Symud i'r prif gynnwys

Allweddair:

 

C Cymraeg

E Saesneg

S Sbaeneg

  • Darnau llawysgrif o dri o weithiau cyhoeddedig D. S. Davies yn ymwneud â'r Wladfa ym Mhatagonia. NLW MS 2385B. C.
  • 'Horoscope Y Wladfa Gymreig' (cerdd). NLW MS 2389D. C.
     
  • 'Penillion ar ymadawiad John Lewis Mus. Bac. a'i deulu i Patagonia'. NLW MS 3198C. C.
     
  • Dyddiaduron D. S. Davies gyda chofnod ar gyfer 19 Meh. 1886 'Hwyliad y fintai fawr 470 i'r Wladfa'. NLW MS 4611A. C.
     
  • Llythyrau, torion o'r wasg, a phapurau eraill, y mwyafrif yn ymwneud â 'Cwmni Ymfudol a Masnachol y Wladfa Gymreig...' ac i faterion yr Annibynwyr yng Nghymru, &c. Maent yn cynnwys rhestr o gyfrannwyr yn Unol Daleithiau America (Cymry gan fwyaf) at gyfranddaliadau yn y Cwmni Ymfudol, a llythyrau, 1871-1911, oddi wrth [R. D. Edwards] ('Derfel'), E. Herber Evans ('Herber'), H. Tobit Evans, Thomas Gee, William Griffith (Caergybi), Walter D. Jeremy, D. Ll. Jones (Rhuthun, ysgrifennydd y Cwmni Ymfudol), George James Jones (Findlay, Ohio, UDA), J. Spinther James ('Spinther'), Lewis Jones, Michael D. Jones, R. Gwesyn Jones (Utica, UDA), William S. Jones (Swyddfa Baner America, Scranton, UDA), Job Miles (Aberystwyth), Thomas Nicholas, Joseph Parry (Mus. Doc.), Thomas Rees (Abertawe), Daniel Rowlands (Coleg y Normal, Bangor), Edward Stephen ('Tanymarian'), John Thomas (Lerpwl), Robert Thomas ('ap Vychan'), &c. NLW MS 4616B. C, E.
     
  • Cofrestr o gyfranddalwyr cangen America o Gwmni Ymfudol a Masnachol y Wladfa Gymreig (Compaňia Mercantil Chubut). NLW MS 4617E. E.
     
  • Guia de Campaña, neu drwydded a arwyddwyd gan Hugh Griffith, 1896, ac a gyflwynwyd i Llwyd ap Iwan; a thorion o'r wasg. NLW MS 5934D. S.
     
  • Dogfennau cyfreithiol a llythyrau busnes a gyfeiriwyd at Mihangel ap Iwan, 1905-35, yn ymwneud yn bennaf â materion y Compañia Mercantil Chubut; nodiadau gan Mihangel ap Iwan, yn cynnwys 'Nodiadau ar ymddygiad yr CMC (Cwmni Masnachol Camwy...)'; llythyrau (neu gopïau o lythyrau) rhwng Mihangel ap Iwan a swyddogion y Cwmni, gydag adroddiadau blynyddol printiedig ac adroddiadau eraill y Cwmni dros amryw o flynyddoedd. NLW MS 5935E. C, S, E.
     
  • Papurau amrywiol a ddisgrifiwyd gan Mihangel ap Iwan fel 'Gohebiaeth neu lythyrau yn rhoi Cipdrem ar fywyd beunyddiol Estancia Nant y Pysgod ym Mhatagonia', yn cynnwys gohebiaeth rhwng Mihangel ap Iwan a'i neiaint, Mihangel Gruffydd ap Iwan a Llewelyn Huw ap Iwan, goruchwyliwr Nant y Pysgod, a llythyrau at Mihangel ap Iwan oddi wrth E. F. Hunt ('mab ffarm o ym[y]l Rhuthun, Dyffryn Clwyd'), R. Powell Jones, a Philip J. Rees; copïau o erthyglau Mihangel ap Iwan yn Y Drafod, ac mewn amryw o bapurau newydd Buenos Aires, gyda lluniau o Borth Madryn, Rawson, a llefydd eraill yn 'Y Wladfa Gymreig'; a deunydd amrywiol. NLW MS 5936D. C, S, E.
     
  • Gwahanol adroddiadau, &c., 1861-81, yn rhoi manylion am dderbynion a thaliadau Ysgrifennydd, Trysorydd, &c., 'Y Wladychfa Gymreig', Patagonia. Yn eu plith mae mantolenni, 'Rhestr or arian a dalwyd gan wyr Lleyrpwll (Liverpool) tuag at dreuliau y Wladychfa Gymreig' 'Cyfrifon New Bay', 'Cyfrif Chupat', 'Arwerthiant Eiddo Elis Griffith yr hwn a voddodd yn y Gamwy Mawrth 17, 1876. Gwerthwyd ar ran y perthynasau dros [?] Lywydd y Wladva gan R. J. Berwyn Arwerthwr...', 'Papurau amodol y Fos Vawr', &c. NLW MS 7254D. C.
     
  • 'Rhestr papyrau y Wladva, 1865-78. Gyda'r Bonwr W. C. Rhys'. NLW MS 7255E. C.
     
  • 'Enwau Aelodau Cymdeithas veddygol y Wladva, at wasanaeth Dr Mihangel ap Iwan, 1889'. NLW MS 7255E. C.
     
  • 'Ymchwildaith i'r Andes', sef dyddiadur Llwyd ap Iwan o'i daith i'r Andes, 1888, ynghyd â mesuriadau 'Camlas Gaiman' a chamlesi dŵr eraill Patagonia. NLW MS 7257A. C.
     
  • Dau o ddyddiaduron Llwyd ap Iwan a gadwodd ar ei deithiau aml dros y paith ac yn yr Andes ac yn disgrifio bywyd yn y Wladfa; 1888-9; anfonodd yr awdur y dyddlyfr at ei dad, y Parch. Michael D. Jones, i'w gyhoeddi ym mhapurau newydd Cymru. NLW MS 7258-9C. C.
     
  • 'The Chubut valley. The Origin, History, Development and Prospects of the Welsh Colony, with an account of several Expeditions and Travels in Patagonia', ysgrifenwyd gan Llwyd ap Iwan c. 1898-9. NLW MS 7260-2C. E.
     
  • Torion o bapurau newydd Buenos Aires a phapurau eraill, y mwyafrif yn gyfraniadau gan Mihangel ap Iwan, megis 'Down South or Adventures in the Patagonian Cordilleras', &c. NLW MS 7263D. E, C.
     
  • Cyfrol ar gyfer torion o'r wasg a ddefnyddiwyd gan John S. Williams, Gaiman, Chubut, Patagonia, ac yna o Aberystwyth. Mae'n cynnwys toriadau o Y Drafod, Y Gwerinwr (El Democrata), a phapurau newydd eraill, gan gynnwys cyfraniadau gan John S. Williams ei hun, adroddiadau swyddogol a ysgrifenwyd neu a dderbyniwyd ganddo, a chopi o'r pynciau gogyfer ag 'Eisteddfod y Gaiman...8fed Hydref, 1908', &c. NLW MS 7264E. C, S, E.
     
  • 'I'w Urddas Brenhinol Tywysog Cymru fel arwydd fechan o barch ac edmygedd Cymry godre'r Andes, Archentina', sef cyfarchiad, gyda llofnodion, a gyflwynwyd i HRH Tywysog Cymru ym mis Mawrth 1931 ar achlysur ei ymweliad â'r Ariannin gan 'The Pioneers of Cwm Hyfryd' ('Colonia 16 de Octubre') yn y Wladychfa Gymreig ym Mhatagonia. Ymhlith y llofnodwyr mae John D. Evans, 'Arloesydd', a Mihangel ap Iwan. NLW MS 7265B. C, E.
     
  • Erthygl, 'Ysgol yn yr Andes', gan Lewis Humphreys, yn llaw'r awdur. NLW MS 8407C. C.
     
  • Deunydd a ddefnyddiwyd gan Jonathan Ceredig Davies yn ei Patagonia: a description of the country (Treorci, 1892). NLW MS 8545-8B. E.
     
  • Poster ar gyfer darlith J. Ceredig Davies, 'Un mlynedd ar bymtheg yng Ngwlad y Cewri', yn Llanafan, 31 Ion. 1893. NLW MS 8554B. C.
     
  • 'Pryddest: Patagonia' ('Cyfarfod cystadleuol Cwmorthin, Mai 11eg a'r 12fed, 1876'). NLW MS 8603E. C.
     
  • Nodiadau, adroddiadau a chyfrifennau ariannol W. J. Parry ar ei ymweliadau â Buenos Aires a Chubut ar ran Cyfarwyddwyr Cwmni Welsh Patagonian Gold Field Syndicate, Ltd. NLW MS 8783-4. E.
     
  • Manylion gan Mihangel ap Iwan ar y maint o gig a fwyteir gan weithwyr cefn gwlad Nant-y-Pysgod, 1928-9. NLW MS 9651A. C, S.
     
  • Y Dyddiadur Annibynol, 1887, a Renshaw's Almanack and Diary, 1886, gyda chofnodion gan Llwyd ap Iwan, brawd Mihangel ap Iwan. NLW MS 9652-3A. C, E.
     
  • Torion o'r wasg, yn cynnwys rhifyn 12 Meh. 1925 o Y Drafod, gydag ysgrifau coffa a gwerthfawrogiad o fywyd Mrs Anne Lloyd Jones, gweddw Michael D. Jones; torion parthed sefydliad Chubut. NLW MS 9656E. C, S.
     
