmni Ymfudol a Masnachol y Wladfa Gymreig. NLW MS 18206C. C.
     
  • Llythyrau Thomas Partridge, 1948 and 1960, yn ymwneud â'i brofiadau yn y wladychfa, 1888-1911. NLW MS 18207B. RBW Ms 33. E.
     
  • Llythyr yn Saesneg oddi wrth R. Morris Clark, ynghyd â darlith a draddododd yn Sbaeneg yn Nrofa Dulog, 1 Medi 1952, yn gysylltiedig â'r dathliadau i goffáu cyrraedd y gwladychwyr cyntaf. NLW MS 18208C. RBW 34. E, S.
     
  • Llythyrau, 1943-61, at R. Bryn Williams. NLW MS 18220D. RBW 46. C, E. Yn cynnwys rhai oddi wrth:
    • Dan Lewis, Buenos Aires, 20 Hyd. 1960
    • Morgan Jenkins, Trelew, 28 Chwef. 1955
    • Tegai Roberts, 11 Rhag. 1960
    • Mrs J. O. Evans (Barbra Llwyd), 1 Mawrth 1961
    • D. Watkin Morgan, Caerdydd, 21 Tach. 1949
    • Hugh J. Owen, Dolgellau, 13 Awst 1945
    • Ifan Owen Williams, y Gaiman, 13 Chwef. 1952, 8 Rhag. 1949
    • James Williams, Camperley, Buenos Aires, 4 Ebrill 1961
    • Owen Williams, ('Owain Gwynfai'), Llanrwst, 19 Ion. 1945
    • Evan Thomas, y Gaiman, 26 Ion. 1951 a 21 Tach. 1943. Hefyd llythyr Evan Thomas, 7 Medi 1948, at Miss Myfanwy Davies, Rhuthun
    • Evelyn ap Rhys, Bangor, 19 Ebrill 1951
    • David Jones, Trelew, 12 Medi 1949
    • Matthew R. Jones, Esquel, yr Andes, 12 Hyd. 1960
  • Llythyr at John S. Williams, Patagonia, oddi wrth rheolwr y dalaith, 1901, a chyfarchiad iddo ar ei ymadawiad â'r Wladychfa ym 1919. Llythyrau Sir Ifor Williams and Mrs Edith Williams parthed John S. Williams a'i fab Elfed Eric Williams. 1962. NLW MS 18246F. RBW MS 76. C, E. S.
     
  • Llythyrau at H. Tobit Evans, Llanarth, oddi wrth R. J. Berwyn, Llwyd ap Iwan, David Davies, Llandinam, D. S. Davies, Michael Davitt, Michael D. Jones ac Eluned Morgan, ynglŷn â'r Wladychfa Gymreig ym Mhatagonia, a thysteb i'r Parch. Michael D. Jones, 1895-1900. NLW MS 18427C. C, E.
     
  • Llythyrau yn cynnwys rhai oddi wrth David G. Jones, y Gaiman, Griffith Griffiths ('Gutyn Ebrill'), ac eraill, 1898-1917, at David Lloyd, cyfrwywr yn Aberteifi. NLW MS 18980E. C, E.
     
  • Llythyrau o'r Wladfa a gweddill Ariannin at R. Bryn Williams. NLW MS 19035E. RBW 102. C, S, E
     
  • Llythyrau Eluned Morgan, 1927-32. NLW MS 19338E. C.
     
  • Gohebiaeth, &c., parthed dathlu canmlwyddiant y sefydliad Cymreig ym Mhatagonia (1865-1965), ac yn ymwneud â R. Bryn Williams, 1963-5. NLW MS 19356E. C, S, E.
     
  • Copïau serocs o ddau lythyr, 1908, 1913, oddi wrth Daniel Jenkins, y Gaiman, Patagonia, at Mr Samuel Vaughan, Capel Hendre, Pantyffynon, Morgannwg, ('Annwyl Gefnder'), a llun o 'Dafydd a'i deulu'. NLW MS 19618E. C.
     
  • Llythyrau at E. J. Williams. A - Jones, John Howell (1875-1905). NLW MS 19719D. C, E, S.
     
