Symud i'r prif gynnwys

(O'r Adroddiad ar gynllun Newsplan yng Nghymru, 1994)

Datblygiad y Wasg Newyddiadurol

Cyn dyfodiad argraffu - ac nid cyn 1718 y gwelwyd y wasg argraffu gyntaf yng Nghymru - rhaid dyfalu bod y Cymro cyffredin yn gorfod dibynnu am ei "newyddion" ar dameidiau o wybodaeth a glywai yn sgwrs ei gyd-weithwyr yn y maes ac yn y dafarn, ar straeon a adroddid gan filwyr, morwyr, porthmyn a theithwyr eraill, ar ambell bregeth, ac ar sôn a siarad yn gyffredinol.

Weithiau fe ddethlid rhyw ddigwyddiad pwysig neu gyffrous mewn cerdd. Ceir er enghraifft gerdd Gymraeg syml sy'n llawenhau yng nghwymp Babington a'i gyd-gynllwynwyr a roddodd eu bryd ar lofruddio'r Frenhines Elisabeth yn 1586. Dathlwyd cyfeithu'r Beibl i'r Gymraeg yn 1588 hefyd mewn cerdd boblogaidd, a cheir yr un awdur yn diolch ar gân am wasgariad Armada Sbaen yn yr un flwyddyn. Cofnodir methiant Brad y Powdwr Gwn yn yr un modd, tra canodd Rhys Prichard, yr "Hen Ficer", gân i ddiolch i Dduw am ddychweliad diogel Tywysog Cymru - Siarl I yn ddiweddarach - o Sbaen lle bu'n caru merch y Brenin yno yn 1623. Daeth cerddi o'r fath i'r golwg yn raddol tua diwedd cyfnod y Tuduriaid, oherwydd bod yr hen draddodiad canu caeth yn gwanychu erbyn hynny, a gwaith beirdd llai yn dod i'r amlwg ac yn cael ei gofnodi yn llawysgrifau'r cyfnod. Y mae'n rhesymol tybio bod cerddi syml am ddigwyddiadau'r dydd wedi bodoli ochr yn ochr â'r traddodiad barddol swyddogol bob amser, ac wedi cyfrannu at ledaeniad newyddion ymhlith y bobl gyffredin, er i hynny fod ar lefel leol a chyfyngedig.

Yn 1680 y gwelwyd am y tro cyntaf yng Nghymru gais i ledaenu gwybodaeth a newyddion drwy gyfrwng argraffu, pan gyhoeddodd Thomas Jones o Gorwen, a aeth i Lundain yn 18 oed, y cyntaf o'i ddeuddeg almanac ar hugain blynyddol. Seiliwyd hwy ar y digonedd o gyhoeddiadau tebyg a oedd yn gyfarwydd yn Llundain, ond gosododd Thomas Jones hwynt mewn cyd-destun cyfan gwbl Gymraeg, a rhoddodd iddynt gymeriad unigryw. Gan amlaf cynhwysent galendr cyfredol, awgrymiadau cyffredinol mewn perthynas ag amaethyddiaeth a materion meddygol, hysbysrwydd am ffeiriau ac amrywiol eisteddfodau, rhestri o leoedd a phobl nodedig, dyddiadau digwyddiadau o bwys er dechrau'r byd, serddewiniaeth, darogan, a phynciau amrywiol eraill. Cynhwysai'r almanaciau Cymreig hefyd ddeunydd llenyddol fel carolau a baledi, ac weithiau gyfarwyddiadau i'r rhai a ddymunai feistroli'r mesurau caeth. Nid yw'n syndod mai'r cyhoeddiadau bychain rhad hyn, yn eu cloriau papur, ac yn cynnwys rhyw 48 tudalen, a gynhyrchwyd gan Thomas Jones, ac yn ddiweddarach gan ei ddilynwyr, oedd y cyhoeddiadau Cymraeg mwyaf poblogaidd o ddigon yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif.

Ar wahân i'w waith arloesol fel almanaciwr, gellir yn deg alw Thomas Jones yn dad y papur newydd Cymraeg, oherwydd y mae cyfeiriadau yn ei almanaciau am 1691 a 1692 at daflen newyddion Gymraeg a gynhyrchwyd ganddo ar gyfer y farchnad Gymraeg. Fodd bynnag, ni bu'r fenter yn llwyddiannus, ac hyd y gwyddys, nid oes yr un copi o'r hyn y mae'n rhaid ei alw yn "bapur newydd Cymraeg cyntaf" wedi goroesi.

Baledi Printiedig

Penderfyniad y Llywodraeth yn 1698 i beidio ag adnewyddu'r Deddfau Trwyddedu, a oedd hyd yma wedi cyfyngu argraffu i rai canolfannau penodol, a'i gwnaeth yn bosib i Thomas Jones symud o Lundain i Amwythig, a'i ddwyn yn nes at ei ddarllenwyr Cymraeg fel canlyniad. Sylwodd eraill ar boblogrwydd mawr y deunydd a ddarperid ganddo, a chyn bo hir yr oedd argraffwyr Amwythig yn cynhyrchu, yn ogystal ag almanaciau, ugeiniau lawer o bamffledi wyth tudalen, yn cynnwys dwy neu dair baled, gan amlaf ar amrywiol bynciau, ond â'r pwyslais yn gyffredinol ar ddigwyddiadau'r dydd a rhyfeddodau. Y baledi hyn, a luniwyd i raddau helaeth gan y crwydriaid a'u canai ac a'u gwerthai yn y ffeiriau, y marchnadoedd, ac ar y strydoedd led-led y wlad, oedd y deunydd mwyaf poblogaidd o ddigon a ddaeth allan o Amwythig, canolfan argraffu Cymraeg am gyfnod, ac o'r gweisg niferus eraill a ymddangosodd ym mhob rhan o Gymru ar ôl 1718.