  • Patent i alluogi Mihangel ap Iwan i weithredu fel meddyg yn yr Ariannin, 1927; llofnodion gwestai mewn gwledd a roddwyd i Mihangel ap Iwan, 1923; rhaglen cysegru Lodge 'St David's', Rhif 3952, y Seiri Rhyddion ym Muenos Aires, 1920. NLW MS 9656E. S, E.
     
  • Cerdyn coffa Ebenezer M. Morgan, Trelew, 1910. NLW MS 9656E. E.
     
  • Copi teipysgrif o adroddiad ar y Wladychfa Gymreig yn Nyffryn Chubut, Patagonia, a baratowyd gan y Parch. David Powell Richards, MA, Caplan yn y Llynges Brydeinig, o fwrdd HMS Flora, ym Monte Video, 8 Ebrill, at y Gwir Anrhydeddus Syr William A. C. Barrington, KCMG, HM Cennad Arbennig a Gweinidog Llawnalluog ym Muenos Aires. Gyda'r adroddiadau mae nifer o atodiadau a mewnosodiadau, yn cynnwys copi teipysgrif o ddatganiad yr awdurdodau parthed ffiniau'r Ariannin; copïau teipysgrif o ddyfyniadau o The Review of the River Plate, 8 Medi 1900, ac Y Drafod, 9 Tach. 1900, ynghylch canlyniadau'r etholiadau trefol diweddar yn Chubut; copi teipysgrif o lythyr, 4 Gorff. 1900, R. Groome, Commodore, HMS Flora, at Ysgrifennydd y Morlys yn adrodd ar ei ymweliad â'r Wladychfa Gymreig; copïau llawysgrif o lythyr, 29 Awst 1901, oddi wrth Hy. Vansittart Neale, Y Morlys, at A. K. Wilson, is-Lyngesydd a Phennaeth Sgwadron y Sianel, a llythyr, 11 Medi 1901, H. D. Barry, Capten, HMS Mars, yn Lagos, at Is-Lyngesydd A. K. Wilson, ynglŷn â threfniadau gogyfer â chyfweliad rhwng y Parch. D. P. Richards ag Uchel-Gomisiynydd Canada; drafft o gofnodion cyfarfod cyffredinol yr Arloeswyr Cymreig yng nghapel y Gaiman, 22 Awst 1898, cyfarfod cyntaf ac ail gyfarfod Pwyllgor y Cyngor Cenedlaethol a apwyntiwyd gan y Cyfarfod, 30 Awst-7 Hyd. 1898; copi llawysgrif o lythyr oddi wrth yr arloeswyr Cymreig at Weinidog Prydain ym Muenos Aires, 18 Meh. 1900, yn protestio yn erbyn cael eu harestio gan awdurdodau'r Ariannin, a chopi llawysgrif o lythyr, 5 Mawrth 1902, oddi wrth [D. P. Richards], HMS Mars, Sgwadron y Sianel, yn Tetuan, parthed y cynnig i ddychwelyd y wladychfa i diriogaeth Prydain; a thorion o'r wasg. NLW MS 10746E. E.
     
  • Albwm o dorion o'r wasg parthed trosglwyddo ymfudwyr o Ddyffryn Camwy, yr Ariannin, i Ganada. NLW MS 10816E. E.
     
  • Lluniau o dudalennau enghreifftiol, 1885-91, yn llyfr cofnodion cyntaf Cyngor Gaiman ym Mhatagonia. NLW MS 10844A. C. S.
     
  • Nodyn cytundeb, 6 Ion. 1885, rhwng 'Luis' [Lewis] Jones, Edward J. Williams, a Thomas Davies, aelodau o Luis Jones y Cia, yn hybu sefydlu rheiffordd o Borth Madryn i Wladychfa Chubut. Arwyddwyd y cytundeb gan Luis Jones ac E. J. Williams, a mae yn llaw yr olaf. NLW MS 12194E. E.
     
  • Dyddlyfrau Lewis Jones, 1862-3, gan fwyaf yn cofnodi'i ymweliad archwiliol â Phatagonia. NLW MS 12198-9A. C, S.
     
  • Cyfrol o nodiadau llawysgrif a thorion o'r wasg yn ymwneud â charchariad Lewis Jones ac R. J. Berwyn ym 1882-3 ar gyhuddiad o drefnu terfysg er mwyn sicrhau hawliau gwladfawyr Cymreig. Geiriad y dudalen deitl yw 'Carchariad a'i ganlyniadau Rhag 20/82-Mawrth 21/83. L. J.' NLW MS 12200A. S, E, C.
     
  • Traethawd Lewis Jones yn dwyn y teitl 'Llenyddiaeth yn y Wladva', yn llaw'r awdur (35tt.). NLW MS 12201A. C.

    Copïau o gerddi a dramâu byrion Lewis Jones, yn llaw'r awdur. Mae'r teitlau'n cynnwys 'Y Teiriaith (Gwyl y Glaniad, 1883)', 'Vy ngalarnad am Berry Rhys...[18]83', 'Gwyl y Glaniad 1884...', 'Anerchiad Eisteddvod 1883', 'Cwrcwd. Cerdd ddesgrifiadol o fywyd yn y Wladfa...1872', 'Anerchiad Erbyn Eisteddvod y Vron Deg...1880', 'Anerchiad i dervynu tymhor 1882, Cylch Caerantur...', 'Galarnad am Aaron Jenkins...1879', 'Dal y Drvch Erbyn Gwyl y Glaniad 1874', &c. NLW MS 12202A-3C. C, E.
     
  • Of the Patagonians... gan Thomas Pennant, Downing. NLW MS 12706E. E.
     
  • Copïau yn llaw'r awdur o eiriau a cherddoriaeth dwy gân yn dwyn y teitlau 'Y Llyn' a 'Y Môr', y geiriau a'r tônau gan [Hugh Davies, 1853-1938], 'Alltud yr Andes'; torion o'r wasg yn cynnwys cerddi gan Hugh Davies; a llythyr gan R. E. Jones (nai i Hugh Davies), Cynwyd, Corwen, at [?Y Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru], 1938 (gwybodaeth am ei ewyrth). NLW MS 12902C. C.
     
  • Llythyrau neu ddogfennau Hugh Davies ('Hugo'r Andes'). NLW MS 14350A. C.
     
  • 'Rhai o gerddi y Wladfa. Detholiad o Gerddi Gwladfaol o eiddo gwahanol awduron. Eisteddfod Gadeiriol y Wladfa 1950 Cystadleuaeth Rhif 8. Gan "Gyfaill y Beirdd"'. NLW MS 15402C. C.
     
  • Gohebiaeth a deunydd amrywiol parthed y Wladychfa Gymreig ym Mhatagonia. NLW MS 16254B. C, S.
     
  • Llythyrau, cardiau post a rhestr o lyfrau Cymraeg, a llyfrau'n ymwneud â Chymru, a ddarparwyd gan David Roberts, argraffydd, o Batagonia a Llundain, ar gyfer Charles Ashton. NLW MS 16275D. E, C.
     
  • Llythyrau at Owen Williams, cerddi ganddo, deunydd amrywiol parthed Patagonia. NLW MS 16508D. C, S, E.
     
  • Hanes taith o Lundain i Chubut gan y Parch. William Phillips. NLW MS 16509B. C.
     
  • Darlith, 'Fifteen Years in Patagonia', 1902, gan W. Casnodyn Rhys. NLW MS 16653B. WCR 1. E.
     
  • 'Pioneers of Patagonia', penodau I-XIII, gan W. Casnodyn Rhys. NLW MS 16654C. WCR 2. E.
     
  • Cerddi gan W. Casnodyn Rhys, 1868-1930. NLW MS 16655D. WCR 4. C, S, E.
     
  • Gwahoddiad i W. Casnodyn Rhys fynychu cyfarfod cyhoeddus Cwmni Masnachol Chubut, 1927 (fe'i ddiddymwyd yn fuan wedyn); rhestr o gyfranddalwyr Cwmni Masnachol y Camwy; torion o'r wasg yn cynnwys erthyglau ar achos y Bedyddwyr yn yr Ariannin. NLW MS 16656D. C, E, S.
     
  • Trwydded cerbyd a gyflwynwyd i W. Casnodyn Rhys gan Gyngor Lleol Rawson, 1891. NLW MS 16656D. S.
     
  • 'Covrestr Teuluaidd' W. Casnodyn Rhys; cerdyn coffa Rhys Thomas, Frongoch, Chubut, a fu farw 4 Medi 1924 yn 68 mlwydd oed. NLW MS 16656D. C.
     
  • 'Hela Morloi ar yr Arvordir Patagonaidd', gan E. F. Hunt, c. 1893. NLW MS 16657D. C.
     
  • Cyfarchiad William Owen Roberts, 'Llyfryddiaeth Dyffryn Camwy', ymhlith nodiadau eraill. NLW MS 16827B. C.
     
  • Cofnodion y Welsh Patagonian Gold Fields Syndicate Ltd, 1891-2, a hysbyslen y cwmni a fu'n cloddio am aur yn yr Andes. NLW MS 16956D. E, S.
     
  • Traethawd (anghyflawn) ar 'Masnach y Wladfa', yn ôl pob tebyg gan R. J. Berwyn, - Eisteddfod 1879. (gw. R. B. Williams, Rhyddiaith y Wladfa, tud. 15). 1880. NLW MS 17526A. C.
     
