Symud i'r prif gynnwys

Llyfryddiaeth Robert Owen, 1771-1858

Darllenwch lyfryddiaeth Robert Owen (pdf) , a gasglwyd gan Wyn Thomas

Rhagarweiniad

Bu cyfraniad Robert Owen i syniadaeth wleidyddol a chymdeithasol yn un sylweddol, a chafodd ddylanwad mewn gwledydd tu hwnt i’r Deyrnas Gyfunol. Mae ei gysylltiad â’r Taleithiau Unedig yn hysbys oherwydd y gymuned a sefydlodd yn New Harmony a thrwy waith ei feibion a arhosodd yn America. Cyfieithiwyd ei waith ysgrifenedig i nifer o ieithoedd a chafodd ei syniadau fynegiant mewn gwledydd megis Japan.

Ganwyd ef yn y Drenewydd, Sir Drefaldwyn a symudodd yn fuan yn ei oes i Stamford (Linc.), Llundain, Manceinion ac yn ddiweddarach i New Lanark. Dichon ei fod yn enwocach am ei gysylltiad â New Lanark, lle datblygodd arbrawf cymdeithasol David Dale (1791-1865), ac ymdrechodd i sefydlu pentref a sefydliad cydweithredol y gweithwyr. 

Defnyddiodd ei gyfoeth i hybu ei syniadau, syniadau y gellir eu disgrifio fel sosialaeth arloesol. Ymddiddorai mewn nifer o feysydd, megis economeg ac amodau ac amgylchiadau gweithio, yn ogystal â chrefydd a gwleidyddiaeth. Yn naturiol iawn denodd ei syniadau gryn dipyn o sylw. Roedd nifer yn gefnogol iddo, ond eraill yn gwbl wrthwynebus. Taenwyd ei syniadau trwy gyfryngau amlwg ei gyfnod gan gynnwys pamffledi, cylchgronau, taflenni a darlithiau cyhoeddus.

Rhestrwyd gweithiau Robert Owen mewn nifer o lyfryddiaethau. O’r rhain gellir ystyried A bibliography of Robert Owen, the socialist 1771-1858 (cyhoeddwyd gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru arg, cyntaf, 1914, ail arg. 1925) a J. F. C. Harrison’s Robert Owen and the Owenites in Britain and America: the quest for the New Moral world. (Aldershot: Gregg Revivals, 1969) fel rhai safonol. Gwnaethpwyd defnydd helaeth o’r gweithiau hyn wrth ddarparu’r llyfryddiaeth hon, ynghyd â nifer o ffynonellau eraill a nodir yn y llyfryddiaeth isod.

Wrth arolygu ac ychwanegu at gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru o weithiau Robert Owen, daethpwyd o hyd i argraffiad a fersiynau o’i weithiau nad oeddynt wedi eu cynnwys yn y llyfryddiaethau safonol o’i waith. Nod y llyfryddiaeth hon yw adeiladu ar y seiliau sylweddol a grëwyd eisoes yn y llyfryddiaethau a nodwyd uchod, gan ychwanegu manylion am y gweithiau a ddaeth i’r amlwg ar ôl cyhoeddi’r llyfryddiaethau hynny. Y nod yw creu rhestr sydd mor gyflawn â phosib, ond ni ellir honni mai hon yw’r rhestr derfynol a chyflawn; amcan y llyfryddiaeth hon yw cyfrannu at astudiaeth o fywyd a gwaith Robert Owen.

Rhestrwyd y cofnodion yn nhrefn dyddiad cyhoeddi gan nodi’r gwahanol argraffiadau ac adargraffiadau o dan y teitl perthnasol. Rhestrir y cylchgronau ar wahân ar ddiwedd y llyfryddiaeth. Os cofnodwyd argraffiad yn NUC, Harrison neu yn llyfryddiaeth Llyfrgell Genedlaethol Cymru (NLW) nodir y ffaith yn y nodiadau ar ddiwedd y cofnod. Daw’r cyfeiriadau at NLW o’r ail argraffiad o’r llyfryddiaeth a gyhoeddwyd ym 1925. Hoffwn gydnabod caredigrwydd yr Athro John S. North o Brifysgol Waterloo, Canada am ei ganiatâd i ddefnyddio manylion am y cylchgronau sy’n gysylltiedig â Robert Owen. Ni fuasai darparu’r llyfryddiaeth hon wedi bod yn bosib heb gydweithrediad a chymorth fy nghyd-weithwyr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac yn enwedig cymorth Dr Huw Walters. Myfi yn unig sy’n gyfrifol am unrhyw wendidau sy’n perthyn i’r llyfryddiaeth.

Wyn Thomas

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Ionawr 2007

Ffynonellau

  • A bibliography of Robert Owen, the socialist 1771-1858. Aberystwyth: National Library of Wales, 19141, 19252.
  • Harrison, J. F. C.: Robert Owen and the Owenites in Britain and America: the quest for the New Moral world. Aldershot: Gregg Revivals, 1969.
  • Hoornstra, Jean: American periodicals, 1741-1900: an index to the microfilm collection... Ann Arbor, Mich.:  University Microfilms International, 1979.
  • Hudson, Frederic: Journalism in the United States, from 1690 to 1872. London : Routledge/Thoemmes Press, 1873 Facsim. reprint of the ed. first published: New York : Harper & Brothers, 1873.
  • Lomazow, Steven, M. D.: American periodicals: a collector's manual and reference guide. an annotated catalog of a collection.

      West Orange, N.J. : S. Lomazow, 1996.

      xii, 599 p. : ill. ; 29 cm.
      0965027902

  • Mott, Frank Luther:  A history of American magazines: vol. 1: 1741-1850.

      Cambridge, Mass.: Harvard University Press [1930-68].

  • National union catalog: books: pre-1956 imprints. London: Mansell, 1968-1981.
  • Stammhammer, Josef: Bibliographie des Sozialismus und Kommunismus, Bd. I-III,[2] Jena (1893-1909)
  • The Waterloo directory of English newspapers and periodicals, 1800-1900 : (series 2 in 20 volumes); edited by John S. North and Brent Nelson. Waterloo, Ont.: North Waterloo Academic Press, 2003.

Yn ogystal a’r gweithiau hyn gwnaethpwyd defnydd o gatalogau cyhoeddus arlein Llyfrgell y Gyngres, y Llyfrgell Brydeinig a llyfrgelloedd cenedlaethol Ffrainc, Yr Eidal, Yr Iwerddon, Yr Alban, Sbaen a Japan ynghyd a llyfrgelloedd Prifysgol Rhydychen, Caergrawnt a’r Karlsruhe Virtueller Katalog, Prifysgol Karlsruhe.

Talfyriadau

Harrison    Harrison, J. F. C.: Robert Owen and the Owenites in Britain and           

                 America: the quest for the New Moral world.

NLW          A bibliography of Robert Owen, the socialist 1771-1858. 2nd edition.

NUC          National union catalog: books: pre-1956 imprints.