Nid yn unig y darparai'r baledi hyn adloniant ar gyfer y bobl gyffredin, gyda'u cyfeiriadau at garwriaeth, crefydd, chwedloniaeth, llên gwerin ac arferion newydd fel yfed te, ond fe ddaethpwyd i'w hystyried a'u gwerthfawrogi hefyd fel ffynhonnell gwybodaeth, yn eu hymgais i fodloni awydd y cyhoedd am gael gwybod am y llofruddiaethau diweddaraf, damweiniau yn y pyllau glo, llongddrylliadau, heintiau a daeargrynfeydd, yn ogystal â'r newyddion diweddaraf o faes y gad yn Ffrainc, America, yr India a'r Crimea. Dim ond pan ddechreuodd papurau newydd Cymraeg ymddangos yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg y dechreuodd y baledi golli eu lle fel cyfrwng i gadw'r dyn cyffredin mewn cysylltiad â'r byd y tu allan i ffiniau ei blwyf.

Lewis Morris (Llywelyn Ddu o Fôn) oedd y cyntaf i geisio sefydlu cylchgrawn cyfnodol yng Nghymru. Sefydlodd wasg argraffu yng Nghaergybi yn 1735 ac oddi yno dechreuodd gyhoeddi cylchgrawn chwarterol o dan yr enw Tlysau yr Hen Oesoedd; y mae copi o'r unig argraffiad a ymddangosodd yn y Llyfrgell Brydeinig.

Cyhoeddi Papurau Newydd

Daeth cyhoeddi papurau newydd yn hwyr i Gymru o'i gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig. Gellir egluro hyn yn rhannol drwy gyfeirio at y diffyg cysylltiadau a phoblogaeth wasgaredig a thenau a oedd i raddau helaeth yn ddi-Saesneg. Yr oedd papurau dwyieithog, a geisiai ddarparu ar gyfer siaradwyr Cymraeg a'r elfen fechan Saesneg ei hiaith, o dan anfantais o'u cymharu â phapurau unieithog am fod eu gofod newyddion yn fwy cyfyngedig, ac yr oeddynt yn ddrud i'w cynhyrchu. Yr oedd poblogaeth y trefi mwy fel Caerdydd ac Abertawe wedi derbyn gwasanaeth papurau a gyhoeddwyd yn gynharach ym Mryste, Caerloyw, Henffordd a Llundain.

Gwlad fechan o ryw 8,000 milltir sgwâr yw Cymru, a phoblogaeth yn 1801 o tua 580,000 o gymharu â 8.5 miliwn Lloegr. Ymddangosodd y Cambrian y papur newydd cyntaf i'w gyhoeddi yng Nghymru yn Abertawe yn 1804. Yr oedd Abertawe ar y pryd yn dechrau datblygu'n dref fasnachol a diwydiannol brysur, a chanddi'r cysylltiadau angenrheidiol i ddosbarthu papur newydd i'r lleiafrif Saesneg eu hiaith ym mhrif drefi De Cymru. Yn fuan wedyn, yn 1808, cyhoeddwyd y North Wales Gazette ym Mangor, wythnosolyn cyntaf Gogledd Cymru. Saesneg oedd y ddau bapur, a chefnogid hwy gan deuluoedd lleol dylanwadol yn ogystal â Saeson megis yr Hayes a'r Dillwyniaid, Abertawe a'r Browns a'r Brosters ym Mangor. Dwy flynedd yn ddiweddarach yr oedd papur arall i ymddangos - y Carmarthen Journal - a geisiai am ei ddarllenwyr yng Ngorllewin Cymru. Ceidwadol oedd naws y ddau bapur olaf a enwyd, a goroesodd y ddau hyd heddiw.

Ymddangosodd yr wythnosolyn Cymraeg cyntaf yn 1814. Seren Gomer oedd ei enw, ac fel yn achos y Cambrian, lleolwyd ef yn Abertawe. Yn wahanol i'r papurau eraill a enwyd yn barod, gwelai Seren Gomer ei hun fel papur cenedlaethol a'i fryd ar wasanaethu Cymru gyfan. Yr oedd ei ymddangosiad yn ganlyniad i'r alwad am ddiwygio'r senedd a ddaeth yn sgil rhyfeloedd Napoleon, a disgrifiwyd ei sefydlydd a'i olygydd, Joseph Harris Gomer fel diwygiwr cymedrol a wrthwynebai pob math o drais a thywallt gwaed. Tynnai sylw at gyflwr truenus cynrychiolaeth seneddol yng Nghymru, a galwai am ail-rannu seddau, estyniad yr etholfraint, a diwygiad etholiadol. Er hynny, byr fu parhad yr ymdrech lew hon i ddileu difrawder y Cymry yn y cyfeiriad hwn. Oherwydd y dreth drom a roid ar bapurau newydd y dydd, a'r anawsterau a brofwyd wrth geisio dosbarthu'r papur led-led Cymru, daeth i ben yn Awst 1815. Ail-ymddangosodd yn bythefnosolyn yn 1818, ac aeth yn fisolyn yn 1820.