  • Copi teipysgrif o adroddiad ar y Wladychfa Gymreig ym Mhatagonia a ddderbyniwyd gan y Swyddfa Dramor. NLW MS 17743E. C, E.
     
  • Rhestr o lawysgrifau T. Benbow Phillips, a darnau o'r llawysgrifau a gopïwyd yn Esquel, Ion. 1960. NLW MS 18175B. RBW Ms 1. C, E.
     
  • Dyddiadur a gadwyd gan Joseph Seth Jones yn adrodd hanes ei daith ar y Mimosa i Batagonia ym 1865, ac ar gyfer 14-21 Mawrth 1866. NLW MS 18176B. RBW Ms 2. C.
     
  • Copi teipysgrif o lyfr cofnodion y llysoedd Cymreig ym Mhatagonia, 1972-81. NLW MS 18178C. RBW Ms 4. C.
     
  • Pamffled Lewis Jones, 1869, yn rhoi gwybodaeth am y Sefydliad ym 1869. Printiedig. NLW MS 18179B. RBW Ms 5. C.
     
  • Dyfyniadau o gofrestri Vrondeg, Capel y Bedyddwyr, 1877-80. (Teipysgrif). NLW MS 18182B. RBW Ms 8. C.
     
  • Llawysgrif gan Dafydd Iâl Jones yn rhoi hanes y cynllun dyfrhau, &c., yn y Wladfa, 1960. NLW MS 18183C. RBW Ms 9. C.
     
  • Dyfyniadau o lyfrau cofnodion Cyngor y Gaiman, 1885-91. NLW MS 18184C. RBW Ms 10. C.
     
  • Galeses en el Chubut. (Romance) por Andres Fidalgo. En Trelew, 1950. Cerdd i arloeswyr y Wladfa gan Jorge Manrique, un o feirdd ifainc Ariannin, a enillodd y wobr yn Comodoro Rivadavia yn 1949. NLW MS 18185C. RBW Ms 11. S.
     
  • Primeras paginas de historia del Chubut. Hanes cynnar y Wladychfa a luniwyd gan Adran Ddiwylliant Talaith Chubut, 1958. NLW MS 18186E. RBW Ms 12. S.
     
  • Concierto Coral. Rhaglen y gyngerdd a gynhaliwyd yn yr Hen Gapel, y Gaiman, 23 Ion. 1960, ynghyd â chopi o'r gerddoriaeth sy'n cynnwys y dôn Hafren, a gyfansoddwyd gan Dalar Evans, Cwm Hyfryd. 1960. Copi printiedig ac un arall wedi ei ddyblygu. (Lladin, Sbaeneg, Cymraeg, Saesneg). NLW MS 18187E. RBW Ms 13.
     
  • Nodyn ariannol Cymraeg am ddeg swllt a chopi ffotostat o un arall am bunt, 1865. NLW MS 18188-9A. RBW 14-15. C.
     
  • Gweithred tir Capel Vrondeg yn y Wladychfa. 1880. NLW MS 18191A. RBW Ms 17. C.
     
  • Copïau o lawysgrifau ar gadw yn Gaiman: (a) Cyfansoddiad Cymdeithas Addysgiadol Camwy; (b) llythyr parthed galw gweinidog i Gapel Vrondeg, 1878: (c) llythyr yn ymwneud ag ymholiad parthed aelod o Gapel Vrondeg, 1877. NLW MS 18192C. RBW Ms 18. C.
     
  • Cynlluniau Eglwys Llanddewi, Chubut. 1891. NLW MS 18193F. RBW Ms 19.
     
  • Cytundebau rhwng Llwyd ap Iwan a'r Phoenix Patagonian Mining Co. 1897. Copi. NLW MS 18194A. RBW Ms 20. C.
     
  • Llawysgrif David Owen o gerddi a gyfansoddwyd tra'n arloesi 'Ynys Choele Choel'. 1902. NLW MS 18195C. RBW Ms 21. C.
     
  • Cytundeb rhwng (1) David Jones a Joseph Jones a (2) Michael Doolan parthed torri mawn yn y Wladychfa, 1866. NLW MS 18199B. RBW Ms 25. E.
     
  • Llyfr cofnodion Cyfarfodydd Misol y Methodistiaid Calfinaidd yn y Wladfa, 1881-1925. NLW MS 18202D. RBW Ms 28. C.
     
  • Rheolau Cymdeithas Dewi Sant, Trelew, Chubut, 1958. NLW MS 18203E. RBW Ms 29. S.
     
  • Semana de Trelew del 20 al 27 de Noviembre de 1954. Programa oficial de Actos. Rhaglen swyddogol 'Wythnos Trelew' i gofio hanner canrif wedi marwolaeth Lewis Jones, sefydlydd Trelew. 1954. Copi printiedig. NLW MS 18204B. RBW Ms 30. S.
     
  • 'CAMWY'. Rhifyn cyntaf y cylchgrawn, 1961. Teipysgrif. NLW MS 18205C. RBW Ms 31. C, S, E.
     
  • Adroddiad ar gyfarfod cyhoeddus ym Mlaenau Ffestiniog a hysbyseb parthed y Wladychfa Gymreig arfaethiedig. Adargraffiad o'r Herald Gymraeg, 4 Mawrth 1865. NLW MS 18209F. RBW Ms 35. C.
     
  • Cynlluniau ar gyfer argae i'w hadeiladu ym Mhatagonia. NLW MS 18210B. RBW Ms 36. S.
     
  • Cyfansoddiad a rheolau y Compaňia Unida de Irrigacion del Chubut. 1934. 1941. Copi printiedig. NLW MS 18211A. RBW Ms 37. S.
     
  • Ystadegau Eglwysi rhyddion Dyffryn Camwy. 1923. NLW MS 18212A. RBW Ms 38. C.
     
  • Trelew en el recuerdo, por Nanny Davies. Agosto de 1958. Cerdd yn Sbaeneg gan ferch ifanc o Comodoro Rivadavia sydd hefyd yn barddoni yn Gymraeg. NLW MS 18213E. RBW Ms 39. S.
     
  • Gwahoddiad i briodas Luned Vychan, gorwyres i Michael D. Jones a Lewis Jones, a Virgilio Horacio González, 29 Rhag. 1960. NLW MS 18214A. RBW Ms 40. S.
     
  • Himnos misticos y sus traducciones por E. Morgan Roberts ('Llynfab'). Emynau crefyddol a'u cyfieithiadau gan E. Morgan Roberts. Llyfr arbennig o emynau Cymraeg wedi eu cyfieithu i'r Sbaeneg. NLW MS 18215A. RBW Ms 41. C, S.
     
  • Rhaglenni cyfarfodydd llenyddol a rhestr o drefn y moddion yng ngwasanaethau crefyddol Patagonia. 1959-62. Teipysgrif. NLW MS 18216E. RBW Ms 42. C, S.
     
  • Rhestri o, a nodiadau ar, ddogfennau sydd ym Mhatagonia ond heb fod yng Nghymru. Teipysgrif. NLW MS 18217D. RBW Ms 43. C.
     
  • Nodiadau o lawysgrifau, &c., sydd ar gael yng Nghymru. Teipysgrif. NLW MS 18218D. RBW Ms 44. C.
     
  • 'Cadair farddol Tywosogaeth Cymru. Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Hyn sydd dystiolaeth fod Griffith Griffiths ('Gutyn Ebrill') yn gadeirfardd profedig, a thrwyddedawg cyfallwy o Orsedd Beirdd Ynys Prydain, ac iddo hawl ac awdurdod i ddeffro Cadair a chynal Gorsedd ar gerdd a barddoniaeth yn ôl braint a defawd Beirdd Ynys Prydain, ar lan y Gamwy yn Nghymru Newydd, neu unrhyw drefedigaeth Gymreig trwy'r byd oll'. Dogfen ddiddorol a arwyddwyd gan Owen Gethin Jones, 'Scorpion' a 'Gwilym Cowlyd', 1881. NLW MS 18219D. C.
     
  • Cais R. Bryn Williams am Ysgoloriaeth Leverhulme a gohebiaeth, 1959-60. NLW MS 18221C. RBW Ms 47. C, S, E.
     
  • Torion o'r wasg yn ymwneud â Phatagonia, 1927-62. NLW MS 18222C. RBW Ms 48. C.
     
  • Semana recordatoria de la Colonia Galesa en la Patagonia. 1962. (Rhaglen y dathliadau i goffáu'r ymsefydlu cyntaf). NLW MS 18224B. RBW Ms 50. S.
     
  • Cymry Patagonia (1942). Y teipysgrif gwreiddiol a llythyrau parthed ei gynnwys oddi wrth Prosser Rhys, Ifor Owen ac Ifan Owen Williams. NLW MS 18228C. RBW Ms 57. C.
     
  • Ychwanegiadau a gwelliannau i ail argraffiad Cymry Patagonia (1944). Teipysgrif. NLW MS 18229C. RBW Ms 58. C.
     
  • Teipysgrif gwreiddiol Awen Ariannin. NLW MS 18230D. RBW Ms 59. C.
     
  • Croesi'r Paith. Teipysgrif gwreiddiol. NLW MS 18231C. RBW Ms 60. C.
     
  • Drafftiau cyntaf o benodau 1-5 o Y Wladfa (1962), a gyfansoddwyd cyn i RBW ymweld â Phatagonia ym 1959. NLW MS 18232C. RBW 61. C.
     