  • Llythyrau at E. J. Williams. Jones, Joseph - Z. NLW MS 19720D. C, E.
     
  • Llythyrau at E. J. Williams - galw am weinidogion i Batagonia, 1921-3. NLW MS 19721E. C.
     
  • Llythyrau gan E. J. Williams, yn cynnwys un ganddo at John Aungier, ac un at F. Henderson, Cadeirydd, The Port Madryn (Argentina) Co; llythyr yn Saesneg gan E. J. Williams at Arolygwr yr Heddlu yn y Rhyl yn sôn am weithgareddau Carl A. Enghlom, neu 'Lord Reed', a ymhonodd yn Nhrelew ei fod yn swyddog yn Nghwmni Deheudir yr Ariannin; llythyr o gydymdeimlad â Mrs E. J. Williams ar farwolaeth ei gŵr oddi wrth flaenoriaid ac Ysgrifennydd Capel Tabernacl, Trelew. NLW MS 19722D. C, E.
     
  • Cyfrolau o lythyrau E. J. Williams yn cynnwys copïau o lythyron a thelegramau, rhai busnes gan mwyaf, 1912, 1922-6. NLW MS 19723D. C, E.
     
  • Gohebiaeth, &c., 1963-6, Pwyllgor Dathlu Canmlwyddiant y Wladfa, Patagonia, ynghyd â chylchgrawn a thorion o'r wasg Archentaidd. NLW MS 20397E. C, E, S.
     
  • Llythyr Lewis Jones, Buenos Aires, at Lloyd George, 10 Meh. 1896. NLW MS 20462C (rhif 2334). C.
     
  • Gohebiaeth Pwyllgor Undeb y Cymry ar Wasgar, yn cynrychioli Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac Undeb yr Annibynwyr, 1927-67, parthed trafodaethau ynglŷn ag anfon gweinidogion i'r Wladychfa Gymreig ym Mhatagonia ac i'r Eglwys Gymraeg yn Nhoronto. NLW MS 20619E. C, S.
     
  • Llythyrau, 1891-4, oddi wrth David Richards yn y Wladfa a Buenos Aires at ei wraig yn Harlech. NLW MS 21199D. C.
     
  • Pum llythyr a dau gerdyn post wedi'u cyfeirio at Miss Rachel Walters a'i brawd, Mr Tom Walters, Brynaman, sir Gaerfyrddin, 1914, 1924-8, a d.d., oddi wrth eu hewyrth, Eleazer Morris, Coronel Suárez, yr Ariannin, a'i fab Tudor, 'Tui', a dreuliodd ddwy flynedd, 1925-7, yn astudio yng Ngholeg Spurgeon, Llundain. NLW MS 21482D. E, 1 cerdyn S.
     
  • Llythyr, 1874, oddi wrth William ap Rees, Efrog Newydd, at N. L. Jehu, parthed diflaniad y Parch. D. S. Davies pan suddodd y sgwner Electric Spark oddi ar arfordir Brasil ar daith yn cludo ymfudwyr o'r Unol Daleithiau i Batagonia. NLW MS 21817D. C.
     
  • Llythyr Eluned Morgan, y Gaiman, 25 Tach. [1938], at William M. Evans, a llythyr D. R. Daniel ('Deiniol'), y Gaiman, at William M. Evans, 1939; llythyr Owen Williams, Capel Garmon, at y Parch. Nefydd Hughes Cadfan, yn amgau dau lythyr a thorion, 1926-35, oddi wrth Richard Fox sy'n cyfeirio at wladychu Patagonia gan y Cymry. NLW MS 21818E. C.
     
  • Llythyr William Carrington, Comptroller and Treasurer, Llundain, at Alfred Thomas AS, yn anfon siec o £25 gan Dywysog Cymru tuag at y gronfa i dalu costau cludo ymfudwyr Cymreig o Batagonia, 1902. NLW MS 21958D. E.
     
  • Pum llythyr, 1894-1915, oddi wrth deulu Cymreig [William Evans a'i deulu, Maes yr Haf, y Gaiman] ym Mhatagonia. NLW MS 22105D. E, C.
     
