Symud i'r prif gynnwys

Mae’r gofod darganfod hwn, sydd wedi’i leoli o fewn Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd, yn ddatblygiad cyffrous i Lyfrgell Genedlaethol Cymru (LLGC).

Mae hefyd yn ddatblgyiad cyffrous i bobl Caerdydd a’r cyffuniau sydd am fynediad rhwydd i gyfoeth o ddeunydd digidol sydd ar hyn o bryd ond ar gael yn ein Hystafell Ddarllen yn Aberystwyth.

Mae deunydd anhygoel o’n harchif genedlaethol sgrin a sain wedi eu cynnwys, gallwch wylio dros chwe chant o ffilmiau o ‘r casgliad, edrych  drwy gannoedd o raglenni archif ITV a gwylio rhaglenni Cymreig sydd wedi eu darlledu ar brif sianelau  teledu a radio Prydain.

Mae’r  ardal hon yn ofod y Llyfrgell Genedlaethol ac rydym yn eich croesawu yma i fwynhau ein casgliadau.

Mwy o wybodaeth am y cytundeb cydweithredu hanesyddol rhwng LLGC a Phrifysgol Caerdydd.