  • Addasiad o benodau 1-3 o Y Wladfa ar gyfer eu cyfieithu i'r Sbaeneg. Bwriedid i weddill y llyfr fod yn gyfieithiad pur. NLW MS 18233C. RBW MS 62. C.
     
  • Sgript y ddrama, 'Y Cariad Creulon', addasiad a ddarlledwyd gan y BBC, 30 Ebrill 1957, ynghyd â llythyr y cynhyrchydd, Wilbert Lloyd Roberts, yn awgrymu sut i'w haddasu, a chopi o gerddoriaeth a geiriau'r gân werin, 'Vidalita'; darlun a gyhoeddwyd yn y Radio Times. NLW MS 18234D. RBW Ms 63. C.
     
  • Cyfieithiad o'r ddrama Vida y Dulzura a ddarlledwyd gan y BBC ym 1955 dan y teitl Y Bywyd Melys. NLW MS 18236C. RBW Ms 65. C.
     
  • Hanes taith adref R. Bryn Williams o Batagonia, na's cyhoeddwyd yn Crwydro Patagonia. Copi teipysgrif. NLW MS 18236C. RBW 65. C.
     
  • Sgriptiau ar y Wladfa ar raglen Heno, Teledu Cymru, 30 Hyd. 1962, sgript 'arloesi'r Andes', a ddarlledwyd gan y BBC, 14 Ion. 1947, a llythyrau ynglŷn â'r rhaglen. NLW MS 18238D. RBW 67-8. C.
     
  • Nodiadau ar gyfer darlith 'Llyfryddiaeth y Wladfa', a draddodwyd mewn cyfarfod o'r Gymdeithas Llyfryddol Gymreig yn Eisteddfod Llanelli, 1962. NLW MS 18241C. RBW 71. C.
     
  • Erthyglau, adolygiadau, beirniadaethau, &c., gan R. Bryn Williams. Teipysgrifau, 1946-60. NLW MS 18243D. RBW 73. C.
     
  • Sgriptiau anerchiadau, &c., R. Bryn Williams ar Batagonia, a ddarlledwyd gan y BBC, 1962. NLW MS 18244D. RBW 74. C.
     
  • Llyfr nodiadau Edward Thomas, Y Foel, Llangadfan, yn cofnodi ei deithiau ym Mhatagonia, 1885-1901. Ymsefydlodd yr awdur yn British Columbia yn y diwedd yn briswr coed, ac anfonwyd y rhan fwyaf o'r torion o'r wasg a gynhwysir yn y rhodd hon gan Edward Thomas at Y Drych. Llun ohono yn un o goedwigoedd British Columbia. NLW MS 18627C. C.
     
  • Llawysgrifau y Parch. William Phillips (1861-1944), Gwalchmai, Gweinidog yr Annibynwyr, yn ymwneud â'i ymweliad â'r Wladychfa Gymreig ym Mhatagonia ym 1891. Maent yn cynnwys 'Hanes y daith i'r Andes a byr Ddesgrifiad o'r Wlad Fynyddig', Medi-Tach. 1891; darlithoedd a nodiadau ar gyfer darlithoedd ar 'Bywyd yn Patagonia', 'Bywyd yng ngwlad yr Indiaid yn Patagonia', a 'Yr hyn a welais ac a glywais gyda'r Cymry a'r Indiaid yn Patagonia'. NLW MS 18953B. C.
     
  • Copïau o sgript ddrama R. Bryn Williams, Y Cariad Creulon, yn Gymraeg a Sbaeneg, ynghyd â llythyrau oddi wrth Wilbert Lloyd Roberts ac Alun Talfan Davies; rhaglenni ar gyfer perfformiadau o'r ddrama gan Gwmni Theatr Cymru a Chymdeithas y Ddrama Gymraeg Abertawe yng Ngŵyl Ddrama 1978 yn Theatr y Grand; copi o 'Vidalita'. NLW MS 19011E. RBW 78. C.
     
  • Cyfieithiad Saesneg gan Merfyn a Nan Griffiths o gyfrol R. Bryn Williams, Gwladfa Patagonia (Caerdydd, 1965). NLW MS 19017C. RBW 84. E.
     
  • Teipysgrif o bennod I-V o Y Wladfa, a'r atodiad (Caerdydd, 1962). NLW MS 19018C. RBW 85. C.
     
  • Addasiad radio o nofel R. Bryn Williams, Croesi'r Paith, (Llyfrau'r Dryw, 1958). NLW MS 19020E. RBW 87. C.
     
  • 'Patagonia - Canmlwyddiant y Glanio', sgwrs radio gan R. Bryn Williams. NLW MS 19021E. RWB 88. C.
     
  • Copi teipysgrif o gyfieithiad Cymraeg R. Bryn Williams o rai o ganeuon gwerin y Paith. NLW MS 19029E. RBW 96. C.
     
  • Sgriptiau gan R. Bryn Williams ar gyfer y radio - 'Baceano' a 'Llwyd ap Iwan'. Teipysgrif. NLW MS 19031D. RBW 98. C.
     
  • Curriculum Vitae R. Bryn Williams gan Augustin Perez Pardella. NLW MS 19032E. RBW 99. S.
     
  • Rhaglenni, taflenni, &c., ynglŷn â dathlu canmlwyddiant yr ymfudo i'r Wladfa yn 1865. NLW MS 19037C. RBW 104. C, S, E.
     
  • Deunydd ar gyfer y gyfrol Atgofion o Batagonia (gol. R. Bryn Williams). NLW MS 19047D. C.
     
  • 'Hanes Bethel, Capel yr Annibynwyr, Gaiman, 1876-1947', c. 1952. NLW MS 19100B. C.
     
  • Llyfr cofnod y Parch. Tudur Evans yn cynnwys enwau aelodau ac yn cofnodi bedyddiadau yng nghapeli Bethel, (Gaiman), Bethel, (Cwm Hyfryd), Seion, (Esquel), Ebenezer, Moriah, Bethel, (Tir Halen); Bethlehem, (Treorci), Seion, (Bryn Gwyn), Bethesda, &c., 1915-55. NLW MS 19101E. C.
     
  • Adroddiadau ar ddathlu'r canmlwyddiant, &c., yn y Wladychfa Gymreig ym Mhatagonia, 1965, adroddiadau o'r wasg, &c. NLW MS 19357E. C, S.
     
  • Adroddiad ar gapeli Patagonia, gyda nifer o luniau, a baratowyd ar gyfer dathlu'r canmlwyddiant, 1965. NLW MS 19357E. C, S.
     
  • Dyddiadur - nodiadau ar siwrnai E. J. Williams i archwilio'r pampas ar gyfer llwybrau rheilffyrdd, Ebrill-Meh. 1907. NLW MS 19715A. S.
     
  • Nodiadau ar siwrnai E. J. Williams ar hyd afon Chubut i'r Andes. NLW MS 19716A. S.
     
  • Measuriadau E. J. Williams o gamlesi a gorgloddiau Dyffryn Camwy. NLW MS 19717A. S.
     
  • Cyfarchiad o groeso i Mrs E. J. Williams 'ar ei hymsefydliad yn y Wladva Gymreig ar y Camwy, Patagonia'. Tystysgrifau, tystlythyrau, &c., E. J. Williams, yn cynnwys amcangyfrif o'r gost o ymestyn y rheilffordd o'r Gaiman i Ryd-yr-Indiaid. Anerchiad E. J. Williams ar ei ymadawiad, 19 Gorff. 1907. NLW MS 19718E. C, S.
     
  • Nodiadau, d.d., yn llaw E. J. Williams, ar gyfer anerchiad ar hanes cynnar y sefydliad Cymreig ym Mhatagonia. NLW MS 19722D. C.
     
  • Torion o'r wasg, deunydd printiedig, teipysgrifau, &c. yn ymwneud â Phatagonia, c. 1909; llungopi llawysgrif gwarantiedig, 31 Hyd. 1967, o dystysgrif cofnodi geni Mostyn Williams, mab E. J. Williams, yn Nhrelew; torion o The Rhyl Journal, 9, 16 a 23 Gorff. 1932, yn cynnwys ysgrifau coffa E. J. Williams. NLW MS 19724E. C, S.
     
  • Cofnodion dilys Bwrddeistref Trelew, Gorff.-Awst 1970, yn cofnodi'r penderfyniad i fabwysiadu enwau E. J. Williams a sefydlwyr eraill ar enwau strydoedd, gyda chynllun o'r strydoedd, 1970. NLW MS 19724E. S.
     
  • Deunydd yn cynnwys torion yn ymwneud â Chwmni Unedig Dyfrhau Camwy, 1912, ac Adroddiadau Blynyddol Cwmni Masnachol Camwy, 1909 a 1911. NLW MS 19724E. C, S, E.
     
  • Llungopi o orchymyn estraddodi yn erbyn RBW, 3 Chwef. 1968, gan yr Heddlu Cenedlaethol yn Esquel (Chubut), Patagonia, yn gofyn iddo adael y wlad, 6 Mawrth 1968. NLW MS 19981E. S.
     
  • Grŵp o lawysgrifau John Brutus Davies, ymfudwr dros dro i'r Wladychfa Gymreig ym Mhatagonia, ac wedyn yn yr Unol Daleithiau. NLW MS 20008C. C, S, E.
     
  • Llyfr cofnodion, gohebiaeth, &c., 1963-6, Pwyllgor Gwaith a'r Is-bwyllgor Cartref, Undeb y Cymry ar Wasgar, a sefydlwyd i drefnu dathliadau canmlwyddiant y Wladychfa Gymreig ym Mhatagonia. NLW MS 20396B. C.
     
