Symud i'r prif gynnwys

Uchafbwyntiau

  • Ymhlith y prif engrafwyr cynnar oedd y brodyr Samuel a Nathaniel Buck, a gynhyrchodd olygfeydd o gestyll, mynachlogydd, abatai a hynafiaethau eraill ynghyd â nifer o olygfeydd o drefi, 1740–42. Mae cyfres gyflawn o’u gwaith yng Nghymru ac yn Lloegr yn y casgliad.
  • Printiau acwatint sepia gwych Paul Sandby o olygfeydd yng Nghymru (Views in Wales, 1755) oedd y rhai cyntaf i’w cyhoeddi yng Ngwledydd Prydain, a’r golygfeydd Cymreig cyntaf i gael sylw eang.
  • Gwelir yr enghreifftiau gorau o acwatint lliw yn ‘A Voyage Round Great Britain gan Richard Ayton a William Daniel, 1813. William Daniel oedd yn gyfrifol am y printiau.
  • Cyhoeddwyd Rivers of Wales, J G Wood yn 1813. Ymhlith ysgythriadau Wood mae gweithfeydd haearn Cyfarthfa a Phenydarren ynghyd a gweithfeydd copr Treforys.
  • Ymddangosodd golygfeydd acwatint Edward Pugh yn ‘Cambria Depicta’ yn 1816. Yma ceir darluniau o weithfeydd copr Mynydd Parys, Ynys Môn. 
  • Hugh Hughes oedd yn gyfrifol am ‘The Beauties of Cambria (1823); darluniwyd hwn gan engrafiadau pren. 
  • Lluniau cyfarwydd iawn yw’r engrafiadau dur a wnaed gan Henry Gastineau ar gyfer ‘Wales Illustrated’ (1831).

Gweddill y byd

Er mai eitemau Cymreig yn aml yw pwyslais casgliad printiau'r Llyfrgell, mae llawer iawn o gyfrolau yn ymdrin â gwledydd Prydain yn gyffredinol neu'n ymwneud â thestunau arbennig - er enghraifft:

  • Lithograffau'r Fonesig Llanofer o'r wisg Gymreig yn 1834
  • Printiau gan yr arlunwyr Rembrandt a Whistler a ddaeth i’r Llyfrgell fel cymynrodd y chwiorydd Davies, Gregynog

Gallwch weld ein printiau ar y Catalog.