  • Llythyr, 27 Ebrill 1965, at J. Saunders Lewis, oddi wrth R. Bryn Williams, Aberystwyth, yn sôn am y Wladychfa Gymreig. NLW MS 22725E. C.
     
  • Dau lythyr at, ac oddi wrth, y Parch. Ben Davies, a ysgrifennwyd yn ystod ei daith bregethu ym Mhatagonia, 1923-4. NLW MS 23236C. C.
     
  • Llythyr, 14 Hyd. 1910, oddi wrth Hugh Griffith, Eluned Morgan, D. B. Williams, Daniel R. Evans a Phillip John Rees, at David Lloyd George, Canghellor y Trysorlys, yn diolch am ddesg ar gyfer athro Ysgol Ganolradd y Wladfa (rhodd bersonol gan DLlG). NLW MS 23659E. C.
     
  • Llythyrau G. Griffiths, ('Gutyn Ebrill'), Ffestiniog a'r Gaiman, Chubut, 1871 a 1905 (y cyntaf ac efallai'r ddau at J. Jones, Dinas Mawddwy). Casgliad Bob Owen, 32/29-30. C.
     
  • Llythyr John Camwy Evans. Casgliad Bob Owen, 35/6/23. C.
     
  • Llythyrau oddi wrth feirdd a llenorion, &c., yn eu plith Eluned Morgan. Casgliad Syr O. M. Edwards, 10. C.
     
  • Llythyrau, 1910-38, oddi wrth Eluned Morgan. Casgliad Moelona, 4-7. C.
     
  • Chwech ar hugain o lythyrau a chardiau post, 1916-23, 1931, oddi wrth Eluned Morgan at W. Anthony Davies, torion papur newydd, &c. Papurau Mrs E. Anthony Davies. C, S.
     
  • Llythyrau at John Dyfnallt Owen ('Dyfnallt') oddi wrth y Parch. Tudur Evans, Dedwyddfa, y Gaiman, Chubut, Ion.-Rhag 1950 (6). Casgliad J. Dyfnallt Owen, 182-7. C.
     
  • Llythyrau at John Dyfnallt Owen ('Dyfnallt') oddi wrth Dewi Jones, Delvan, y Gaiman, Chubut, 29 Ion., a Mai 1905, (2), un heb ddyddiad. Casgliad J. Dyfnallt Owen, 288. C.
     
  • Llythyr at John Dyfnallt Owen ('Dyfnallt') oddi wrth H. T. Samuel, Chubut, 12 Awst 1948. Casgliad J. Dyfnallt Owen, 533. C.
     
  • Llythyrau at T. E. Ellis, 1880au-1890au, oddi wrth Thomas Ellis, Cynlas. Personol, sylwadau cyffredinol a newyddion lleol. Gwladychfa Patagonia?. T. E. Ellis, 532-5. C.
     
  • Llythyr at T. E. Ellis oddi wrth Lewis Jones, 21 Rhag. 1892. Gwahoddiad iddo ymweld â Phatagonia i wella o'i salwch. T. E. Ellis, 1149. C.
     
  • Llythyrau at T. E. Ellis oddi wrth Lewis Jones, 25 Hyd. 1890 a 28 Meh. 1893. Papurau T. E. Ellis, 1150. C.
     
  • Gohebiaeth, 1964-6, yn ymwneud â'r gyfrol Patagonia (1965), yn cynnwys llythyr oddi wrth R. Bryn Williams. Papurau Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 35. C.
     
  • Llythyrau Eluned Morgan at y Parch. David Bowen ('Myfyr Hen'). Papurau David Bowen a Ben Bowen, DPG 1/2. C.
     
  • Gohebiaeth, 1913, parthed diffyg gweithredoedd ar gyfer eglwysi ym Mhatagonia sy'n perthyn i Eglwys Bresbyteraidd Cymru. CMA 18367. C, E.
     
  • Llythyrau Eluned Morgan at y Parch. W. Nantlais Williams. CMA 28481-28507. C.
     
  • Llungopïau o bump ar hugain o lythyrau, 1924-37, oddi wrth y Parch. W. Nantlais Williams, Rhydaman, at Eluned Morgan, Patagonia. NLW Facs 211. C.
     