  • Llyfr cofnodion, 1958-61, Undeb y Cymry ar Wasgar, a gohebiaeth, 1958-66, is-bwyllgor Undeb y Cymry ar Wasgar, a sefydlwyd i drefnu dathliadau canmlwyddiant y Wladychfa Gymreig ym Mhatagonia, 1963-6. NLW MS 20398C. C.
     
  • Llyfr Cofnodion Pwyllgor Undeb y Cymry ar Wasgar yn ymwneud â Phatagonia. NLW MS 20399E. C, E, S.
     
  • Erthyglau, nodiadau, a phapurau W. Casnodyn Rhys parthed Patagonia. NLW MS 20549E. C, E.
     
  • Adroddiadau W. Casnodyn Rhys ar ysgolion Bryn Crwn, y Gaiman, &c., a mudiadau amrywiol ym Mhatagonia. NLW MS 20550A. C.
     
  • Copi teipysgrif o gyfarchiad i Davydd D. Roberts ar ei ymadawiad â'r Wladychfa Gymreig ym Mhatagonia, 1893. NLW MS 20670E. E.
     
  • Papurau rhydd yn cynnwys dau lythyr, 1938-40, at A. F. Tschiffely oddi wrth Edwin Williams, Ystradgynlais, 'mab i un o'r 152 sefydlwyr Cymreig cyntaf a adawodd Gymru am Ddyffryn Chuput [sic] yn 1865'. NLW MS 20670E.
     
  • Cyfrol o lyfrgell H. Tobit Evans, Llanarth, yn cynnwys Papurau'r Llywodraeth parthed y Wladychfa Gymreig ym Mhatagonia, 1867-98, yn eu plith adroddiadau gan Capten W. R. Kennedy ar Wladychfa Gymreig Chupat, Brazil [sic, Argentina] am 1886, 1887, 1888. NLW MS 20903D. E.
     
  • 'Bywyd ar y Paith', sef dyddlyfr, 28 Medi 1891 31 Ion. 1892, o eiddo David Richards, o Harlech, Meirion., yn bennaf yn Gymraeg. NLW MS 21197B. C, E.
     
  • 'Taith o Buenos Aires i Lynlleifiad ar yr Iberia', sef ail ddyddiadur David Richards, 28 Gorff.-26 Awst 1892, yn disgrifio ei daith adref o Buenos Aires i Plymouth. NLW MS 21198A. C, E.
     
  • Deunydd amrywiol yn cynnwys copïau o ddwy bryddest, marwnadau, copi prawf, neu dorion, yn cynnwys darnau o gyfres o erthyglau ar 'Cyfoeth Mwnawl y Wladfa Gymreig' a gyfrannodd 'Y Cadben D. Richards' i Y Celt ym 1891. NLW MS 21200E. C.E.
     
  • Penillion yn coffáu glaniad 1865 (1987). NLW MS 21702E. C.
     
  • Nodiadau amrywiol, yn Gymraeg, yn ymwneud ag Eglwys Annibynnol Moriah Aman, Cwmaman, Aberdâr, 1855-1988, yn cynnwys cyfeiriadau at ymfudo aelodau o'r Eglwys i Batagonia, 1874-5. NLW MS 22642E. C.
     
  • Erthygl yn ymwneud â Phatagonia (1878). NLW MS 22963E. C.
     
  • Englyn i 'Epynt Byr', sef y Parch. Esau Evans, [Co]lonia 16 de Octubre [ ] a Neuquen, Territorio del Chubut, Rep. Argentina, gan 'Clwydwenfro' (y Parch. John Lloyd James, 1835-1919). NLW MS 22966C. C.
     
  • Pregethau'r Parch. Hugh Davies ('Hywel Ddu o Arfon', m. 1909), nifer ohonynt wedi eu pregethu yn Eglwys Llanddewi, Dyffryn Camwy, 1906-7, lle y gwasanaethodd gyda'r South American Missionary Society. NLW MS 23383B. C.
     
  • Dyddiaduron, 1889-97 gydag ambell i fwlch, a gadwyd gan William T. Williams, Gaiman, Chubut, Patagonia, yn disgrifio ymchwildeithiau i'r Andes. NLW MS 23551-8A. C.
     
  • Cofrestr Ysgol Ganolraddol Chubut am y flwyddyn yn gorffen Rhagfyr 1908. NLW MS 23787D. E.
     
  • Pump o dystysgrifau a gyflwynwyd i aelodau Ysgolion Sul Seion, Bryngwyn, 1912, a Bethel, y Gaiman, 1926-49, gan y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Archifau'r Methodistiaid Calfinaidd, HZ4/51. C.
     
  • Papurau Nantlais yn ymwneud â'r Wladfa. CMA 28462-28562. C.
     
  • Gohebiaeth o Batagonia, 1871-1900, yn cynnwys cyfrifon capeli'r Methodistiaid Calfinaidd, ac un llythyr, 19 Rhagfyr 1931, oddi wrth J. O. Evans, y Gaiman. CMA 27194. C.
     
  • Copi teipysgrif o adroddiad, 'The British Colonies in Patagonia', 14 Chwef. 1899. Papurau T. I. Ellis, A195/21. E.
     
  • Dyddiaduron a phapurau Mali Evans yn ymwneud â'i theithiau i Batagonia. Papurau Mali Evans. C,S:
    • 49-50 Dyddlyfrau ymweliad Mali Evans â Phatagonia 1965
    • 51 Dyddlyfr ei hymweliad ym 1970-1
    • 53 Papurau amrywiol yn ymwneud ag ymweliadau Mali Evans ym 1970-1 a 1975, yn cynnwys nodiadau a momentoes
    • 54 Cylchlythyron Cymdeithas Cymry Ariannin ym Mhrydain, 1970-72, ac Adroddiadau Blynyddol Undeb y Cymry ar Wasgar, 1969-71
    • 55 Papurau'n ymwneud ag eisteddfodau, gan gynnwys rhaglenni Eisteddfod del Chubut, 1967, 1969, 1971-2; llun o Eisteddfod Trelew, 1969; ynghyd â chopïau o amryw draethodau eisteddfodol yn Gymraeg gan drigolion Patagonia
    • 56 Papurau amrywiol, 1890s-1970au, wedi'u crynhoi gan Mali Evans, yn ymwneud â hanes teuluoedd Cymreig Patagonia, yn cynnwys achau teuluoedd, lluniau, nodiadau gan Mali Evans, a chopi o A. Matthews, Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia, (Aberdâr, 1885), a gyflwynwyd i Mali Evans
  • Papurau a grynhowyd gan Frank Price Jones fel aelod o'r Pwyllgor Brys ar gyfer y daith i Batagonia i ddathlu canmlwyddiant y Wladfa yn 1965 ac fel aelod o Gymdeithas Cymry Ariannin ym Mhrydain, 1966-75. Papurau Frank Price Jones. C, S, E.
    • 115 Trefniadau ar gyfer yr ymweliad
    • 116-7 Pamffledi, mapiau, llyfrynnau a phapurau a gasglwyd yn ystod yr ymweliad; dyddiadur Frank Price Jones yn cynnwys sylwadau ar y daith; a chopi teipysgrif o 'Drws Gobaith. Cyflwyniad o Stori'r Wladfa, 1865-1965' gan R. Bryn Williams a Wilbert Lloyd Roberts
    • 119 Ffotograffau o'r ymweliad
  • Papurau Kyffin Williams, Mân Adnau 1986, E:
    • C1 Drafft inc o Kyffin Williams, A Wider Sky (Llandysul, 1991), gyda chywiriadau
    • C3 Drafft cyntaf mewn llawysgrif o lyfr anghyhoeddiedig Kyffin Williams, c.1969-70, yn adrodd hanes ymweliad yr awdur â Phatagonia, Tach. 1968 - Chwef. 1969. Cyhoeddwyd rhannau o'r drafft hwn fel 'An Artist in Welsh Patagonia', yn The Anglo-Welsh Review, cyf.18, rhif 42 (1970)
    • L2 Rhestr o gysylltiadau ym Mhatagonia [1969], a baratowyd gan Valmai Jones, ar gyfer ymweliad Kyffin Williams, ynghyd â chopi teipysgrif o gwestiynau ac atebion a baratowyd cyn, neu hwyrach ar gychwyn, yr ymweliad
    • L7 Torion o'r wasg
  • Papurau ymchwil a grynhowyd gan Kenneth Edward Skinner (1910-86) wrth baratoi ei draethawd ymchwil Prifysgol Cymru, 'The relationship between the Welsh colonies in Chubut and the Argentine governemnt, with special reference to the work of E. J. Williams, 1875-1905' (1977). Papuraru Kenneth E. Skinner. C, S, E:
    • 1 Papurau ym meddiant Sra Olivia Hughes de Mulhall, Trelew
    • 2 Papurau ym meddiant Sr Glyn Ceiriog Hughes, Trelew
    • 3 Papurau ym meddiant Sr D. O. Williams, Temperley
    • 4 Llyfr nodiadau gwreiddiol, [?1910s], Edward J. Williams, Trelew
    • 6-7 Archifau a gedwir yn Archivo General de la Nación, Buenos Aires
    • 8 Archifau a gedwir yn y Biblioteca Nacional
    • 9 Archifau a gedwir yn Archivo de Ministerio de Guerra y Marina
    • 10 Archifau a gedwir yn Museo Histórico Regional, Gaiman
    • 11 Archifau yn Casa del Chubut
    • 12 Archifau yn Chubut, yn Archivo de la Municipalidad de Rawson
    • 15 Archifau yn Archivo de la Municipalidad de Gaiman
    • 16 Archifau yn Biblioteca Popular Agustín Alvarez, Trelew
    • 17 Archifau ym Mhrifysgol Cymru Bangor
    • 22 Yn cynnwys ychydig ddeunydd printiedig a gasglwyd gan Kenneth E. Skinner, gan gynnwys albwm cyhoeddedig o gylchgronau yn Sbaeneg, 1954-79, gydag erthyglau am hanes y Wladychfa Gymreig ym Mhatagonia

     
  • Llawysgrifau amrywiol - enwau (llofnodau) Cymry Chubut, perchnogion ffermdai. Ffotostat. Casgliad J. Dyfnallt Owen. C.
     