Dechreuodd papurau newydd Cymraeg eraill ymddangos yn fuan ar ôl y gostyngiad yn y dreth stamp yn 1836. Y cyntaf ohonynt oedd Cronicl yr Oes (Yr Wyddgrug 1836), er i'r ddau argraffiad cyntaf ymddangos o dan y teitl Y Newyddiadur Wythnosol. Ar ôl y trydydd argraffiad cymerodd Roger Edwards, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Yr Wyddgrug, at yr olygyddiaeth ac aeth y papur yn rhyddfrydol o ran ei wleidyddiaeth. Dilynwyd ef yn fuan gan Y Papur Newydd Cymraeg (Caernarfon 1836), a'r amryddawn Hugh Hughes yn ei berchen a'i argraffu.

Un papur newydd Cymraeg o gryn bwysigrwydd oedd Yr Amserau o dan olygyddiaeth y gwron radical William Rees (Gwilym Hiraethog). Ei uchelgais ef oedd deffro ei gyd-wladwyr i'w hawliau fel dinasyddion, eu darbwyllo i feddwl drostynt eu hunain, a'u diddyfnu'n gyffredinol oddi wrth eu taeogrwydd. Dechreuwyd cyhoeddi'r Amserau yn Lerpwl yn 1843, ond erbyn Gorffennaf 1848 (rhif 117) yr hyn a geid yn yr argraffnod oedd "Printed and Published in Douglas, Isle of Man, by John Lloyd at the Mona'r Herald and Printing Office, top of Post Office Lane in the said town". Mae'n amlwg mai ymgais oedd hyn, fel yn achos Cronicl Cymru, i osgoi'r dreth stamp, a pharhaodd pethau felly hyd Medi 29ain, 1848, pan gyhoeddwyd mai hwnnw fyddai'r argraffiad olaf i'w gyhoeddi ar Ynys Manaw, a lle ceir y golygydd yn cwyno am yr anawsterau cyhoeddi a'i hwynebai beth bynnag. Prynwyd Yr Amserau yn 1859 gan un arall o gewri'r byd cyhoeddi yng Nghymru, Thomas Gee, Dinbych, a'i uno a'i Faner Cymru i ffurfio Baner ac Amserau Cymru, a oroesodd hyd 1992 fel wythnosolyn cyfredol/llenyddol o dan y teitl syml Y Faner.

Yn 1855, ychydig cyn diddymu'r Ddeddf Stamp, cyhoeddodd James Rees Yr Herald Cymraeg (Caernarfon), papur newydd arall sydd wedi goroesi hyd heddiw. Yn ddiweddarach, yn 1877, cyhoeddwyd Y Genedl Gymraeg (Caernarfon), wythnosolyn radical o dan ofal cwmni o ryddfrydwyr lleol, yn cynnwys David Lloyd George a wrthwynebai safbwynt uniongred Yr Herald. Bu rhai o newyddiadurwyr blaenaf y cyfnod yn gysylltiedig ag ef, a'i olygydd cyntaf oedd Beriah Gwynfe Evans. Yn 1888 ffurfiodd Lloyd George gwmni arall i sefydlu Udgorn Rhyddid, papur cenedlaethol radical arall i'w gynorthwyo yn ei gais i fynd yn Aelod Seneddol. Collodd ddidordeb yn y papur ar ôl ei ethol i'r Senedd yn 1890.

Yn ne Cymru argraffwyd Y Gwron Cymreig (Merthyr a'r Bont-faen, 1838-1839) gan Josiah Thomas Jones, gynt o Gaernarfon, un o arloeswyr y wasg bapur newydd Gymraeg. Atgyfodwyd ef yn 1852 fel pythefnosolyn a gyhoeddid gan J. T. Jones yng Nghaerfyrddin ac yn ddiweddarach yn Aberdâr a oedd yn datblygu yn un o ganolfannau meysydd glo'r de. Fel y gellid disgwyl, yr oedd y papur yn wrth-sefydliad ei dueddiadau, a chefnogai'r gweithwyr yn erbyn perchenogion y gweithfeydd glo. Ymddangosodd Y Gwladgarwr (Aberdâr 1858) fel wythnosolyn, cyhoeddiad radical fel Y Gwron, ond heb fod mor angerddol wleidyddol. Beirniedid ef weithiau am roi gormod o ofod i eisteddfodau a gweithgareddau llenyddol. Yr oedd i'r Gweithiwr (Aberdâr 1858) fwy o apêl boblogaidd na'r Gwron gan geisio difyrru'r darllenwyr gwerinol â phethau fel stori gyfres a chornel y teulu. Byr fu ei barhad, a hynny i raddau efallai am mai J. T. Jones - gwr â chanddo ddawn i ddenu helbul - a'i sefydlodd, a'i golygai, ac a'i hargraffai. Mae'n debyg mai'r mwyaf dylanwadol o blith y papurau newydd Cymraeg de Cymru oedd Tarian y Gweithiwr a'i apêl at lowyr a gweithwyr tun yr ardal, a ymddangosodd am y tro cyntaf yn 1875 ac a barhaodd hyd 1931. Papur tebyg iddo yng Ngogledd Cymru oedd Y Chwarelwr (Llanberis 1891), cyhoeddiad a anelid yn bennaf at chwarelwyr sir Gaernarfon, ac yn ddiweddarach Y Dinesydd a gyhoeddid o Fangor rhwng y 90au a'r Rhyfel Mawr.