  • Llythyr oddi wrth Robert Roberts, Cwm Hyfryd, Patagonia, parthed llofruddiaeth Llwyd ap Iwan, 1910. NLW Facs 369/12. C.
     
  • Llungopi o'r llythyr olaf, 1925, a ysgrifennodd 'Glan Caeron' (William H. Hughes, 1866-1926), Chubut, Patagonia, at ei berthnasau yng Nghymru. NLW Facs 369/49. C.
     
  • Llungopïau o bedwar llythyr, 1915, oddi wrth aelodau o'r teulu Owen a ymfudodd i Moora, Gorllewin Awstralia, o Batagonia, at eu perthynas Maggie Owen yn Abergele. NLW Facs 369/51. C.
     
  • Llungopi o lythyr, ?1999, oddi wrth Ted Roberts, Perth, Awstralia, at John Owens, Abergele, yn ymwneud ag ymsefydlwyr Cymreig ym Moora, i'r gogledd o Perth, Gorllewin Awstralia, nifer ohonynt wedi dod o Batagonia. NLW Facs 369/56.
     
  • Llungopïau o lythyr W. H. Hughes ('Glan Caeron'), Dolavon, 1925, at Mrs Ellen Jones ('Nel Fach y Bwcs'), Emporium, Llandysul, yn cydymdeimlo â hi ar farwolaeth ei thad, ei 'hen gyfaill' [John Davies] a fu'n byw yn Y Wladfa, ac yn cynnwys newyddion am y datblygiadau yn y wlad a'r twf yn y boblogaeth, NLW Facs 369/59. C.
     
  • Llythyr, Tachwedd 1997, oddi wrth Hazel Charles Evans, Chubut, Patagonia, at William Howells, Aberystwyth, parthed llyfrau Cymraeg a anfonwyd i Batagonia. NLW ex 1884/1. C.
     
  • Adysgrif o lythyr, 12 Rhag. 1912, oddi wrth Eluned Morgan, Rio de Janeiro, i'w dosbarth Ysgol Sul yng nghapel Minny Street, Caerdydd. Mân Restri a Chrynodebau 1982. (Papurau D. Myrddin Lloyd, 27). C.
     
  • Llythyr, 12 Rhag. 1918, oddi wrth Eluned Morgan i'w dosbarth Ysgol Sul yng nghapel Minny Street, Caerdydd, wedi ei ysgrifennu mewn llaw-fer, ac adysgrif teipysgrif ohono. Papurau Mrs E. Anthony Davies. C.
     
  • Llythyr parthed Cangen Iau Patagonia o Gynghrair y Cenhedloedd. Papurau'r League of Nations/United Nations Association. E.
     
  • Llythyr, 27 Medi 1905, oddi wrth Eluned Morgan at Daniel Rees. Sôn ynddo am T. Gwynn Jones a'i hawydd hi am iddo fynd i'r Wladfa er mwyn ei iechyd. Casgliad T. Gwynn Jones, B120. C.
     
  • Llythyr ymddiswyddiad y Parch. R. J. Jones, gweinidog Capel Tŵr-gwyn, Bangor, ar ei ymadawiad i weinidogaethu yn y Wladfa, 1919. Mân Adnau 1450A (ii). C.
     
  • Llythyr, 1942, oddi wrth Evan Thomas, y Gaiman. Papurau Kate Roberts, 7306. C.
     
  • Llythrau R. Bryn Williams ynglŷn â Cymry Patagonia a llyfrau Eluned Morgan. Casgliad Kate Roberts, 7806-17. C.
     
  • Llythyr, 8 Tach. 1941, oddi wrth Wmffra Jones, Patagonia. Casgliad W. J. Gruffydd, 522. C.
     
  • Llythyr, 20 Tach. 1941, oddi wrth [W] Nantlais [Williams], Rhydaman, parthed efengylu yn yr Ariannin. Cagliad W. J. Gruffydd, 899. C.
     