  • Llythyrau, &c., o ddiddordeb ynglŷn ag enwad yr Annibynwyr 'Penillion gan [Lewis William Lewis], 'Llew Llwyfo', cyflwynedig i D. S. Davies, un o oruchwylwyr y Wladfa Gymreig a sefydlir yn Patagonia, gyda rhoddiad hawl iddo i wneud defnydd a fyno o'r gân hon, yn gyfrinachol neu gyhoeddus, gyda neu heb enw yr awdur wrthi'. Tuchangerdd: 'Y Fintai drodd yn ôl' gan R. J. Berwyn. Casgliad J. Dyfnallt Owen. C.
     
  • Deunydd a gasglwyd gan Lewis Williams, Gibbonsdown, Y Barri, gynt o Aberpennar, yn ymwneud â Chwmni Ymfudol a Masnachol y Wladfa Gymreig, a sefydlwyd er mwyn codi arian i anfon pobl i'r Wladychfa ym Mhatagonia. Mae'r deunydd yn cynnwys tystysgrifau cyfranddaliadau Lewis Williams yn y Cwmni, llythyrau oddi wrth D. Lloyd Jones (Ysgrifennydd), llythyr gan John Rhys Morgan ('Lleurwg'), a llythyr o Lerpwl y noswaith cyn hwylio ym 1875 oddi wrth David Thomas, un o'r rhai y talwyd eu cludiant i'r Wladfa gan y Cwmni. Papurau H. Francis Jones, AG3. C.
     
  • Dau ddrafft o 'The Welsh settlement in Patagonia'. Casgliad D. Rhys Phillips. E.
     
  • Nodiadau ar ymfudo i Dde America. Papurau Bob Owen, Croesor, 28/30. C.
     
  • Y Drafod, Gaiman, 1 Awst 1947. Papurau Bob Owen, Croesor, 28/32. C, S.
     
  • Rhestri o enwau ymfudwyr. Papurau Bob Owen, Croesor, 31/18-19. C.
     
  • Prospectws, &c., y Welsh Patagonian Gold Fields Syndicate, gyda chopi o awgrymiadau a anfonwyd at Eugene Holfer wrth iddo adael am Batagonia i archwilio ac i adrodd ar feddiannau'r Gynghrair, 1892-3. Casgliad A. Ivor Pryce, 961. E.
     
  • Deunydd printiedig, gohebiaeth a phapurau'n ymwneud ag ymweliad yr Arglwydd Tudor Watkins â Phatagonia yn ystod dathliadau canmlwyddiant y sefydliad Cymreig, 1965. Papurau Arglwydd Watkins, 10. S, E, C.
     
  • Copi teipysgrif o 'My trip to Patagonia' gan Thomas H. Reese [1972]. Papurau David Greenslade, 28 (ffeil 'Pennsylvania eastern'). E.
     
  • Araith ddienw, 1976, a draddodwyd gan un o drigolion Patagonia adeg ymweliad Norah Isaac â'r wlad. Papurau Norah Isaac, 158. C.
     
  • Tystiolaeth fel y bu Abraham Jones Williams, meddyg o Bwllheli, ar y daith gyntaf i Batagonia gyda Lewis Jones a T. L. D. Jones Parry. Papurau D. G. Lloyd Hughes, D/3. C, E.
     
  • Rhaglen ar gyfer Dawns Canmlwyddiant Cymru-Patagonia, a sioe ffasiynau ap Arthur, er budd Theatr Genedlaethol Cymru, 16 Hyd. 1965. Papurau Clifford Evans, 26. E.
     
  • Cyfeiriadau at gyhoeddi adroddiad Llwyd ap Iwan ar ei deithiau ym Mhatagonia, 1901. Casgliad Ben Davies Bocs 2/1.
     
  • 'Tair Telyneg', yn cynnwys un ar 'Patagonia'. (Cyfansoddiadau a Beirniadaethau a ddaeth trwy law W. Rhys Watkin, Ysgrifennydd y Pwyllgor Llên). Archifau'r Eisteddfod Genedlaethol, 13. C.
     
  • Cyfeiriadau at ddewis Eluned Vychan de González yn Arweinydd y Cymry Tramor yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Cwm Rhymni. Archifau'r Eisteddfod Genedlaethol, Ffeil FF/222. C.
     
  • Cynhyrchiad o'r ddrama 'Patagonia' gan Gwmni Drama Brith Gof yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, 1992. Archifau'r Eisteddfod Genedlaethol, Ffeil FF/458. C.
     
  • Darlith radio gan R. Bryn Williams, 'Wales its Life and its People: Patagonia', a ddarlledwyd 1 Rhag. 1949. Archif BBC (Cymru), 2B.
     
  • Torion papur newydd, 'Welshmen in Patagonia'. Casgliad Torion Papur Newydd Durrant's, bocs 10. E.
     
  • Deunydd yn cofnodi taith Elwyn Davies i Batagonia, 23 Hyd.-12 Tach. 1965. Papurau Elwyn a Margaret Davies:
    • A16 Llyfr nodiadau. C, E.
    • H1 Rhestri o ffilmiau a sleidiau a dynnwyd, enwau ffermydd, nodiadau ar ogledd Patagonia a baratowyd gan Comision de Estudios Hirdologicos; testun a chopi drafft o ddarlith, 'Pilgrimage to Patagonia', &c. E. C.
    • G8 'Michael D. Jones a'r Wladfa'; anerchiad gan yr Athro Alun Davies a recordiwyd yn Ysgol y Berwyn, Y Bala, Mai 1965. C.
       
  • Papurau'r Parch. Harri Samuel:
    • 7-9 Copïau teipysgrif o lyfr taith, 'O Gymru i'r Wladfa', a gyflwynwyd gan 'Peredur' ar gyfer cystadleuaeth Cyfrol Orau Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, 1952
    • 10-11 Copïau teipysgrif 'Y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia' gan 'Pryderi': cystadleuaeth 'Amlinelliad o Strip Ffilm', Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, 1952
    • 18 Ysgrif/erthygl, 'Gair am y Wladfa'
    • 34 Torion o ysgrifau H. T. Samuel ar y Wladfa a ymddangosodd yn Y Tyst a'r Dysgedydd, 1948-9
    • 44 Llun Vera a Fred Green, Troed yr Orsedd, Medi 1950
  • Deunydd amrywiol, yn cynnwys 'Biography of the Welsh Settlement in Patagonia'. Casgliad Adran Hanes Cymru, Prifysgol Aberystwyth, 10. E.
     
  • Gohebiaeth a thorion o'r wasg yn ymwneud â Phatagonia. Casgliad Syr John Cecil-Williams. C, E, S.
     
  • Deunydd yn cynnwys copïau o erthyglau Syr Daniel Lleufer Thomas i'r Western Mail, 1902-26, ar ymfudwyr Cymreig ac ar y Cymry a aeth o Batagonia i Ganada. Papurau Syr Daniel Lleufer Thomas, C5/2. E.
     
  • Ffeil o bapurau yn ymwneud â'r Wladychfa Gymreig ym Mhatagonia, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Llwyd ap Iwan, T. Benbow Phillips, J. H. Davies a Lord Cranborne, parthed y Wladychfa Gymreig a chymodi'r anghydfod ar y ffin rhwng yr Ariannin a Chile, 1902, datganiad gan y dirprwyaeth a anfonwyd i'r Wladychfa ym 1899 ('The British Colonies in Patagonia'), a mapiau gan Llwyd ap Iwan. Papurau Syr J. Herbert Lewis, D58. E, C.
     
  • Nodyn cyfnewid am £10 a godwyd ar yr Anglo-South American Bank Ltd, Llundain, gan gangen Trelew o'r banc, yn daladwy i Wyn Edwards a Morris. Papurau J. W. Jones, 1996. E.
     
  • Papurau'r Parch. E. R. Williams (1883-1952) a ymfudodd i Batagonia ym 1930, ynghyd â phapurau ei ferch Elizabeth Jeane Roberts Williams. C, S, E.
     
  • 'Two printed addresses to the Rev. D. G. Davies on his departure (after several years' service) from both Chubut, Patagonia and Llywelyn Settlement, Canada, respectively 1902 and 1904'. Papurau Titus ac Elizabeth Evans, 25. 1C, 1E.
     
  • Papurau a grynhowyd gan Dr J. H. Marshall Lloyd, Tywyn, ynglŷn â'i ymweliad â Phatagonia ar achlysur dathlu canmlwyddiant y Wladfa, 1965. Papurau Dr Marshall Lloyd. S, C, E.
     
  • Nodiadau ymchwil, adysgrifau o lythyrau oddi wrth Eluned Morgan, a thorion o'r wasg parthed cyhoeddi Gyfaill Hoff. Papurau William George, 7880. C, S.
     
