Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Nid yw'r gwasanaeth Corneli Clip ar gael ar hyn o bryd oherwydd problemau technegol. Rydym yn gweithio i ddatrys y rhain mor fuan â phosib. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Mae'n bosib na fyddwn ni'n gallu cyrchu ein holl ddeunydd archifol yn ystod yr wythnosau nesaf. Os fyddwch chi'n ymweld yn ystod y cyfnod hwn, gofynnwn i chi archebu unrhyw ddeunydd archifol cyn gynted â phosib os gwelwch yn dda. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
1. Llinell gyntaf
Safonir yr orgraff a'r atalnodi ac eithrio lle mae'r gynghanedd neu'r odl yn dibynnu ar hen orgraff. Dilynir y dull a geir mewn golygiadau diweddar o waith beirdd canoloesol, e.e. Gwaith Dafydd ap Gwilym. Nid yw'r cyfrifiadur yn ystyried atalnodi wrth wneud ymholiadau.
Os yw llinell gyntaf y gerdd ar goll fe nodir y llinell gyntaf sydd ar glawr gan roi'r arwydd % o'i blaen. Fel arfer fe gymerir y llinell gyntaf sydd ar glawr ac ynddi o leiaf ddau air.
2. Llinell olaf
Safonir yn yr un modd â'r llinell gyntaf ac os yw llinell olaf y gerdd yn amlwg yn eisiau, nodir y llinell olaf sydd ar glawr gan roi'r arwydd // ar ei hôl. Ni chynhwysir y llinell olaf ar gyfer englynion, penillion unigol na chwpledi.
3. Teitl
Bydd y maes hwn yn wag yn aml. Mae teitlau fel arfer wedi'u creu gan gopïwyr neu olygyddion. Yn y Mynegai, os nad yw'r wybodaeth sydd yn y teitl yn fwy na'r hyn sy'n syrthio'n rhwydd i feysydd eraill, ni wneir cofnod yn y maes hwn. Er enghraifft, yn achos teitl 'Cywydd gofyn march gan Syr Robert Vaughan' fe geir 'cywydd', 'gofyn', 'march' a 'Syr Robert Vaughan' ym meysydd 5, 6 a 7. Defnyddir maes y teitl pan nad oes modd dynodi'r wybodaeth trwy gofnod syml mewn meysydd eraill, e.e. 'Cywydd pan oedd y bardd yn glaf', 'Cywydd yn gofyn chwech o ychen gan chwe gwr', `Moliant i feibion Siôn Salsbri'. Ni lynir wrth union ffurf y teitl yn y llawysgrif; caiff ei aralleirio neu'i gwtogi. Defnyddir yr arwydd @ pan fo'r teitl yn cynnwys mwy o wybodaeth nag y gellir ei chynnwys (e.e. fe geir weithiau stori fechan yn rhagymadrodd i gerdd, i englynion yn enwedig).
4. Enw'r bardd
Safonir ffurf yr enw. Os priodolir cerdd i fwy nag un bardd fe gynhwysir pob enw, hyd yn oed pan fo'r priodoli'n amlwg wallus. Nid swyddogaeth y Mynegai yw cynnig barn. Pan ddigwydd cerdd yn ddienw, cofnodir 'DIENW' yn y maes.
Yn achos cerdd a briodolir i fardd (neu feirdd) mewn un ffynhonnell (neu ragor) a'i chofnodi'n ddienw mewn man arall, nid oes modd defnyddio'r Mynegai i ddarganfod ym mha lawysgrif (neu lawysgrifau) y priodolir cerdd i fardd arbennig na ble mae'n ddienw.
5. Mesur
Bydd y maes hwn yn wag weithiau o fethu rhoi enw wrth fesur, ond nid yn aml. Dyma'r prif ddosbarthiadau:
ENGLYN PENNILL AWDL
CYWYDD CWPLED RHYDD
CYFRES O ENGLYNION (a rhif i ddynodi'r nifer)
Mae'r is-ddosbarthiadau canlynol yn cael eu dynodi dan RHYDD:
CAROL CWPLED
TRIBAN CAROL DEUAIR
TRI THRAWIAD MESUR CLIDRO
PENNILL TELYN
Pan fo enw tôn ('mesur') ar gyfer cerdd rydd fe gynhwysir enw'r dôn gyda'r arwydd # o'i flaen, e.e. #Crimson Velvet
6. Math
Yn amlach na pheidio bydd nodyn yn y maes hwn pan fydd modd disgrifio swyddogaeth neu genre cerdd; yn aml fe gynhwysir mwy nag un term. Rhoddir yr arwydd + ar ôl gofyn, diolch, a llatai pan fo'r bardd yn gweithredu ar ran rhywun arall.