  • Gohebiaeth, 1969-71, yn Saesneg, Cymraeg a Sbaeneg, parthed ymweliad Mali Evans ym 1970-1. Papurau Mali Evans, 52.
     
  • Llythyr oddi wrth R. J. Berwyn, Perllenhelyg, Trerawson, Chubut, 25 Chwef. 1879, at Dr Lewis Edwards, Y Bala. Casgliad Thomas Charles Edwards, llythyr 704. C.
     
  • Llythyr, 1 Tach. 1899, oddi wrth Llwyd ap Iwan o'r Bala at y Prifathro Thomas Charles Edwards. Casgliad Thomas Charles Edwards, llythyr 5247. C.
     
  • Llythyr Thomas C. Griffith, Treflys, Osmond Terrace, Porthmadog. Anfon llythyr oddi wrth ei frawd yng nghyfraith, sef Nadolig Jones, o Dde America, ar gyfer Yr Herald. Casgliad Carneddog, G413. C.
     
  • Llythyr, dyddiedig 10 Awst 1906, oddi wrth Griffith Griffiths, Llwyn Ebrill, y Gaiman. Rhoi hanes damwain a laddodd W. R. Jones ('Gwaenydd'); hanes ei deulu. Casgliad Carneddog, G424. C.
     
  • Llythyrau Nadolig Jones, 29 Mawrth 1928, Leleque, Chubut. Hanes dathlu Gŵyl Ddewi ym Muenos Aires. Casgliad Carneddog, G892-4. C.
     
  • Llythyr Nadolig Jones, Chubut, 16 Tach. 1926. Papurau Anthropos, 108. C.
     
  • Llythyr Glynfab Williams, 11 Meh. 1927. Gwahoddiad i gychwyn ysgol uwchraddol yn Y Wladfa. Papurau Anthropos, 110. C.
     
  • Llythyr at y Parch a Mrs H. T. Samuel, 1949, oddi wrth Mr a Mrs William Christmas Jones ('Nadolig a Gwenno'), Chubut, y Wladfa. Papurau'r Parch. Harri Samuel, 38. C.
     
  • Llythyr, 3 Mai 1943, gan Nefydd Hughes Cadfan, Llanrwst, yn cynnwys atgofion am J. D. Evans (Patagonia). E. Morgan Humphreys A/59. C.
     
  • Llythyr gan G. Griffiths (Wyddgrug), 19 Rhag. 1938, at E. Morgan Humphreys yn gofyn iddo ddychwelyd 'a Spanish book on learning English by "Hugo'r Andes"'. Casgliad E. Morgan Humphreys, A/1245. C.
     
  • Llythyr Eluned Morgan o Buenos Aires, 22 Mai 1935, yn gofyn os oedd gan E. Morgan Humphreys lyfrau o'i eiddo i'w cyflwyno i lyfrgell ym Mhatagonia i gefnogi darllen llyfrau Cymraeg ymhlith yr ifanc. Casgliad E. Morgan Humphreys, A/2551. C.
     
  • Llythyr, 1923, oddi wrth Thomas Shankland ynglŷn â Phatagonia. Casgliad E. Morgan Humphreys, A/3230. C.
     
  • Cerdyn post oddi wrth Nefydd Hughes Cadfan yn sôn am y drol gyntaf wnaed yn y Wladfa gan Hugh Hughes, taid y gohebydd. Gwelir ei ŵyrion yn y llun, a cheir cerdd iddo hefyd. Yr oedd yn un o sylfaenwyr y Wladfa. [Erthygl yn Cymru'r Plant?]. Casgliad Winnie Parry, 21. C.
     
  • Llythyr oddi wrth O. M. Edwards at Winnie Parry. Llawer o bobl wedi bod yn holi am Winnie Parry, gan gynnwys merched y Wladfa. Casgliad Winnie Parry, 87. C.
     