Cyhoeddiadau enwadol mewn gwirionedd oedd y papurau newydd canlynol a berthynai i'r cyfnod hwn: Seren Gomer (1851), Y Tyst (1867), Y Goleuad (1869), Y Gwyliedydd (1877) a'r Llan a'r Dywysogaeth (1881). Gellir eu hystyried yn "bapurau newydd" cenedlaethol o ddiddordeb cyffredinol i'r graddau eu bod yn cynnwys newyddion am faterion cartref a rhyngwladol ac yn darparu arweiniad ar bynciau gwleidyddol a lleol y dydd.

Un papur nad oes yr un copi ohono wedi goroesi yn anffodus, yw'r Cronicl Wythnosol. Ni ellir amau iddo fodoli ym 50au'r ganrif ddiwethaf, gan fod gennym dystiolaeth ei olygydd Lewis W. Lewis (Llew Llwyfo), bardd a diddanwr. Ym mis Gorffennaf 1877 ysgrifennodd fel hyn yn Y Darlunydd:

Ym mhen enyd cefais y fraint o fod yn gydswyddog âg Ieuan Gwyllt, yn yr un swyddfa, yn ngwasanaeth yr hybarch Mr John Lloyd, perchennog a chyhoeddwr yr Amserau ... Efe a ddilynodd ... Hiraethog fel golygydd yr Amserau, a minnau a benodwyd yn olygydd papyr ceiniog o'r enw y Cronicl Wythnosol yn cael ei gyhoeddi ... yn yr un swyddfa. Byddem o angenrheidrwydd, yn gorfod ymgynghori â'n gilydd beunydd ... Yr oedd rhyfel y Crimea yn ei angerddoldeb ar y pryd, a'r holl wlad, oddigerth ychydig bersonau mwy pellweledol a gwrol na'r lluaws, mewn math o dwymyn neu gynddaredd o ddigllonedd yn erbyn Rwsia ac o blaid Twrci. Taflodd Ieuan Gwyllt ... ei holl alluoedd o blaid caredigion heddwch ... Yr wyf yn cyfaddef fy mod i ... yn mhlith y gwallgofiaid gwrth-Rwsiaidd ... Aeth y Cronicl Wythnosol yn fwy poblogaidd na'r Amserau ... oblegid y llanw rhyfelgar oedd wedi gorlifo'r wlad.

Byddai'r Cronicl Wythnosol heb amheuaeth, yn ddeunydd darllen cyfareddol heddiw. Ai gormod fyddai gobeithio bod copi - neu rediad cyflawn hyd yn oed! - yn disgwyl ei ddarganfod mewn rhyw gornel anghofiedig?

The Cambrian Daily Leader a ymddangosodd yn 1861 oedd y papur newydd dyddiol cyntaf i'w gyhoeddi yng Nghymru. Dilynwyd ef gan y South Wales Daily News (Caerdydd 1872) a'r South Wales Daily Post (Abertawe 1893), ond y Western Mail a ddatblygodd i fod yn flaenaf ymhlith papurau dyddiol Cymru, ac felly y pery hyd heddiw. Sefydlwyd ef yn bapur ceidwadol ar ôl estyniad yr etholfraint yn 1867, ond hyrwyddodd hefyd ddyheadau cenedlaethol Cymreig drwy gynnwys pob agwedd ar y bywyd Cymreig, yn gymaint felly nes cael ei ddisgrifio gan ysgrifennwr Rhyddfrydol yn 1895 fel "yr asiantaeth genedlaethu gryfaf sydd gennym yn y wlad".

Yng ngogledd Cymru lle nad ymddangosodd yr un papur dyddiol, cyhoeddid y North Wales Chronicle (Bangor 1827) yn wythnosol, ac fel yn achos y Western Mail, y mae wedi para hyd heddiw. Fel y Western Mail hefyd, papur ceidwadol oedd yntau, sy'n eithriad, gan mai radical o ran agwedd oedd tuedd y rhan fwyaf o'r papurau newydd a gyhoeddwyd yng Nghymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Heriwyd ef yn 1831 gan y Carnarvon Herald, a aeth yn Carnarvon and Denbigh Herald yn 1836, ac sy'n para heddiw o dan y teitl hwnnw. Fel yn Ne Cymru yn hanes y Monmouthshire Merlin (Casnewydd 1829) a'r Glamorgan, Monmouth and Brecon Gazette and Merthyr Guardian, a adnabyddir wrth yr enw Merthyr Guardian (Merthyr 1832, Caerdydd 1841), yr oedd ymrafael parhaus rhwng y ddau bapur gogleddol hyn oherwydd eu gwahanol safiadau gwleidyddol.

