Casgliad dyfrliwiau
Darganfuwyd Cymru am y tro cyntaf gan lawer o artistiaid blaenllaw yn ail hanner y 18fed ganrif. Adlewyrchir hyn yng nghasgliad dyfrliwiau’r Llyfrgell sydd yn cynnwys gwaith:
- Samuel Hieronymus Grimm a deithiodd drwy Gymru yn 1777 gan lunio ei olygfeydd Cymreig
- Thomas Pennant, Downing, Sir y Fflint, a gyhoeddodd hanes ei deithiau yng Nghymru a’r Alban 1772-1796. Gwelir copiau ysblennydd o’i gyfrolau yn y casgliad wedi eu darlunio gan Moses Griffith a John Ingleby
- Teithiodd Richard Colt-Hoare yn 1791 gan gofnodi safleoedd o ddiddordeb hynafol
- Cynnyrch ei deithiau yw lluniau Cymreig Thomas Rowlandson 1797
- John “Warwick” Smith, llywydd ‘The Old Watercolour Society’, a deithiodd yn rheolaidd drwy Gymru 1784-1804. Ceir dros 150 o’i luniau yn y casgliad