Dyma restr o dermau a ddefnyddiwyd:
ACHAU CAROL MAI CYSUR GOFYN PEN-BLWYDD
AMDDIFFYN CAROL NADOLIG CYTUNDEB GWAHODD POS
ANGHYDFOD CAROL PASG CHWEDL GORCHEST PRIODAS
ANNOG CAROL PLYGAIN DAROGAN GWEDDI PROFIAD
ANTERLIWT CARU DIARHEBOL GWIROD PROFFWYDOLIAETH
ATHROD CELLWAIR DIGWYDDIAD GWRTHOD PROTEST
ARWYDDAIR CERYDD DIRWESTOL HALSINGOD RHYBUDD
ATEB CLERA DIOLCH HENEIDDIO SERCH
BEDYDD COFFA DOETHINEB HANES SIOM
BEDDARGRAFF CREFYDDOL DYCHAN HIRAETH STORI
BENDITH CROESO DYCHYMYG IACHAU TAFARN
BREUDDWYD CWYN DYFALU LLATAI TEITHIO
BRUD CYFADDEFIAD EDIFEIRWCH LLWYDDIANT YMDDIDDAN
BUCHEDD CYFARCH EMYN MARWNAD YMFFROST
BYGYTHIAD CYFIEITHIAD EPIGRAM MASWEDD YMSON
CANMOL CYFFES FFARWEL MAWL
CAROL CLWB CYNGOR FFOLANT MOES
CAROL HAF CYMOD GENEDIGAETH NATUR
Pwnc
Dosrennir yr wybodaeth yn y maes hwn yn bedwar o is-feysydd: enwau personol, enwau lleoedd, dyddiadau, a phynciau eraill.
7. Enwau Personol
Cynhwysir enw neu enwau gwrthrych cerdd gan roi * o flaen yr enw(au). Cynhwysir tair cenhedlaeth ym mhob enw os oes modd, ond dim mwy, e.e. Rhys ap Gruffydd ap Dafydd.
Rhoddir yr arwydd / o flaen unrhyw ddisgrifiad ychwanegol, e.e. Rhys Cyffin/Deon Bangor. Nodir galwedigaeth sy'n gysylltiedig ag enw'r gwrthrych, e.e. clerigwr, abades, bardd, gof, telynor, mewn cromfachau ar ôl yr enw. Ni chynhwysir yma enwau pobl na ellir eu hadnabod; weithiau corfforir hwy ym maes y teitl. Lle mae merch yn wrthrych cerdd cynhwysir enw ei gwr os oes modd. Yn achos cerddi ymryson cynhwysir enw'r ymrysonwr arall yma gan roi * o'i flaen. Yn achos cerddi serch ni nodir merch yn wrthrych, nac ychwaith Duw yn achos cerddi crefyddol. Cynhwysir enwau fel Morfudd, Dyddgu, Gwerful, Euron.
8. Enwau lleoedd
Cynhwysir enwau cartref(i) y gwrthrych(au) yn ogystal â phlwyfi clerigwyr, gan roi * o flaen yr enw(au). Dibynnir yn aml ar deitl mewn llawysgrif neu ar air golygydd am wybodaeth o'r natur hon. Cynhwysir enwau dethol eraill sy'n cael eu crybwyll lle bo sylwedd yn y cyfeiriad.
9. Dyddiad
Cynhwysir dyddiad os rhoddir un penodol e.e. dyddiad priodas, marwolaeth neu frwydr. Tynnir dyddiadau o dystiolaeth fewnol yn y gerdd, o'i theitl neu o wybodaeth a geir mewn golygiad. Mae'n dilyn mai cyfran fechan o gerddi fydd yn ddyddiedig.
10. Pynciau Eraill
Cynhwysir termau penodol pan fônt yn destun cerdd, e.e. bedwen, derwen, pais, syrcyn, yn hytrach na'r enwau torfol coed, dillad. Cynhwysir hefyd enwau haniaethol megis afiechyd, brwydr, carchariad; mae rhestr o'r termau a ddefnyddiwyd ar gael.
11. Ffynonellau print
Cynhwysir yn y maes hwn gyfeiriadau at destunau printiedig safonol Lle bo dewis o destunau, cyfeirir at yr un diweddaraf ond cynhwysir cyfeiriadau at ragor nag un ffynhonnell brintiedig os gwelir rheswm dros wneud hynny. Seilir y byrfoddau ar rai Geiriadur Prifysgol Cymru.
12. Ffynonellau llawysgrif
Cynhwysir yma gyfeiriadau at bob llawysgrif sy'n cynnwys copi o'r gerdd yn ogystal â rhif dalen neu dudalen, yn ôl dull rhifo'r llawysgrif. Mae rhestr o'r byrfoddau a ddefnyddiwyd ar gael.