Yn hwyr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg bu effaith diwydiannu yn helaeth ar dwf y diwydiant papur newydd yng Nghymru. Bu cynnydd sydyn ym mhoblogaeth yr ardaloedd diwydiannol megis maes glo'r De. Datblygodd porthladdoedd, trefi marchnad a chanolfannau gwyliau fel canlyniad, a rhoddwyd lle blaenllaw i wella ffyrdd a chysylltiadau'r post. Yn 1855 dilewyd y dreth ar hysbysebu, a'r doll ar bapurau newydd, gan agor y fflodiardau yng Nghymru fel yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Erbyn 1860 cyhoeddid 25 o bapurau newydd yng Nghymru, ffigwr a gododd i 61 yn ystod yr ugain mlynedd nesaf, 13 o'r rheini yn yr iaith Gymraeg, ac i 95, a 15 ohonynt yn Gymraeg, erbyn 1893.

Nid yw'n syndod efallai bod J.E. Vincent yn gallu dweud yn y Times yn 1893:

Bu twf newyddiaduraeth, ac yn enwedig newyddiaduraeth yn yr iaith frodorol, yn y Dywysogaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf hyn, yn ymylu ar y rhyfeddol. Fy argraff i yw fod Cymru yn cynnal mwy o gyfnodolion mewn cyfartaledd i'w phoblogaeth nag unrhyw ran arall o'r byd gwareiddiedig. (o J E Vincent, Letters from Wales, (London, 1889), 118)

Am y cyfnodolion hyn, ysgrifennodd R.D. Rees:

Fel yr aeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg rhagddi profodd golygyddion a chyhoeddwyr papurau newydd y cyfnod, fel eu cymheiriaid yn Iwerddon, yn offerynnau effeithiol yn natblygiad barn genedlaethol ac y mae iddynt le blaenllaw yn llên gwerin y traddodiad radical Cymreig.(o R D Rees, 'South Wales and Monmouthshire newspapers under the Stamp Acts', Welsh History Review, 1 (1960), 301)

Un nodwedd ar bapurau newydd Cymreig y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd y modd awchus yr ymosodent ar eu gwrthwynebwyr - gwleidyddol, crefyddol neu fel arall - a dibendrawdod ymddangosiadol eu difenwi personol. Un papur a safai mewn dosbarth ar ei ben ei hun lle oedd difrïaeth yn bod, oedd y papur Saesneg byrhoedlog The Figaro in Wales a gyhoeddwyd ym Mangor rhwng 1835 a 1836, gan Robert Jones, er na ddaeth enwau ei wir noddwyr erioed i'r amlwg. Dywed Dr Thomas Richards, llyfrgellydd Coleg y Brifysgol Bangor gynt, na fu erioed bapur mor ffyrnig o ddi-dderbyn- wyneb. Ei brif dargedau oedd pobl ddylanwadol Bangor a Chaernarfon - yn enwedig yr olaf, gan gynnwys criw o Dorïaid lleol â'u bryd ar reoli'r Banc Cynilo a'r harbwr yn ogystal â'r Cyngor Tref yno. Ym Mangor anelai ei saethau gan mwyaf at awdurdodau'r Eglwys Gadeiriol, yn enwedig y rhai hynny a oedd wedi etifeddu segurswyddi drwy ddylanwad teulu'r diweddar Esgob Warren. Ond bob amser yr oedd yn fater o ddyrnu Torïaid. Galwyd y Whig James Hews Bransby, golygydd cyntaf y Carnarvon Herald yn "arch-ragrithiwr", "ysbïwr Torïaidd", "pryf sidan Judas" a "cabolwr esgyrn Penrhos", ac addawyd i ddarllenwyr y Figaro, adroddiad llawn am yrfa Bransby (yn cynnwys hanes ei symudiad brysiog o Dudley i Ogledd Cymru fel canlyniad i ryw weithgareddau amheus yn ei ymwneud â banc cynilo yno). Ni welodd yr erthygl hon olau dydd, ond erbyn diwedd 1835 yr oedd y Figaro wedi erlid Bransby o olygyddiaeth yr Herald ac wedi llwyddo i wneud Torïaid Caernarfon yn lleiafrif ar y Cyngor Tref. Hwn oedd y papur newydd Cymreig cyntaf i gynnwys darlun.

