Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Y mae rheoliadau a gyflwynwyd yn Ebrill 2013 yn rhoi hawl i Lyfrgell Genedlaethol Cymru a llyfrgelloedd hawlfraint eraill y DU gasglu, storio a chadw cof y genedl yn yr oes ddigidol. Y mae'r deunydd hwn yn cynnwys erthyglau ar-lein, e-lyfrau a gwefannau.
Wedi Ebrill 2013, daeth swmp sylweddol o ddeunydd electronig ar gael, yn cynnwys erthyglau o gylchgronau, gwefannau o archif gwefannau parth y DU, ac erthyglau/penodau allan o e-lyfrau ac e-gylchgronau.
Nid yw’r math yma o ddeunydd ar gael yn syth gan fod casglu a phrosesu’n cymryd peth amser. Bydd LLGC yn ceisio sicrhau mynediad i ddeunydd adnau cyfreithiol di-brint cyn gynted â phosibl. Fel arfer bydd yn cymryd naw mis i gasglu a threfnu holl wefannau parth y DU.
Mae’r ddeddfwriaeth hefyd yn cynnwys deunydd y cyfryngau cymdeithasol fel Twitter a Facebook, sy’n golygu fod gan y llyfrgelloedd adnau cyfreithiol yr hawl i’w casglu.
Nid yw hyn yn cynnwys:
Pwy: Y mae mynediad i ddeunydd adnau cyfreithiol di-brint ar gael i ddarllenwyr cofrestredig ystafelloedd darllen llyfrgelloedd adnau cyfreithiol y DU ac Iwerddon yn unig. Y mae’r adnodd hwn bellach ar gael i unrhyw un ar gyfrifiaduron penodol ystafell ddarllen LLGC yng Nghaerdydd. Nid oes mynediad o gartref nac ar liniadur.
Ble: Ar gyfrifiaduron penodol LLGC yn ystafell ddarllen LLGC yng Nghaerdydd. Nid oes mynediad i’r deunydd hwn o gartref na chwaith ar eich gliniadur eich hun ar dir Llyfrgell Prifysgol Caerdydd nac yn unman arall ym Mhrifysgol Caerdydd.
Sut: Trwy ddefnyddio’r cyfleusterau chwilio ar gyfrifiaduron penodol yn hwb LLGC. Ceir rhyngwyneb penodol ar gyfer mynediad i Archif Gwefannau Adnau Cyfreithiol y DU.
Un person ar y tro sy’n gallu cael mynediad i eitem benodol, a does dim cyfyngder amser (o fewn y diwrnod). Does dim system giwio ar gyfer mynediad.
Nid oes cyfyngiad ar y nifer o eitemau adnau cyfreithiol di-brint y ceir mynediad iddynt mewn diwrnod.
Mae casglu a phrosesu’r cyfan oddi ar barth y DU yn gallu cymryd sawl mis. Fel deunyddiau eraill adnau cyfreithiol, ceir mynediad i’r deunydd hwn yn ystafelloedd darllen y llyfrgelloedd adnau cyfreithiol trwy borth archif gwefannau diogel, ac unwaith eto mae’r cyfleusterau hyn ar gael i bawb yn ystafell ddarllen LLGC yng Nghaerdydd.
Gallwch, fe ganiateir printio deunydd. Gall staff eich cynghori ar faint o brintio sy’n gyfreithlon. Mae’n rhaid i bawb sy’n chwilio mynediad dderbyn y telerau ac amodau perthnasol i’r defnydd a wneir o’r deunydd gan gynnwys rheoliadau hawlfraint sy’n ymwneud â phrintio.
Bydd printio yn cael ei fonitro i sicrhau nad oes unrhyw unrhyw ddefnydd sy’n groes i’r rheoliadau hawlfraint.
Na, nid yw’r rheoliadau yn caniatáu lawrlwytho o unrhyw fath.
Na, nid yw’r rheoliadau yn caniatáu defnyddio camerâu, o unrhyw fath, i wneud copïau o ddeunydd adnau cyfreithiol di-brint.
Cewch ragor o wybodaeth trwy gysylltu â: gofyn@llgc.org.uk