  • Llythyrau at Kyffin Williams yn ymwneud â Phatagonia; dan embargo tan y flwyddyn 2006. Papurau Kyffin Williams:
    • A307 Llythyr oddi wrth Brychan Evans, Trevelin, Patagonia, 1970
    • A375-7 Llythyrau oddi wrth Luned González, d.d, 1991(2)
    • A386 Llythyr oddi wrth Frederick Green, Trevelin, 1970
    • A499 Llythyr Emrys a Lotty Hughes, 1969
    • A501-4 Llythyrau Glyn a May [Ceiriog Hughes], Trelew, 1970, 1971 (2), 1972
    • A681 Llythyr Valmai [Jones], Caergwrle, 1972
    • A962 Llythyr Elias Owens, y Gaiman, 1978
    • A1121-2 Llythyrau Tegai [Roberts], y Gaiman, 1969, 1972
    • A1268-9 Llythyr Alwina H. Thomas, Buenos Aires [1969], 1992
    • A1423-4 Llythyrau Albina J. Zampini, y Gaiman, 1969, 1993

     
  • Llythyrau, 1966-75, at Frank Price Jones o Batagonia ac oddi wrth swyddogion Cymdeithas Cymry Ariannin ym Mhrydain. Papurau Frank Price Jones, 118. C.
     
  • Llythyr o gydymdeimlad, 8 Meh. 1933, oddi wrth Eluned Morgan, y Gaiman, at weddw y Parch. R. B. Jones, Porth, Y Rhondda. Papurau R. B. Jones, 4/34. C.
     
  • Llythyrau a chardiau post, 1884-1913, oddi wrth William a Hugh Pugh a'r teulu, Trelew, Bahia Blanca, Buenos Aires, Porth Madryn, &c., at Richard, Ellin ac Elizabeth Roberts, Blaenau Ffestiniog. Casgliad Griffith John Williams. C, E.
     
  • 60 llythyr, 1962-79, yn bennaf yn Gymraeg, at y Parch. Norman Pritchard Williams oddi wrth cyfeillion ym Mhatagonia a rhannau eraill o'r Ariannin. Casgliad y Parch. Norman Pritchard Williams. C, E.
     
  • Cyfeiriadau niferus at Batagonia a'r Welsh Patagonian Goldfields Syndicate Ltd yng ngohebiaeth David Lloyd George. Papurau William George, 176-8207 (passim). Maent yn cynnwys:
    • llythyr L[ewis] Jones, Plas Hedd, Territorio Chubut, Buenos Aires, at David Lloyd George, 10 Ebrill 1893. Papurau William George, 4118. C.
    • llythyr, 9 Tach. 1899, Llwyd ap Iwan, Y Bala, at David Lloyd George. Newyddion digalon o Batagonia y cynhaeaf gwael, ysbryd isel, agwedd rwystredig y llywodraeth leol a gyfyngodd ar sefydlwyr y wladychfa. Hoffai wybod mwy am fethiant y cwmni fu'n cloddio am aur. Papurau William George, 4323.C.
    • adysgrifau o ohebiaeth a chytundebau cyfreithiol y Welsh Patagonian Gold Fields Syndicate Ltd, 1890-94, ynghyd â nodiadau yn llaw David Lloyd George wedi'u hardystio (yn llaw William George) 'Commander Wood's Report on Welsh Colony'. Papurau William George, 4639. C, E.

     
  • Llungopïau o lythyrau Eluned Morgan, 1888-1930. Papurau William George, 7743-7764. C.
     
  • Llythyrau Eluned Morgan at William George, 1898-1912. Papurau William George, 7765-7844. C.
     
  • Llythyr, d.d, oddi wrth W. O. Hughes, Llanaelhaearn, Chwilog RSO, [?at William George] yn amlinellu ei fwriad i fynd i Batagonia a'i gynlluniau ar gyfer y dyfodol. Papurau William George, 7848. C.
     
  • Llythyrau, 1967-72, at W. R. P. George, yn ymwneud â'i ymchwil ar Eluned Morgan a pharatoi'r gyfrol Gyfaill Hoff. Papurau William George, 7849-79. C.
     
  • Pedwar copi o lythyrau teipysgrif oddi wrth Syr Ben Bowen Thomas, 30 Rhag. 1954, yn ymwneud â'i ymweliad â Chubut, Patagonia, yn cynnwys ateb gan Dr Thomas Parry, Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Papurau Syr Ben Bowen Thomas, B6/6. E, C.