Y mae'n wybyddus bod papurau newydd cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel y Figaro yn cael eu gyrru i'r Swyddfa Gartref, hwythau'n cael eu cynorthwyo gan wirfoddolwyr o blith ynadon Torïaid a gwҲ eglwysig a fyddai'n aml yn tanlinellu yr hyn a ystyrient hwy yn ddeunydd peryglus yn eu copïau hwy, ac yn eu gyrru i'r Swyddfa Gartref. Ymhlith y targedau amlwg o blith papurau Cymreig y cyfnod oedd y rhai hynny a gefnogai achos y siartwyr, fel Udgorn Cymru a'i gymheiriad yr Advocate, dau bapur y tynnwyd sylw'r awdurdodau atynt yn eu tro fel rhai a oedd yn peryglu diogelwch y deyrnas, ond na ddigwyddodd dim gwaeth iddynt na derbyn rhybudd. Morgan Williams a David John a redai'r papurau hyn, y blaenaf yn aelod o Gynghrair Cenedlaethol y siartwyr, a'r olaf yn un o gefnogwyr brwd y mudiad. Cyfieithwyd rhannau o'r Utgorn a'u gyrru i'r Swyddfa Gartref, fel hefyd yn achos Y Gweithiwr (Merthyr 1834), papur arall a gynhwysai ddeunydd Cymraeg y cyfieithwyd rhannau ohono a'i anfon i'r un lle. Papur John Frost, Etheridge, Partridge a radicaliaid eraill o Gasnewydd, oedd y Newport and Monmouthshire Register (1822) - papur a arweiniodd ymgyrch yn erbyn Corfforaeth Casnewydd. Felly hefyd yn achos y Cardiff Recorder a'r Cardiff Reporter - dau bapur a ymddangosodd yn 1822, ac a argreffid yn afreolaidd er mwyn osgoi cyfyngiadau'r Ddeddf Toll Stamp. Arllwysai'r cyntaf ddirmyg ar ben Corfforaeth Bute, grŵp a oedd yn awyddus i reoli etholiadau i swyddi bwrdeistrefol a phleidlais seneddol Caerdydd, tra argreffid yr ail i gefnogi Wyndham Lewis o Greenmeadow yn ei ymgais seneddol yn erbyn yr Arglwydd James Stuart, brawd iau yr Ardalydd Bute. Papur dwyieithog tebyg o ran natur eto oedd y Cambrian Gazette: Y Freinlen Gymroaidd (Aberystwyth 1836). Byrhoedlog ar y cyfan oedd y papurau hyn a rhai tebyg iddynt a gyhoeddwyd yn y cyfnod.

Rhwng 1833-39 cyhuddwyd y Welshman, papur Whigaidd a sefydlwyd i fod yn enau i Glwb Diwygiadol Caerfyrddin, o enllib bump o weithiau yn ystod y cyfnod gan ynadon Torïaid Caerfyrddin. Yn y de-ddwyrain, fel y dywedwyd uchod, yr oedd yn rhyfel agored rhwng y papur Whigaidd Monmouthshire Merlin (1832) a'r Merthyr Guardian Torïaidd, a sefydlwyd yn fuan wedyn i wrthwynebu "gwenwyn bradwrus" yr athrawiaeth Anghydffurfiol a ledaenid gan y Merlin. Er i'r Guardian gael peth llwyddiant yn yr ardaloedd o gwmpas, daeth yn amlwg yn fuan nad oedd yn cael unrhyw effaith ym Merthyr ei hun, "y ffos honno o Radicaliaeth anaele". Un a syllai ar y rhyfeloedd geiriau hyn gyda gofid oedd y Parchedig David Charles, Caerfyrddin, y pregethwr a'r emynydd, a chan nad yw'n hawdd taro ar farn gyfoes am enedigaeth a thwf y papur newydd yng Nghymru, y mae'n werth dyfynnu yma ei eiriau wrth annerch Sasiwn yn 1864:

I remember the time when there was not a single Welsh newspaper published in Wales. But matters have much changed since. The newspapers are now more powerful than any other literary effort, but I look upon them, I am sorry to say, with regret; for instead of elevating and improving the taste of the public, they lend themselves to personalities and abuse by giving opportunities to the refuse of the people to blacken the character, and traduce the reputation of public men and public institutions. They encourage disputes and bad feelings, and allow their columns to be used by jealous and disappointed individuals, under assumed names, to pour their venom upon men in whose presence they would not dare to speak. What is the reason that Welsh newspapers are so personal? Does it increase the circulation? If so, the object is low and contemptible. Is it not possible to sustain a newspaper, guided by honourable and worthy motives - one that we can admit into our houses without fear, and where questions would be discussed with intelligence, ability and in the spirit of the Gospel? (o D Tudor Evans, Transactions of the National Eisteddfod, (Cardiff, 1883), 216)

Yr Ugeinfed Ganrif

Bu newidiadau mawr ym myd cyhoeddi papurau newydd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Daeth y papurau yn fwy poblogaidd o ran eu cynnwys wrth i fwy o ofod gael ei neilltuo ar gyfer newyddion lleol megis priodasau a marwolaethau, ond daethant hefyd yn gyfrwng lledaenu barn wleidyddol. Yng Nghymru y mae Llais Llafur (1899 - 1915) yn enghraifft dda o'r math yma o bapur. O dan ei berchennog, Ebeneser Rees, daeth yn bapur diddorol a darllenadwy, a oedd yn cynnwys erthyglau ar sosialaeth. Hwn hefyd oedd y cyfnod a welodd ddatblygiad radio, a olygai dderbyn newyddion tramor yn gynt. Erbyn y 1950au dangosai ffigyrau dosbarthu fod papurau newydd yn colli tir, a pharhaodd y duedd hon i'r 60au. Nid oes amheuaeth fod gan ddatblygiad radio a theledu ran yn y dirywiad hwn, yn arbennig felly sefydlu gwasanaeth Teledu Annibynnol a'i ddiddordeb ym myd hysbysebu, byd pwysig iawn o safbwynt y diwydiant papurau newydd.

