Enwogion
Cynrychiolir pobl amlwg ym mywyd cyhoeddus, crefydd, llenyddiaeth ac addysg.
- Mae casgliad cynrychioladol o enwogion Cymreig gan gynnwys portreadau dychmygol o dywysogion cynnar Cymru fel Owain Glyn Dŵr
- Ymhlith lluniau nodedig ceir portreadau o Hŵfa Môn gan Christopher Williams
- Nifer helaeth o luniau o David Lloyd George
- Dr Richard Price gan Benjamin West
- Portreadau o Bryn Terfel ac Archesgob Caergaint, Rowan Williams, gan David Griffiths
Mae casgliad bach ond arwyddocaol o bortreadau, neu hunanbortreadau gan arlunwyr modern Cymreig, megis Keith Andrew, Gwen ac Augustus John, David Jones, Charles Tunnicliffe a Kyffin Williams.
Mae’r arlunwyr portreadau eraill sy’n gysylltiedig â Chymru yn cynnwys Hugh Hughes, Thomas Rathmell, Wiliam Roos a Christopher Williams.