  • Pererindod i Batagonia/Pilgrimage to Patagonia, 1865-1965. Archifau Plaid Cymru, O192. C, E.
     
  • 'Greetings to the Church of Jesus Christ in the Chubut Valley, Patagonia'. Casgliad W. Emlyn Davies, 439. E.
     
  • Cyfrol o dorion o'r wasg yn cynnwys copi o 'Welshmen in Patagonia'. Casgliad Cwrtmawr, 801D. E.
     
  • Deunydd ar gyfer Dafydd Ifans (gol.), Tyred Drosodd (1977), ynghyd â dwy ddarlith ar Eluned Morgan. Mân Adnau 1303B. C.
     
  • Llungopïau, a gyflwynwyd gan Olivia Hughes de Mulhall, o bapurau'n ymwneud â John Murray Thomas (1847-1924) o Ferthyr Tudful a hwyliodd i Batagonia ar y Mimosa. Ymhlith y papurau ceir rhannau o'i ddyddiaduron, 1877,1878 ac 1893; ei gynllun o Gwm Hyfryd, 1885; ei ohebiaeth, 1888-1911, gyda deiseb a luniwyd ganddo, 1893, ynglŷn â hawliau tir; pedwar llythyr gwreiddiol ato, 1895-1898, a chytundeb busnes gwreiddiol, 1893. Ceir papurau hefyd yn ymwneud â thad Sra Hughes de Mulhall, y bardd Morris ap Hughes, gydag enghreifftiau o'i farddoniaeth a chyfieithiadau o emynau adnabyddus Cymreig i'r Sbaeneg gan ei fab Osian Hughes. NLW Facs 184. C, S.
     
  • Copïau o ddeunydd gwreiddiol yn Amgueddfa y Gaiman, yr Ariannin, yn cynnwys dyddiaduron a llythyrau parthed hanes a diwylliant y Wladychfa Gymreig. NLW Facs 396-404:
    • NLW Facs 396 Dyddiadur taith John Murray Thomas i'r Andes, 1877. E.
    • NLW Facs 397 Dyddiadur Thomas Benbow Phillips, 1907-11. E.
    • NLW Facs 398 Llythyrau a phapurau Thomas Benbow Phillips. E, 1C.
    • NLW Facs 399 Dyddiadur Randal Phillips, 1898-1900. E.
    • NLW Facs 400 Dyddiadur Randal Phillips, 1918-19. E.
    • NLW Facs 401 Llythyrau a gweithredoedd amrywiol yn ymwneud â hanes y Wladfa. C, S, E.
    • NLW Facs 402 Traethodau ar agweddau gwahanol ar fywyd y Wladfa, 1880-1975. C, S, E.
    • NLW Facs 403 Eitemau llenyddol gwladfaol, 1880-1935. C, S.
    • NLW Facs 404 Casgliad o weithiau llenyddol Irma Hughes de Jones ('Irma Ariannin'). C, S.
  • Llungopi o dôn a gyfansoddwyd gan Clydwyn ap Aeron (geiriau Cymraeg gan Irma Hughes de Jones), a gynigwyd mewn cystadleuaeth eisteddfodol a gynhaliwyd ym Mhatagonia, 1995. NLW Facs 441/13.
     
  • Dyddiadur William Freeman, gyda chofnodion ysbeidiol, 1886-91, yn cynnwys sylwadau ar symud o'r teuluoedd cyntaf o'r Wladychfa Gymreig yn Nyffryn Camwy i Gwm Hyfryd wrth odre'r Andes ym 1891. NLW Facs 578. E.
     
  • Llungopi o erthygl Miss M. J. E. Davies, 'Patagonia to Canada', yn cynnwys adroddiad ar wladychu Patagonia gan y Cymry ac wedi hynny sefydlu Llewelyn Colony yng ngorllewin Canada ym 1902. NLW Facs 602. E.
     
  • Llungopïau o ddeunydd llawysgrif yn ymwneud â'r Wladfa, gan gynnwys hanes mordaith arloesol Lewis Jones ac Edwyn C. Roberts i Batagonia ym 1865 a'u harhosiad yno nes i'r ymfudwyr cyntaf gyrraedd; hanes anghyflawn yr ymfudwyr cyntaf ar y Mimosa, Mai-Gorff. 1865; atgofion disgynyddion rhai o'r ymfudwyr cyntaf. NLW Facs 716. C.
     
  • Penillion er cof am Tom Morgan, mab David a Jane Morgan, Bedlinog, a fu farw yn Tŷ Newydd, Gaiman, Chubut, 21 Meh. 1910, yn 24 mlwydd oed. NLW Facs 720. C.
     
  • Hunangofiant George W. Lloyd ('Georgie Brawd', 1860-c. 1936), Aberdâr, a ysgrifennwyd yn ystod y 1920au hwyr neu'r 1930au cynnar, y cyhoeddwyd dyfyniadau ohono yn yr Aberdare Leader, 1932. Mae'n cynnwys adroddiad ar ei brofiadau yn y llynges a disgrifiad, c. 1868, o helyntion y gwladfawyr Cymreig cynnar ym Mhatagonia. NLW Facs 777. E.
     
  • Llungopïau o nodiadau a ysgrifenwyd yn 1933 gan Lloyd Jones a anwyd yn Aberdâr, sir Forgannwg, yn cynnwys manylion am ei deulu ac yn cofnodi eu hymadawiad â Chymru am America yn 1874, gadael America am Batagonia yn 1876, lle bu ei dad yn gweithio fel peiriannydd, dychwelyd i Gymru yn 1877, ac yna yn ôl i America o 1879 tan 1892. NLW Facs 841.
     
  • Llungopi o gopi teipysgrif o gyfieithiad Saesneg Tryfan Hughes Cadfan o bapur (yn Sbaeneg) gan Aquiles D. Ygobone, Prifysgol Buenos Aires, yn dwyn y teitl 'The Colonizing Feat of the Welsh People in Patagonia'. NLW Facs 843. E.
     
  • Llungopïau o lawysgrifau Cymraeg yn llaw John Daniel Evans (1862-1943), Patagonia, yn cynnwys manylion yn ymwneud â'r gwladychwyr Cymreig a gymerodd ran yn y cyrch i odre'r Andes ym 1885 dan arweiniad Luiz Jorge Fontana; ei ddyddiadur am 1888 yn disgrifio'i ail daith i'r berfeddwlad gyda Luiz Fontana a Chymry eraill, ynghyd â nodiadau hunangofiannol (gw. John Daniel Evans El Molinero, Esquel, Chubut, Argentina, 1994). NLW Facs 844. C, E.
     
  • Llungopïau o bum dogfen, 1881-93, yn ymwneud â'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia, yn cynnwys tystysgrif priodas, trwydded, a rhestr o rhai o drigolion bwrdeistref y Gaiman. NLW Facs 855. E.
     
  • Llungopi o Passenger's Contract Ticket, 15 Mai 1865, y Parch. Abraham Matthews a'i deulu, a hwyliodd o Lerpwl i New Bay, Patagonia, ar fwrdd y 'Mimosa'. NLW Facs 856. E.
     
  • Llungopi o dderbyneb, 16 Rhagfyr 1865, am bunt, wedi ei harwyddo gan Thomas Ellis ar ran y Wladychfa Gymreig ym Mhatagonia. NLW Facs 856. C.
     
  • Llungopi o bregethau, 1869-76, a draddodwyd yn eglwysi Bangor a Dwygyfylchi gan y Parch. Hugh Davies ('Hywel Ddu o Arfon', m. 1909), a ymfudodd i Batagonia yn 1883 lle bu'n Gaplan yn nhrefedigaeth Chubut. NLW Facs 873. C.
     
  • Llungopi o ddyddiadur Robert Llywelyn Davies, Bryn y Neuadd, Dolavon, Chubut, (g. 1878), mab y Parch. Hugh Davies, Tach. 1909 - Medi 1910. NLW Facs 874. C.
     
  • Llungopïau yn cynnwys erthygl 'Mynwent Rawson' gan R J Berwyn (1863-1917) ar gyfer Y Drafod, tystysgrif geni, 1912, yn Sbaeneg, y plentyn cyntaf a anwyd yn y Wladfa yn 1865 yn dwyn llofnod 'RJB'; a dau lythyr, 1912 a heb ddyddiad, oddi wrth R J Berwyn at aelodau o'i deulu. NLW Facs 876.
     
  • Llungopïau o lythyrau, 1995-96, a anfonwyd gan Glenys Goossens, Canada, at berthnasau yn Abergele yn rhoi gwybodaeth achyddol am ei thad William Edward Thomas (1895-1995), ŵyr i Robert a Catherine Davies, Llandrillo, a ymfudodd i Batagonia ar y 'Mimosa' yn 1865; ynghyd â llungopïau a chyfieithiadau o erthyglau, llythyrau, etc., yn ymwneud â chorff a ddarganfuwyd ar draeth Porth Madryn yn 1995 a'r ymgais i geisio profi mai corff Catherine Davies ydoedd. NLW Facs 898.
     
  • Llungopi o hunangofiant John Coslett Thomas (1863-1936), ganwyd yn Nhredegar, ymfudodd gyda'i deulu i Chubut, Patagonia, ym 1875, ac i Fangor, Saskatchewan, Canada, ym 1905, gan sefydlu, tua 1920, yn Los Angeles; ynghyd â chart achau cangen Canada o'r teulu o'r ddeunawfed ganrif hyd heddiw. NLW Facs 919. C.
     