Rhwng 1973 a Rhagfyr 1990 sefydlwyd 52 o bapurau bro Cymraeg eu hiaith yng Nghymru, a dim ond ychydig a ddaeth i ben yn y cyfamser. Sefydlwyd y cyntaf - Y Dinesydd - yng Nghaerdydd yn 1973, fel papur cymuned ar gyfer siaradwyr Cymraeg y brifddinas. Dilynwyd yr esiampl hon yn fuan gan ardaloedd llai a mwy gwledig fel ardal Tal-y-bont yng ngogledd Ceredigion a mannau eraill, lle teimlai unigolion ei bod yn bryd ymdrechu yn erbyn difaterwch y papurau lleol a oedd eisoes yn bod parthed y defnydd o'r iaith Gymraeg. Hyd yn oed mewn ardaloedd lle siaredid Cymraeg gan fwy na 60% o'r darllenwyr, yr oedd cyfanswm y Gymraeg a ddarperid ar eu cyfer gan eu papurau lleol yn isel tu hwnt, a chyfarfodydd a gweithgaredd cwbl Gymraeg yn cael eu trafod yn Saesneg. Dim ond dau wythnosolyn Cymraeg cenedlaethol a oedd ar gael ar y pryd - Baner ac Amserau Cymru a'r Cymro - y blaenaf yn troi'n gyhoeddiad materion cyfoes ar ôl 1972 gan barhau hyd 1992 - tra yng Ngwynedd yr oedd pedwar wythnosolyn Cymraeg arall yn cylchredeg - Yr Herald Cymraeg a Herald MônY Dydd (Dolgellau) a'r Cyfnod (Bala). Yr oedd yn amlwg i'r rhai hynny a fyfyriai ar y sefyllfa bod llawer iawn o siaradwyr Cymraeg led-led Cymru nad oeddynt yn darllen fawr ddim "newyddiadurol" drwy gyfrwng eu hiaith eu hunain.

Y mae adroddiad ar "Y Papurau Bro - Y Presennol a'r Dyfodol", a baratowyd gan Dr Emyr W. Williams yn 1990 yn dangos bod 5 papur bro wedi eu sefydlu mewn gwahanol rannau o Gymru rhwng 1973 a 1974, 12 rhwng 1975 - 6 a 14 rhwng 1977 (blwyddyn yr uchafbwynt) a 1978. Bu tyfiant cyson ers hynny nes bod 52 o bapurau yn bod ar hyn o bryd fel y dywedwyd uchod. Yn ôl yr Adroddiad, argraffir tua 70,000 o gopïau'n fisol, a chyda 4 person ar gyfartaledd yn gweld pob copi, y mae iddynt tua 280,000 o ddarllenwyr bob mis - ffigwr sy'n uwch na holl ddarllenwyr y Western Mail a'r Daily Post gyda'i gilydd.

Menter gwbl wirfoddol yw pob papur bro, ac amrywiant dipyn o ran maint, arddull a fformat. Cysodir rhai yn broffesiynol, defnyddir prosesyddion geiriau gan eraill tra gwelir rhai yn dal i ddefnyddio amrywiol deipiaduron. Derbyniant grantiau cymharol fach gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ond mae eu bodolaeth yn dibynnu'n fwy ar werthiant, hysbysebion lleol, a gweithgareddau codi arian lleol, sydd ynddynt eu hunain yn is-gynhyrchion cymunedol pwysig. Plwyfol, yn ystyr orau'r gair, yw'r newyddion a geir ynddynt, ond yn aml y maent yn ffenest i'r byd i'r graddau eu bod yn cynnwys adroddiadau gan drigolion lleol, neu am drigolion lleol sydd wedi ymweld â rhannau dieithr o'r byd, neu sy'n byw dramor. Tueddant i fod yn anwleidyddol, ond nid ydynt yn fyr o leisio safbwynt ar faterion dadleuol, nac o ddarparu arweiniad i'r gymuned pan fo angen hynny. Un feirniadaeth ohonynt y gellir o bosib ei gwneud yw eu bod yn tueddu i ganolbwyntio ar y newyddion "da", ac i osgoi pethau fel hanes llysoedd lleol, ysgariadau ac ati, a'u gadael i'r papur lleol traddodiadol, Saesneg ei iaith yn bennaf.

Gwendid o fewn pob menter wirfoddol yw y gall y diddordeb bylu ar ôl y brwdfrydedd cyntaf, a chlywid y wireb hon yn aml yn nyddiau sefydlu'r papurau bro cyntaf. Dilynid marw rhai papurau cynnar gan broffwydoliaethau y byddai'r mudiad cyfan yn methu'n fuan, ond ni ddigwyddodd hyn, ac ugain mlynedd yn ddiweddarach y mae'r Adroddiad a gynhyrchwyd gan Dr Emyr Williams yn sôn am nifer diddorol o bosibiliadau hir-dymor eraill, a allai osod y 52 papur sy'n bod ar sail ariannol ddiogel a fyddai'n sicrhau eu parhad i'r dyfodol, ac o bosib eu datblygiad yng nghyflawnder yr amser, i fod yn gyhoeddiadau wythnosol rheolaidd.

Cyhoeddi Cymraeg Dramor

Weithiau, gellid dod ar draws cyhoeddi papurau a chylchgronau Cymreig y tu allan i Gymru - yn Llundain a Lerpwl, er enghraifft, ac ymhellach o lawer yn America ac Awstralia. Fel yn achos pobloedd o bob rhan o Ewrop, bu America yn dynfa anodd ei gwrthsefyll i'r Cymry yn ystod y rhan gyntaf o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn enwedig yn sgil datblygiad y diwydiannau dur a glo, a chwareli llechi ym Mhensylfania. Anghydffurfwyr pybyr oedd y rhan fwyaf o'r ymfudwyr o Gymru, a buan yr aeth y gwahanol enwadau ati i godi capeli a fyddai'n ganolfannau i'w gweithgareddau. Dyma'r math o gymdeithas, a fodelwyd yn glos ar y gymdeithas yn "yr hen wlad", y ceisiodd y wasg ei gwasanaethu, ac nid yw'n syn mai'r cylchgronau enwadol a lwyddodd orau, fel yng Nghymru ei hun. Y cyntaf o blith y rhain oedd Y Cyfaill o'r Hen Wlad, a sefydlwyd yn 1838 gan William Rowlands, fel cyhoeddiad rhyngenwadol, ond a ddaeth yn fuan i fod yn gyhoeddiad swyddogol y Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg yn America, ac a oroesodd hyd 1933. Dilynwyd yr esiampl hon gan y ddau brif enwad arall, yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr. Y Cenhadwr Americanaidd oedd papur y cyntaf, a ymddangosodd rhwng 1840 a 1904 a'r Seren Orllewinol (1844-1867) a'r Wawr Americanaidd (1872-1896) yn achos yr ail. Er fod y cylchgronau hyn wedi eu huniaethu'n glos â'r enwadau a'u noddai hwynt, eto nid enwadol a chrefyddol yn unig oeddynt o ran cynnwys. Yn aml, cynhwysent newyddion y dydd, boed genedlaethol neu dramor, ynghyd â sylwebaeth ar faterion y dydd, megis caethwasiaeth, dirwest ac yn y blaen.

Y papur newydd Cymraeg cyntaf i'w gyhoeddi yn America i wasanaethu'r ffrwd gyson o ymfudwyr o Gymru i America oedd Cymro America, a sefydlwyd yn 1832 gan John A. Williams, a fu unwaith yn argraffydd yn Abertawe. Pythefnosolyn dwyieithog oedd hwn, a bu fyw am fis yn unig. Byr hefyd fu bywyd ei ddilynydd fel papur newydd Cymreig, Haul Gomer, a ddaeth i ben ei daith ar ôl naw rhifyn. Dilynwyd y rhain gan eraill, byr eu parhad, gan roi cyfanswm o 18 o bapurau a sefydlwyd rhwng 1832 a'r 1920au, ac a anelwyd at y Cymry Americanaidd. Er hynny, cafodd rhai eraill fywyd meithach. Goroesodd Cymro Americaidd, a argraffwyd yn Efrog Newydd, am bum mlynedd rhwng 1855 a 1860, tra llwyddodd Colomen Columbia, a gyhoeddid yn Kansas a'r Wasg a gyhoeddid yn Pittsburg, i oroesi am 10 mlynedd (1883-93) yn achos y cyntaf, a 19 o flynyddoedd (1871-90) yn achos yr ail. Ond y mwyaf llwyddiannus yn eu plith oedd Y Drych Americanaidd, a gyhoeddwyd yn gyntaf yn Efrog Newydd yn 1851 ond a symudodd yn 1861 i Utica, a ddaeth yn ganolfan gyhoeddi yn y iaith Gymraeg, a sefydlu ei hun yno fel y prif bapur newydd ymhlith y Cymry yn America. Parhaodd yn gyhoeddiad Cymraeg ei iaith hyd dridegau cynnar y ganrif bresennol, gan droi'n fisolyn yn 1940, ond cyhoeddir ef o hyd - yn bapur newydd Saesneg ei iaith - ym Milwaukee, Wisconsin. Arweiniodd datblygiad papurau bro Cymraeg at sefydlu cyhoeddiad tebyg yn America o'r enw Ninnau:papur bro Gogledd America a ymddangosodd gyntaf fel misolyn yn 1975 ac sy's parhau heddiw.

Yr oedd sefydlu gwladfa ym Mhatagonia yn 1865, i arwain at ymddangosiad papurau newydd Cymraeg eraill ymhell o'r famwlad. Ni oroesodd Y Brut, a ymddangosodd mewn llawysgrif am gyfnod byr ar ôl 1868. Y mae'r un peth yn wir am Ein Breiniad, a gyhoeddwyd yn 1878, ond yn 1891, sefydlodd Lewis Jones, un o arloeswyr y wladfa, bapur newydd Cymraeg wythnosol o'r enw Y Drafod, a pharhaodd i ymddangos felly hyd 1961. Heddiw fe'i cyhoeddir yn chwarterol, a'r rhan fwyaf o'i gynnwys yn Sbaeneg.

Yr oedd ymfudo o Gymru i Awstralia ar raddfa llawer llai na'r un i America, ond yma eto gwnaed ymdrechion i ddarparu cyhoeddiadau cyfnodol ar gyfer yr ymfudwyr yn eu hiaith eu hunain. Cofnodwyd tri theitl, sef, Yr Ymgeisydd, a ddaeth i ben yn ôl pob golwg ar ôl ei rifyn cyntaf yn 1865, yr Awstralydd, a ymddangosodd rhwng 1866 a 1872, a'r Ymwelydd, a gyhoeddwyd gyntaf yn 1874, ac a oroesodd hyd 1876.