  • Llungopïau o 'Ychydig am y Wladfa Gymreig yn Patagonia' sef hanes [?Edward Cox] a aeth i'r Wladfa yn 1886 yn bedair ar ddeg mlwydd oed ar y llong Mozart o Lerpwl gyda'i chwaer hŷn. Yr oedd Llwyd ap Iwan ymhlith ei gyd-deithwyr. Dychwelodd i Gymru yn 1896. Cyhoeddwyd y gwaith yn Yr Arwydd, papur bro gogledd-ddwyrain Sir Fôn, Mawrth, Mai, Gorffennaf, Medi a Hydref 1995. NLW Facs 944. C.
     
  • 86 taflen o emynau angladdau, 1936-81, o Batagonia. NLW ex 482. C, S.
     
  • Gwybodaeth am ddisgynyddion yr ymfudwyr Cymreig a symudodd o Chubut, yr Ariannin, i Awstralia, 20fed ganrif. NLW ex 502. E.
     
  • Copïau o erthyglau gan D. Elvet Price, Sgeti, Abertawe, yn dwyn y teitl 'The Welsh Settlers in the Chubut Valley of Patagonia' a 'Patagonian Relatives', yr ail yn ymwneud â'i hen ewythr, David Davies, a ymfudodd i Batagonia ym 1875. NLW ex 778. E.
     
  • Adysgrifiadau a chyfieithiadau o 37 tâp o sgyrsiau a defnyddiau eraill yn ymwneud yn bennaf ag ymfudo i Batagonia a Chanada, a recordiwyd yn 1974 gan Mrs Glenys James. Mae'r tapiau nawr yn rhan o gasgliadau Canolfan Astudiaethau Diwylliannol Canada, ond cedwir copïau o'r tapiau ar gaset yn Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru (CM151-176). NLW ex 894.
     
  • Adroddiad byr gan David H. Rees, Winnipeg, Canada, ar fywyd ei rieni ym Mhatagonia, 1978. NLW ex 916. E.
     
  • Llungopïau o bedwar rhifyn o Y Rhidyll, 1899, papur dychanol o'r Wladfa, Patagonia. NLW ex 933. C.
     
  • Copi o The Text of the Book of Llan Dâv Reproduced from the Gwysaney Manuscript...(Rhydychen, 1893), a gyflwynwyd yn wreiddiol i Eluned Morgan gan y Prifathro Ellis Edwards, ac yna gan Eluned Morgan i Syr William Llewelyn Davies. Mae llythyr Eluned Morgan at Syr William yn amgaeëdig. NLW ex 1117. Lladin, E.C.
     
  • Copi o gylchlythyr newyddion o'r Wladfa, Mai 1989; copïau o lythyr printiedig yn Gymraeg, 1950, anfonwyd ar ran Ysgol Ganolraddol y Gaiman, 1950, at gyn-ddisgyblion yr ysgol, parthed tysteb i'w chyflwyno i E. T. Edmunds, athro yn yr ysgol am dros ddeng mlynedd ar hugain. NLW ex 1130. C.
     
  • Cerddi teyrnged i wlad ei hynafiaid gan Azucena Penelli Bianchi, Archentwraig o dras Cymreig. NLW ex 1226. S.
     
  • Catalog o gynnwys llyfrgelloedd Eluned Morgan, Arthur Hughes (mab Gwyneth Vaughan) ac Irma Hughes de Jones ym Mhatagonia. NLW MS ex 1295-6, NLW ex 1304. C.
     
  • Copi o Taliesin 38 (1979), yn cynnwys erthygl Thomas Parry ar Arthur Hughes (1878-1965), Patagonia, gyda sylwadau gan William Andreas Jones, ewythr Arthur Hughes, ynghyd â dau lythyr perthnasol, 1980, gan Thomas Parry at William Andreas Jones a thorion perthynol o'r wasg. NLW ex 1319. C.
     
  • Rhestr deipysgrif o ffermydd a'u trigolion yn y Wladychfa Gymreig ym Mhatagonia. NLW ex 1560. C.
     
  • Copi teipysgrif o erthygl heb ei chyhoeddi yn Sbaeneg gan Fernando R. Coronato, yn dwyn y teitl 'El Emplazamiento Primitivo De Puerto Madryn', sy'n ymwneud â glaniad y carfan gyntaf o wladfawyr Cymreig ar fwrdd y Mimosa ym Mhorth Madryn, Patagonia, yn 1865. NLW ex 1705. S.
     
  • Adysgrif deipysgrif gan Marian Elias Roberts o ddyddiaduron William T Williams, Y Gaiman, Chubut, (1889-97 gyda bylchau), yn disgrifio teithiau ymchwil yng ngodre'r Andes (gweler NLW MSS 23551-8); ynghyd ag adysgrif o ddau ddyddiadur tebyg (a ddychwelwyd at Fred Green, Chubut) am y cyfnod 8-26 Medi, 16 Hydref-21 Tachwedd 1889, a 27 Tachwedd 1889-4 Chwefror 1890. NLW ex 1775.
     
  • Papurau, 1965-71, yn ymwneud yn bennaf â chynnal Charles a Mary, plant Fred Green, Trefelin, Patagonia, a ddaeth i Ysgol Uwchradd Tregaron i gwblhau eu haddysg mewn awyrgylch Gymreig; gan gynnwys llythyrau oddi wrth Gareth Alban Davies, Fred Green, R. E. Griffith, John Henry Jones, Yr Arglwydd Elystan Morgan ac R. Bryn Williams. NLW ex 1916.
     
  • Llungopi o gyfieithiad i'r Gymraeg, mewn llawysgrif yn bennaf, gan Eryl McDonald de Hughes o'r nofel El Evangelio y Don Eduardo (Buenos Aires, 1991) o waith Roy Centeno Humphreys, a chyfieithiad Saesneg, 'Go Patagonia, said Edwin' ganddo o'i nofel Go Patagonia, dijo Edwin (Argentina, 1993), y ddwy ohonynt yn ymwneud â gwladychu Dyffryn Chubut gan y Cymry ac yn weithiau a ddyfarnwyd o Ddiddordeb Diwylliannol Cenedlaethol gan Lywodraeth yr Ariannin yn 1996; ynghyd â curriculum vitae Roy Centeno Humphreys a llungopïau o bapurau ymchwil, yn cynnwys llythyrau at Edward Humphreys, nodiadau achyddol, ac adolygiadau o'r nofelau, gan fwyaf yn Sbaeneg. Mae'r awdur yn or-ŵyr i Elizabeth a Morris Humphreys a aeth i Batagonia ar y 'Mimosa' yn 1865. NLW ex 1923. C, E, S.
     
  • Copi o waith Richard F. Hughes ar hanes ei deulu, yn olrhain plant John ac Ellen Hughes (y ddau wedi eu geni ym 1842), Llanfechell, Ynys Môn, yn eu plith Annie Hughes (1873-1950), a ymfudodd i Batagonia, ac Ishmael Hughes a ymfudodd i Pittsburg, Pennsylvania, ym 1888. NLW ex 2018. E.
     
  • Dau lyfr lloffion yn cynnwys llythyron, ffotograffau, damau o farddoniaeth, tystysgrifau geni, a thorion o'r wasg, 1913-86, wedi'u pastio yn y cyfrolau, yn ymwneud ag Elias Garmon Owen, Gaiman, Chubut, Patagonia (1892- 1986). NLW ex 2021. C.
     
  • Copi o draethawd Maria Teresa Agozzino, 'Transplanted Traditions: An Assessment and Analysis of Welsh Folklore in Patagonia' (Prifysgol California, Berkeley, 1999). NLW ex 2045. E.
     
  • Papurau yn ymwneud ag ymweliad â Phatagonia yn ystod dathlu canmlwyddiant y Wladfa, 1965. NLW ex 2155. C.
     
  • Papurau amrywiol, 1841-1924, a fu'n eiddo i Jonathan Ceredig Davies (1859-1932), achyddwr, cenhadwr a yn cynnwys llythyrau a gwahoddiadau, pasport, lluniau, torion o'r wasg, llythyr bidio a thysteb i Ceredig Davies a ysgrifenwyd yn Nhrelew, Patagonia, 1891. (Trosglwyddiad Tachwedd 2002). NLW ex 2179.
     
  • Tystysgrif cyfranddaliadau yng nghwmni cydweithredol dyfrhau Y Gaiman, Chubut, Patagonia, yn enw Aaron Jenkins, 5 Medi 1934. NLW ex 2223.
     
  • Copi o 'Cytundeb a arwyddwyd ar y pumed ar hugain o Fawrth, 1863, rhwng Love Jones-Parry a Lewis Jones fel dirprwywyr Pwyllgor Cymdeithas y Wladychfa Gymreig yn Lerpwl, a Dr W. Rawson, Gweinidog Cartref Ariannin'. NLW ex 2764. S.
     
  • Cyflwyniad i John D. Williams ar ei ymadawiad â'r Wladychfa Gymreig ym Mhatagonia, 1919. NLW Rolls 56. C.
     
  • Gwregys gweuedig, efallai un a ddygwyd yn ôl o Batagonia gan Mr Davis o Aberystwyth. NLW Rolls 296.
     
  • Gohebiaeth ac adroddiadau, 1871-1902, parthed y Wladychfa Gymreig yn Chubut (PRO ADM 147/1). NLW ffilm 889. E.
     
  • Crew and Agreement List ar gyfer y Mimosa, 1865 (PRO BT 99/230). NLW ffilm 890. E.